Menywod yng Nghymru yn 1916
Yn ystod 1916 gwelwyd cynnydd aruthrol yn niferoedd y menywod mewn gwaith cyflogedig yng Nghymru. Roedd Deddf Gwasanaeth Milwrol (mis Mawrth) yn caniatáu gorfodi pob dyn sengl a phob gŵr gweddw di-blant rhwng 18 a 41 oed i ymuno â’r lluoedd arfog a dilynwyd hwy’n fuan gan wŷr priod. Wrth i filoedd o ddynion ymuno â’r fyddin, cymerwyd eu lle gartref fwyfwy gan fenywod. Doedd gan y gweithgynhyrchwyr a chyflogwyr eraill a oedd hyd hynny wedi gwrthwynebu menywod yn gweithio fawr o ddewis mwyach, er bod yr undebau llafur yn dal yn wrthwynebus, gan boeni y byddai’r cyflogau isel a delid i fenywod yn tandorri cyflogau dynion pan ddeuai’r rhyfel i ben. Dadleuai eraill fod unrhyw fenyw oedd eisiau gweithio yn gwneud hynny eisoes, ac nad oedd cyflenwad o fenywod di-waith ar gael. Gofynnodd gohebydd yn y Carmarthen Weekly Reporter (23ain Mehefin 1916) efallai y byddai’n bosibl perswadio merched a weithiai mewn ffatrïoedd gwlân i fynd i ffermydd i chwynnu maip a godro gwartheg, ond beth ddeuai o’r ffatrïoedd gwlân? Ond erbyn diwedd y rhyfel roedd dros 40% o’r menywod o fewn oedran gweithio yn gyflogedig, yn gwneud swyddi na ellid bod wedi dychmygu y byddent yn eu gwneud ychydig flynyddoedd ynghynt.
Mae erthygl ar 18fed Chwefror yn y Barry Dock News (1,2)yn dangos bod menywod wedi dod ffordd bell ers dechrau’r rhyfel. Cyfeiria at y Groes Goch a gwaith gwirfoddol arall, ond hefyd at y rôl a chwaraeai menywod nid yn unig yn nyrsio ac mewn meddygaeth, ond mewn pob math o alwedigaethau lle nad oeddent cynt wedi gweithio o gwbl, gan gynnwys yn bostmyn (3), clercod, glanhawyr ffenestri a thocynwragedd smart a dinesig ar dramiau a bysiau, fel Edith Haines (4).
Y gweithfeydd arfau rhyfel oedd prif gyflogwyr diwydiannol menywod o hyd. Roedd telerau gwaith a thâl yn gwella. Fodd bynnag roedd yr amodau yn parhau yn beryglus ac yn annymunol. Ym mis Mawrth y cafwyd y marwolaethau cyntaf o wenwyno gan TNT (a roddai’r clefyd melyn i weithwyr, gan olygu y caent eu galw’n ‘ganeris’ oherwydd eu crwyn melyn).
Y farwolaeth gyntaf y gwyddys amdani yng Nghymru oedd un Lizzie Jones, a fu farw ar 23ain Hydref 1916. Gwnaeth rheoliadau newydd rywfaint i leddfu’r problemau hyn (5) Weithiau byddai gweithwragedd y ffatrïoedd ffrwydron yn gwisgo trowsusau, rhywbeth na ellid bod wedi ei amgyffred cyn y rhyfel. Tynnwyd lluniau nifer o ferched yn eu gwisgo’n llawn balchder, fel y ferch anhysbys hon (6) ac Olwen Leyshon (7)Roedd dros 3,500 o fenywod yn gweithio yn Ffatri Bowdwr Pen-bre yn sir Gaerfyrddin a thros 3000 yn cael eu cyflogi yn y Fferi Isaf, sir y Fflint. Ceid gweithfeydd arfau rhyfel llai o faint fan hyn fan draw ledled tirlun diwydiannol Cymru, e.e. Ffatri Teflynnau, Glyn Ebwy (8).
Creodd merched yn gwisgo trowsusau rywfaint o sgandal ym Margam, sir Forgannwg ym mis Medi. Darluniwyd dwy weithwraig fferm mewn dull tabloid ar draws tair colofn yn y Cambria Daily Leader. Gwisgent ddyngarîs i fwydo perchyll a marchogaeth ceffyl fferm (9). Honnid eu bod wedi mentro i Bort Talbot ynddynt hefyd. Roedd menywod yn cael eu hannog i fynd i weithio ar ffermydd gan bwyllgorau amaeth sirol er na ffurfiwyd Byddin y Tir tan 1917. Wrth gwrs, roedd llawer o fenywod yng Nghymru eisoes yn gweithio ar y tir, ac yn sir Gaerfyrddin, er enghraifft, awgrymwyd y dylid dweud wrthynt eu bod yn gwneud gwaith rhyfel go iawn ac y dylent gael rhwymynnau braich i wneud iddynt deimlo’n falch o’r gwaith a wnaent dros eu gwlad. (The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser 23ain Mehefin). Roedd gweithwragedd eraill yn fwy amatur, fel y rhain yn Llangollen ym mis Ebrill (10)
Wrth gwrs, wnaeth pob Cymraes ddim ymuno â’r gweithlu ffurfiol. Ond cyfrannodd bron bob un at y Rhyfel mewn rhyw ffordd. Roedd yn rhaid ymdopi â phrinder bwyd a chynnydd aruthrol ym mhrisiau bwyd, ac roedd angen gwau a gwnïo. Cynhyrchwyd llu o ‘gysuron’ i filwyr a morwyr, a chafodd hynny sylw yn y wasg. Er enghraifft, mae’r Abergavenny Chronicle ar Fawrth 3ydd 1916 (11) yn rhestru sawl enw, yn eu plith Urdd Wnïo Mozerah, Llanfihangel-y-gofion (24 crys, 24 pâr o sanau, 33 sgarff) a Mrs Mohun, British Columbia, Canada (1 pâr o sanau).
Bu farw sawl un yn 1916. Er enghraifft, o’r menywod a gofnodir ar y wefan hon: bu farw Elizabeth Anne (Lizzie) Jones o Aberteifi, gweithwraig ffatri bowdwr, o’r clefyd melyn; bu farw Frances Ethel Brace, nyrs gyda’r fyddin o sir Benfro ym Malta o falaria a ddaliodd yn Salonica, a boddodd y stiwardes Margaret Williams o Gaergybi pan suddwyd ei llong. A chollodd miloedd o fenywod eraill wŷr, cariadon, tadau, a meibion yn ymladd yn Ffrainc ac mewn mannau eraill, neu ar y môr. Collodd Beatrice Cope o Drefynwy ei mab ieuengaf Eric ar ddiwrnod cyntaf brwydr y Somme, pryd y bu farw 60,000 o ddynion yn ôl yr hanes. Dim ond 18 oed oedd e (12).
Delweddau]