Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Esther Davies
Man geni: Abertawe ?
Gwasanaeth: Gyrwraig
Marwolaeth: 1919/09/22, Tre-gŵyr, Septicaemia / Gwenwyn gwaed
Nodiadau: Bu farw Esther Davies, tua 30 oed, o gymhlethdodau yn dilyn erthyliad. Cyhuddwyd bydwraig o Abertawe, Mary Lavinia Bowen [qv] o’i llofruddio, gan ei chyhuddo o fod wedi defnyddio offeryn i wneud erthyliad. Ymddengys bod Esther Davies ‘menyw ddeniadol yr olwg’ wedi byw bywyd digon amheus yn gyrru ar gyfer y gwasanaeth gwneud Arfau Rhyfel tra bod ei gŵr yn y fyddin. Disgrifiwyd ei ‘ffrindiau gwrywaidd boneddig’ a’i hymweliadau â Birmingham gyda menyw arall, Nyrs Poulson, yng ngwasg Abertawe. Cafwyd Mrs Beynon, gwraig i Arolygydd gyda’r Heddlu, yn ddieuog.
Cyfeirnod: WaW0302
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wrandawiad llys cyntaf achos Esther Davies. South Wales Weekly Post 16eg Awst 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ddedfryd achos llofruddiaeth Esther Davies. South Wales Weekly Post, 8fed Tachwedd 1919.
Jennie Williams
Man geni: Llanberis ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, June 1916 – January 1919 / M
Marwolaeth: 1919/1/31, Le Havre, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Rhyfel, Llanberis, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Deuai Jennie Williams o deulu reit gefnog ac ymunodd yn VAD ym Mehefin 1915. Gadawodd am Ffrainc yn Hydref 1916 a bu farw o niwmonia yn dilyn y ffliw yn Ionawr 1919, yn 45 oed. Mae wedi ei chladdu yng Nghladdfa Ste Marie, Le Havre.
Cyfeirnod: WaW0175
Llythyr
Llythyr i Isbwyllgor Gwaith y Menywod, Amgueddfa’r Imperial War, ynglŷn â ffotograff Jennie Williams
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau
Ffurflen Adrodd Cofrestru Beddau yn cynnwys manylion am Jennie Williams, Claddfa Ste Marie, Le Havre
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am farwolaeth Jennie Williams, Y Dinesydd Cymreig, Chwef. 12, 1919
Ryda Rees
Man geni: Cei Newydd, Ceredigion
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1919/11/16, illness / salwych
Nodiadau: Roedd Ryda yn 29 oed pan fu farw. Bu’n gwasanaethu yn 3edd Ysbyty Gorllewinol, Caerdydd ‘nes i’w hiechyd ddirywio’.
Cyfeirnod: WaW0206
Ryda Rees
Casglwyd llun Ryda gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Catherine J James
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Nyrs, St Johns Ambulance
Marwolaeth: 1919/12/04, Llanelli, Tuberculosis / Y diciáu
Cofeb: Capel Tabernacl, Llanelli, Sir Gaerfyddin
Nodiadau: Roedd Catherine yn Aelod o Ambiwlans Sant Ioan. Gwasanaethodd gydol y Rhyfel, ym Mhorthcawl i ddechrau ac yna yn Stebonheath, Llanelli (lle daliodd y diciáu a’i lladdodd yn 28 oed, efallai) Gwelir ei henw ar y plac coffáu’r rhyfel yng Nghapel Tabernacl, Llanelli.
Ffynonellau: https://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-memorials/llanelli-tabernacl-chapel-war-memorial
Cyfeirnod: WaW0404
Kate (Anna Catherine) Miller
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC, 1918 - 1920
Marwolaeth: 1920-07-29, Claddfa St Pol-sur-Ternoise,Ffrainc, Pneumonia / Niwmonia
Nodiadau: 27 oed. Claddwyd yng nghladdfa St Pol-sur-Ternoise
Ffynonellau: http://www.cwgc.org/find-war-dead.aspx?cpage=11&sort=name&order=asc; folder
Cyfeirnod: WaW0038
Elizabeth Davies
Man geni: Tywyn Bach
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1920:05:09, Ysbyty Llanelli , Accident: ruptured liver/Damwain, afu wedi ei rwygo
Nodiadau: Bu farw merch ifanc, Elizabeth Davies, o Sandfield House, Porth Tywyn yn Ysbyty Cyffredinol Llanelli ar ddydd Sul, wedi cael ei hanafu yn Ffatri Bowdwr Pen-bre. Roedd hi’n disgyn oddi ar drên y gwaith a oedd yn dal i symud, wrth iddo gyrraedd y Ffatri ddydd Gwener, pan lithrodd rhwng y troedfwrdd a’r platfform. Cafodd ei llusgo ychydig o ffordd a dioddefodd anafiadau mewnol difrifol. Llanelly and County Guardian 13eg Mai 1920
Cyfeirnod: WaW0089
Carine Evelyn Nest Pryse-Rice
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 – 1919
Marwolaeth: 1921, Ffordun, Sir Drefaldwyn , Not known / Anhysbys
Cofeb: Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: Roedd Nest a’I chwaer Dorothea yn ferched i Margaret Pryse-Rice, Llywydd y Groes Goch yn sir Gaerfyrddin. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn bennaf yn Ysbyty Atodol Llanymddyfri ond yn 1918-1919 yn Ysbyty Nannau ar gyfer Swyddogion, Dolgellau. Bu farw yn 25 mlwydd oed.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/llandovery-carmarthenshire-red-cross-memorial/
Cyfeirnod: WaW0204
Gwyneth Marjorie Bebb (Thomson)
Man geni: Rhydychen
Marwolaeth: 1921, Edgbaston, Birmingham, Complications of childbirth / Cymhlethdodau esgor
Nodiadau: Symudodd Gwyneth Bebb i Gymru pan benodwyd ei thad, Llewellyn John Montford Bebb, yn Brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr pont Steffan yn 1898. Mynychodd Ysgol y Merched Llambed am gyfnod (roedd yn frwd dros chwarae hoci). Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg St Hugh, hi oedd y chweched fenyw i astudio’r gyfraith yn Rhydychen, a’r gyntaf i ennill marciau dosbarth cyntaf yn ei harholiadau terfynol, er na châi raddio. Yn 1931 dechreuodd hi a thair menyw arall achos cyfreithiol aflwyddiannus a elwid Bebb yn erbyn Cymdeithas y Gyfraith, i alluogi menywod i ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyn yn y wasg Gymreig. Erbyn y dyddiad hwn gallai menywod ymuno â phob proffesiwn arall ac eithrio’r gyfraith a’r Eglwys. Methodd yr achos ac ni chafodd menywod fynediad i’r proffesiwn cyfreithiol tan wedi pasio Deddf Gwahardd (Symud ymaith) ar sail Rhyw, 1919. Yn ystod y rhyfel gweithiodd Gwyneth yn y Weinyddiaeth Fwyd. Yn Bennaeth Adran Gyfreithiol y Weinyddiaeth Fwyd yn y Canolbarth defnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i erlyn y rhai oedd yn gweithredu ar y farchnad ddu. Tra yno cwrddodd a phriododd â T W Thompson, cyfreithiwr. Ganwyd ei baban cyntaf wedi i Ddeddf Gwahardd (symud ymaith) ar sail Rhyw ddod yn ddeddf. Yn fuan wedyn derbyniwyd hi i astudio ar gyfer y Bar yn Lincoln’s Inn. Hi fuasai bargyfreithwraig gyntaf Prydain petai heb farw yn 31 oed yn dilyn genedigaeth drasig ei hail blentyn.
Cyfeirnod: WaW0400
Llun papur newydd
Llun ac erthygl bapur newydd ‘Are Lawyers Afraid of Women’s Brains?’ Daily Sketch, Rhagfyr 1913.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci rhwng Tîm Menywod Llambed a Thîm Ysgol y Merched Llambed. Gwyneth yw’r unig ferch ysgol i’w henwi. Carmarthen Journal 27ain Mehefin 1903.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dystiolaeth Gwyneth Bebb gerbron y Llys Apêl. Carmarthen Weekly Reporter 4ydd Gorffennaf 1913.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am dderbyn Gwyneth Bebb (Mrs Thomson) i Lincoln’s Inn. Cambria Daily Leader 31ain Rhagfyr 1919.
Annie Elizabeth (Nancy) Brewer (Mistrick)
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, Fondation Baye
Marwolaeth: 1921/01/30, Casnewtdd, Brights disease
Nodiadau: Ganwyd Annie Brewer, a elwid yn Nancy hefyd, yn 1874. Gweithiai ei thad yn ffatri Dos Road Nail. Hyfforddodd mewn ‘nyrsio a gofalu am bobl gwallgof’ yn 1899. Ar ôl rhai blynyddoedd yn gweithio mewn ysbytai ymddengys iddi fynd yn nyrs / cydymaith, gan deithio i sawl rhan o Ewrop. Pan dorrodd y Rhyfel ymunodd ag ysbyty a sefydliad ambiwlans Ffrengig preifat, y Fondation Baye, a gweithiodd yn rhan o’r Fondation mewn sawl rhanbarth lle roedd rhyfel yn Ffrainc. Cafodd ei hanafu pan fomiwyd ei hambiwlans, a chafodd sawl afiechyd difrifol arall. Arhosodd yn Ffrainc ym Myddin y Goresgyniad tan ddiwedd 1920. Cafodd ei hanrhydeddu sawl gwaith gan Lywodraeth Ffrainc, gan gynnwys dwy wobr Croix de Guerre a hefyd y Legion d’Honnour. Yn ystod ei chyfnod yn Ffrainc priododd yrrwr ambiwlans ifanc, Daniel Mistrick. Dychwelodd i Gasnewydd yn gynnar yn 1921 i nyrsio ei mam, ond bu farw’n fuan wedyn. rnTynnodd Annie lawer o luniau o’i hamser yn Ffrainc, a chafodd hithau dynnu ei llun gan eraill droeon. Gwelir detholiad ohonynt isod.
Ffynonellau: www.bbc.co.uk/blogs/wales/authors/88112f9c-1724-34e3-8c65-6d48968dc06b22cb34378481r_date%22%20and%20%28gallica%20all%20%22nancy%20Brewer%22%29
Cyfeirnod: WaW0187
Annie Brewer ac ambiwlans
Annie Brewer y tu allan i ambiwlans yn cael ei yrru efallai gan Daniel Mistrick
Cyhoeddi ennill y Croix de Guerre
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français, 17eg Rhagfyr 1917: Miss BREWER (Nancy), nyrs wirfoddol yn yr uned de Baye, yn yr ysbyty yn Dugny: nyrs fedrus iawn y gwelwyd ei chryfder moesol a’i hymroddiad yn amlwg ar sawl achlysur, yn enwedig ar 18 Awst 1917 pan sieliwyd ei hambiwlans. Ar y diwrnod hwnnw dangosodd esiampl ragorol o hunanfeddiant a heb ystyried perygl o gwbl, gan roi ei gofal yn hael i’r milwyr clwyfedig tra roedd y gelyn yn tanio arnynt.
Nyrsys yn edrych ar zeppelin
Llun gan AB o grŵp o nyrsys yn edrych i fyny ar zeppelin yn hedfan heibio.
Cyhoeddi gwobr Medaille de la Reconaissance français
Cyhoeddiad yn y Journal Officiel de la Republique Français 22ain Hydref 1920: Miss Brewer (Annie Elizabeth, Nancy), Prydeinig, uwch nyrs yn yr uned Mlle de rnBaye: mae hi wedi bod gyda’r uned hon yn y Ffrynt ers 1915, yn Vitry-le-François, yn Deuxnouds, cyn Beauzée, yn Souilly, yn Dugny; ers i’r Cadoediad fod ynghlwm wrth Fyddin y Goresgyniad, yn enwedig yn Saarbrücken; cafodd ei tharo’n wael yn Ebrill 1918, ac mae wedi gorfod bod yn yr ysbyty am amser maith; prin ei bod yn gallu dychwelyd at ei gwaith, ond yn gosod tasgau newydd, ymhell y tu hwnt i’w nerth, i’w hun bob dydd; ar hyn o bryd mae’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am gyflwr a ddisgrifir gan y meddygon yn un difrifol iawn.
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917