Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Lily Maud Leaver
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau rhyfel , Not known / anhysbys
Marwolaeth: 1917/12/28, TNT poisoning / Gwenwyni gan TNT
Nodiadau: Ni wyddys llawer am Lily Leaver a anwyd yn 1896. Trigai ei rhieni bryd wedyn yn Abertridwr, sir Forgannwg.
Cyfeirnod: WaW0325
Lily Maud Leaver
Casglwyd ffotograff Lily gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’r casgliad o luniau menywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Elizabeth Anne (Lizzie) Jones
Man geni: Aberteifi
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1916-10-23, Aberteifi, TNT poisoning / Gwenwyno TNT
Cofeb: Senotaff, Aberteifi, Ceredigion
Nodiadau: 22 oed, wedi gweithio yn Ffatri Bowdwr Pen-bre. Hawliodd ei mam Mary Anne Williams iawndal am ei marwolaeth.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0034
Lizzie Jones
Ffotograff o Lizzie a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i chasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Gladys Irene Pritchard (née Harris)
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning / Gwenwyno TNT
Nodiadau: Roedd Gladys yn weddw’r rhyfel 28 oed. Lladdwyd ei gŵr ym Mehefin 1916. Roedd ganddi ddau o blant bach. Derbyniodd ei thad 2s yr wythnos i fagu pob un plentyn; cafodd y plant fudd hefyd o bensiwn milwrol eu tad
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0045
Gladys Pritchard
Casglwyd llun Gladys gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am grant cynnal i dad Gladys, Joseph Harries, am fagu ei phlant. Weekly Argus 11 Tachwedd 1916.
May (Mary) Prosser
Man geni: Y Gilwern
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1917
Marwolaeth: 1917-04-03, Rochdale, TNT poisoning / Gwenwyno TNT
Cofeb: Giatiau Maes Chwarae; Neuadd farchnad; Christchurch Gofilon, Gofilon, Sir Fynwy
Nodiadau: Ganwyd May yn 1891, a hi oedd pedwaredd merch gweithiwr amaethyddol a’i wraig. Dilynodd ei dwy chwaer i weithio yn forwynion yn Rochdale. Dechreuodd weithio yn y ffatri arfau rhyfel yn 1916, ond cyn pen dim trawyd hi’n wael gan ‘glefyd melyn gwenwynig’ a bu farw yng nghartref ei chwaer yn Rochdale. Roedd hi'n hefyd chwaer Nellie Prosser [qv].
Ffynonellau: Ryland Wallace: May Prosser, Munitionette. AMC/WAW Newsletter, June 2016
Cyfeirnod: WaW0046
Esther Devonald
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno gan TNT
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0009
Adroddiad papur newydd i'r cwest
Adroddiad papur newydd am y cwest i farwolaeth Esther Devonald, gweithwraig mewn ffatri arfau
Catherine (Kate ) Hill
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno TNT
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0025
Alida Gunst (née Demoine)
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Gwraig cadw ty, ffoadur
Marwolaeth: 1918/04/03, Sanatoriwm Llangwyfan, Tuberculosis / Diciau
Nodiadau: Cyhaeddodd Alida Lundain yn ffoadur o Wlad Belg ym mis Hydref 1914. Priododd Arsène Dunst yn Nyfnaint yn Ionawr 1915. Roedd e’n gwasanaethu ym myddin Gwlad Belg, ac wedi ei anafu. Ymddengys iddynt symud i Gasnewydd, lle bu hi’n gweithio yn wraig cadw tŷefallai. Daliodd hi’r diciau ayn Rhagfyr cafodd ei hanfon gan sir fynwy i Sanatoriwm Llangwyfan, sir Ddinbych, lle bu farw yn Ebrill 1918. Cafwyd anghytuno rhwng yr awdurdodaurnyng Nghasnewydd a Dinbych ynglyn â phwy ddylai dalu am ei chladdu. rn
Ffynonellau: https://refugeesinrhyl.wordpress.com/gunst/
Cyfeirnod: WaW0433
Margaret Morris
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweddw,Mam,Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: --, Tawe Lodge, Abertawe, Tuberculosis / Y diciau
Nodiadau: Dechreuodd Margaret Morris weithio yn Ffatri Bowdwr Pen-bre ar ôl i’w g?r o filwr gael ei ladd yn Awst 1916. Yno ymddengys iddi ddal y diciâu a bu farw. Gadawodd blant - 12, 8 a 2 a hanner oed.
Cyfeirnod: WaW0096
Marwolaeth Margaret Morris
Adroddiad am farwolaeth Margaret Morris, Cambrian Daily Leader 30 Ebrill 1919
Catherine J James
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Nyrs, St Johns Ambulance
Marwolaeth: 1919/12/04, Llanelli, Tuberculosis / Y diciáu
Cofeb: Capel Tabernacl, Llanelli, Sir Gaerfyddin
Nodiadau: Roedd Catherine yn Aelod o Ambiwlans Sant Ioan. Gwasanaethodd gydol y Rhyfel, ym Mhorthcawl i ddechrau ac yna yn Stebonheath, Llanelli (lle daliodd y diciáu a’i lladdodd yn 28 oed, efallai) Gwelir ei henw ar y plac coffáu’r rhyfel yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
Ffynonellau: https://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-memorials/llanelli-tabernacl-chapel-war-memorial
Cyfeirnod: WaW0404
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917