Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Ethel Annie Llewelyn
Man geni: Y Cendi
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 13/04/1921, Sanatoriwm Coffa Cenedlaethol Cymreig Llangwyfan , Tuberculosis/Twbercwlosis
Cofeb: Y Cendi, Sir Frycheiniog
Nodiadau: Ganwyd Ethel yn 1895 ac roedd yn ferch i Ficer Cendl. Gweithiai yn yr Ysbyty Cymreig, Netley, Southampton. Efallai mai yno y daliodd y ddarfodedigaeth. Claddwyd hi ym mynwent Llangwyfan.
Ffynonellau: http://firstworldwar.gwentheritage.org.uk/content/catalogue_item/ethel-annie-llewelyn-memorial-plaque
Cyfeirnod: WaW0161
Augusta Minshull
Man geni: Atherstone
Gwasanaeth: Nyrs, St John’s Ambulance, Scottish Women’s Hospital
Marwolaeth: 1915/03/21, Kraguievatz, Typhus fever / Haint teiffws
Cofeb: Nghladdfa Filwrol Chela Kula , Nĭs, Serbia
Nodiadau: Ganwyd Augusta Minshull yn 1861 yn Atherstone, ger Manceinion, ond cafodd ei magu yn Ninbych lle roedd ei rhieni yn rhedeg y Crown Hotel. Ymddengys iddi hyfforddi’n nyrs ar ôl i’w mam farw. Cafodd lu o brofiadau mewn ysbytai yn Lloegr a Dulyn. Yn 1914 ymddengys iddi deithio i Wlad Belg ac yna i Kraguievatz, Serbia yn gynnar yn 1915. Bu farw yn yr epidemig o deiffws yn 53 neu 54 oed.
Cyfeirnod: WaW0468
LlunAugusta Minshull
Casglwyd llun Augusta gan Is-bwyllgor y Menywod fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Augusta Minshull yn Serbia. Denbighshire Free Press 17th April 1915
Mabel Dearmer
Man geni: Llanbleblig, 1872
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig, Red Cross/Y Groes Goch
Marwolaeth: 1915-07-11, Serbia, Typhus/Pneumonia Teiffws/ Niwmonia
Nodiadau: Roedd Mabel Dearmer, a aned yn 1872, yn awdur, dramodydd ac arlunydd llwyddiannus llyfrau i oedolion a phlant. Roedd hi a’i gŵr y Parch. Percy Dearmer ill dau yn heddychwyr ac yn gefnogwyr y Church League for Women’s Suffrage. Pan dderbyniodd ei gŵr swydd yn gaplan y Groes Goch Brydeinig yn Serbia, gwirfoddolodd hithau i fynd hefyd, a bu farw yng Ngorffennaf 1915. Cyhoeddwyd ei llythyron adref ar ôl ei marw yn ‘Letters from a Field Hospital’.
Ffynonellau: http://britishlibrary.typepad.co.uk/untoldlives/2014/08/mabel-dearmer-in-serbia.html https://www.amazon.com/Letters-field-hospital-Mabel-Dearmer/dp/117677140X#reader_117677140X
Cyfeirnod: WaW0092
Mabel Dearmer
Casglwyd ffotograff Mabel gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel. rnrn
Rhestr Staff Ysbyty Stobart
Rhestr staff Ysbyty Stobarth, Kragujevac, Serbia. ‘Rhestrir enw ‘Dearmer, Mrs Percy’ dan y cynorthwywyr benywaidd ac roedd ei gŵr Dr P Dearmer yn Gaplan Anrhydeddus. Rhestrir Emily Hill [qv] dan ‘Chwiorydd Nyrsio’
Margaret (Maggie) Mary Evans
Man geni: Pwllheli ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, March 1914 – July 1918 / Maw
Marwolaeth: 1918/07/20, Ysbyty’r Llynges Frenhinol, Plymouth, Ubknown / Anysbys
Cofeb: Cofeb Rhyfel, Pwllheli, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Gwirfoddolodd Maggie Evans yn rhan-amser yn VAD tan 1917, pan gafodd ei hanfon i Ysbyty RC Porthmadog, ac yna yn 1918 i Ysbyty’r Llynges Frenhinol yn Plymouth, lle bu farw. Ysgrifennwyd llythyr am farwolaeth oddi wrth Mildred Lloyd Hughes [qv] Chwaer Nyrs yng ngofal i’w gyhoeddi yn Yr Udgorn 7fed Awst 1918 ( yn Saesneg)
Cyfeirnod: WaW0176
Llythyr
Ail lythyr at Isbwyllgor Gwaith y Menywod, Imperial War Museum, oddi wrth fam Maggie, Ebrill 1919
Llythyr
Ysgrifennwyd llythyr am farwolaeth oddi wrth Chwaer Nyrs yng ngofal i’w gyhoeddi yn Yr Udgorn 7fed Awst 1918
Lilian Kate Jones
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1916/06/06, Unknown/Anhysbys
Nodiadau: Ymunodd Lilian â’r VAD yn Awst 1915, yn 35 oed. Gweithiodd yn 2il Ysbyty Milwrol Cyffredinol Deheuol, Bryste, lle roedd ganddi gysylltiadau teuluol.
Cyfeirnod: WaW0143