Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Rose Crowther
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 03/06/1916
Nodiadau: Cysylltir Rose Crowther ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Ymunodd â’r Groes Goch ym Mehefin 1916, ond does dim yn hysbys am ei gwasanaeth. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0112
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch (C) ar gyfer Rose Crowther yn dangos lle roedd hi’n gweithio.
Violet Annie Davies
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Teleffonydd
Nodiadau: 15 oed. Derbyniodd Fedal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei dewrder yn aros yn ei safle waith ar y ffon yn ystod ffrwydrad difrifol.
Ffynonellau: The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser;
Cyfeirnod: WaW0006
Adroddiad papur newydd
adroddiad am y cyflwyniad yn y Carmarthen Journal and South Wales Advertiser, 19 Ebrill, 1918
Violet Annie Davies
Roedd Violet yn deleffonydd 15 oed mewn ffatri arfau rhyfel, a enillodd MOBE am aros yn ei man gwaith yn ystod ffrwydrad
Lottie Davies (married / priod Buley)
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Yn ol ei nith, Mary Davies: Roedd fy modryb yn nyrs yng Nghaerffili yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a bu yn nyrsio milwr cocni ifanc a gawsai ei anafu ar y Somme. Rhedon nhw i ffwrdd gyda ei gilydd ar ei feic modur (fel na fyddai yn rhaid i fy modryb briodi mab siop ddodrefn leol yn ôl fy ewyrth) a buon nhw yn briod am dros 50 mlynedd. Rhwng ei gwaith nyrsio byddai yn canu yr organ mewn ffilmiau mud!
Cyfeirnod: WaW0007
Mary D Davies
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Anhysbys, ATS
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Mary D Davies ar hyn o bryd, ond efallai iddi weithio fel WAAC, yng Ngwasanaeth Cludiant y Fyddin (Army Transport Service).
Cyfeirnod: WaW0119
Esther Devonald
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno gan TNT
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0009
Adroddiad papur newydd i'r cwest
Adroddiad papur newydd am y cwest i farwolaeth Esther Devonald, gweithwraig mewn ffatri arfau
Lilian Dove
Man geni: Caerdydd c.1889
Gwasanaeth: Nyrs
Nodiadau: Roedd Lilian Dove yn ferch i gyn-weinidog Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Goroesodd suddo SS Osmanieh, pan fu Margaret Dorothy Roberts farw, ar 31ain Rhagfyr 1917. Yn ôl The Roath Road Roamer cafodd ei hachub ac nid oedd yn ymddangos ei bod fawr gwaeth wedi’r antur - yr oerfel, y sioc a’r ffrwydrad, heblaw ei bod wedi colli’i holl eiddo. Bu’n nyrsio yn Alexandria tan ddiwedd y Rhyfel. Gwybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0113
Annie Mary Davies
Man geni: Abergele, Sir Ddinbych
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cyfeirnod: WaW0181
Mary Evans
Man geni: Trawsfynydd, 1890?
Gwasanaeth: Astudio Amaeth
Nodiadau: Roedd Mary Evans yn chwaer i’r bardd Hedd Wyn, Ellis Humphrey Evans. Roedd yn astudio yng Ngholeg Amaeth Madryn, ger Pwllheli. Mae’r llythyr hwn, a ysgrifennwyd yn Hydref 1917, yn gofyn am arian, yn trafod ei bywyd, ac yn mynegi hiraeth o golli’i diweddar frawd.
Cyfeirnod: WaW0097
Annie M Evans
Man geni: Cwmdar c.1872
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1915 - 1916
Nodiadau: Cyn fetron Ysbyty Twymyn Blackburn oedd Annie Evans. Ymunodd ag Ysbyty Menywod yr Alban yn Valjevo, Serbia yn 1915. Cymerwyd hi a’r uned yr oedd yn ei gwasanaethu yn garcharorion rhyfel gan yr Awstriaid ar 10fed Tachwedd 1915. Wedi misoedd o ddadlau gan Dr Alice Hutchinson, Pennaeth yr uned cafodd hi a 32 arall eu hanfon adre i Brydain.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0111