Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Maria Eley
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel a chwaraewraig rygbi
Marwolaeth: 2007, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Maria Eley yn chwarae cefnwr i Dîm Rygbi Menywod Caerdydd yn ystod 1917 ac 1918, gan gynnwys mewn gêm yn erbyn Menywod Casnewydd ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar 16eg Rhagfyr 1917, pan oedd yn 16 oed. Bu farw Maria yn 2007 yn 106 oed.
Ffynonellau: http://www.scrumqueens.com/news/wales-v-uk-forces-99-years https://cardiffrugbymuseum.org/articles/earliest-photograph-women%E2%80%99s-team
Cyfeirnod: WaW0240
Maria Eley
Tîm Rygbi Cardiff Ladies, llun a dynnwyd ar 16eg Rhagfyr 1917 mae’n debyg. Eistedd Maria ar y chwith yn yr ail res.
Toriad papur newydd
Toriad papur newydd yn rhoi sgôr y gêm a chwaraewyd ar 16eg Rhagfyr 1917. Ffynhonnell anhysbys.
Katherine Conway-Jones
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1917
Marwolaeth: After / Ar ôl 1947, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Katherine Conway-Jones tua 1880 a hyfforddodd yn Leicester Infirmary a ailenwyd yn 1914 yn 5th Northern General Hospital (ac a newidiwyd yn ôl wedyn). Yn 1915 gwirfoddolodd i weithio tramor, gan wasanaethu’n gyntaf yn Ffrainc ac wedyn ar longau ysbyty yn gwasanaethu’r Dardanelles, yr Aifft, Mesopotamia a German East Africa. Penodwyd hi’n fetron ar HMHS Oxfordshire yn Ebrill 1916. Yn haf 1917 dwedwyd nad oedd yn addas i weithio yn y trofannau bellach, ond yn addas i wasanaethu yn yr Aifft, a dychwelodd i’r DU ar Maheno, llong ysbyty Seland Newydd, lle gwasanaethodd unwaith eto yn Fetron. Treuliodd weddill ei hamser yng Nghaerlŷr. Soniwyd amdani mewn adroddiadau deirgawith, ac enillodd y Groes Goch Frenhinol ail ddosbarth yn 1916 an ei gwaith yn y Dardanelles, a dosbarth cyntaf yn 1917 am ei dewrder pan ymosodwyd ar SS Tyndareus oddi ar Dde’r Affrig. Gwerthwyd ei medalau am £2,800 yn 2015. rnAr ôl gadael y TFNS yn 1919 ymfudodd i Ganada i sefydlu tyddyn ar Ynys Lulu, Vancouver, gyda Julia Hamilton, nyrs o Ganada a gwrddodd yn Salonica. rnCeir ffeil drwchus o bapurau swyddogol Katherine yn yr Archifau Cenedlaethol.
Ffynonellau: National Archives WO 399_10526
Cyfeirnod: WaW0273
HMHS Oxfordshire
Roedd Katherine yn fetron ar y llong hon, yn teithio drwy Gamlas Suez i India ac yn ôl i Dde a Dwyrain Affrica.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Katherine Conway-Jones â’r Groes Goch Frenhinol, Y Dydd 22ain Mehefin 1917
Lythyr
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947.
Lythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947. (cefn)
Annie Mary Slade (Hall)
Man geni: Pentre, Rhondda
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau, 1916 - 1919
Marwolaeth: After 2003, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Annie Slade yn 1903. Roedd ei mam yn wreiddiol o Aberystwyth ac roedd ei thad yn ryw fath o fòs yn y pwll glo (Bu farw o ganlyniad i anaf pan oedd Annie yn laslances). Bu hi a’i theulu yn lwcus i oroesi tip yn llithro yn 1909. Pan oedd yn 15 a hanner oed ymunodd â’r WAAC yng Nghasnewydd, ond darganfuwyd ei hoedran (roedd ar restr i’w hanfon i Ffrainc) a diswyddwyd hi a’i ffrind Yn 16 oed dechreuodd weithio yn y Ffatri Lenwi Sieliau Genedlaethol yn Rotherwas, Swydd Henffordd. Cyhoeddwyd adroddiad maith am ei phrofiadau yn In the Munitions: Women at War in Herefordshire, pan oedd hi’n gant oed. rn
Ffynonellau: In the Munitions: Women at War in Herefordshire, edited Bill Laws 2003.
Cyfeirnod: WaW0285
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lithriad tir yn y Pentre pan ddinistriwyd cartref Annie a’i theulu, Evening Express 8fed Chwefror 1909.
Ida Williams
Man geni: Llangammarch
Gwasanaeth: Athrawes
Marwolaeth: August / 1918 / Awst, Llangammarch , Influenza / y ffliw
Nodiadau: Graddiodd Ida Williams yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth. Dysgodd mewn ysgolion canolradd yn Aberystwyth, Caerdydd, Bargoed ac yn olaf Llundain, lle collodd ei hiechyd tua blwyddyn cyn iddi farw. Ymddengys ei bod yn gerddorol a’i bod wedi cyfrannu at gyhoeddiadau gan gynnwys Y Cymro.
Cyfeirnod: WaW0422
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar farwolaeth ac angladd Miss Ida Williams BA. Brecon County Times 8 Awst 1918
Alice Helena Alexandra Williams (Alys Meirion)
Man geni: Castell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd
Gwasanaeth: Bardd, dramodwraig, artist, swffragydd, trefnydd, golygydd
Marwolaeth: August / Awst 1957, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Alice Williams yn 1863, yr ieuengaf o 12 plentyn David Williams, AS Meirionnydd. Gan ei bod yn gorfod byw gartref yn gydymaith i’w mam treuliodd ei hamser mewn eisteddfodau, cwmniau drama amatur a chyda rhyddfreinio menywod. Ar ôl i’w mam farw, a hithau bellach yn 40 oed, rhannodd ei hamser rhwng Llundain a Pharis, lle cyfarfu â’u chyfeilles am oes Fanny Laming. Pan dorrodd y rhyfel allan gweithiodd y ddwy dros y Groes Goch Ryngwladol yn Geneva, ond yn 1915 sefydlodd Swyddfa ym Mharis (ac yn Llundain yn ddiweddarach) i chwilio am newyddion a’i rannu am bersonau a aeth ar goll oherwydd y rhyfel. Yn ddiweddarach y flwyddyn hon daeth yn ysgrifennydd dros Gymru o Gronfa Argyfwng y Ffrancwyr a Anafwyd. Enillodd wobr y Médaille de la Reconnaissance Française yn 1920. Yn 1916 daeth yn sylfaenydd / Llywydd pedwaredd cangen Sefydliad y Merched yng Nghymru (yn Deudraeth) , gan ddarparu Neuadd ar eu cyfer, sy’n parhau i gael ei defnyddio heddiw. Hi oedd golygydd cyntaf Home and Country, cylchgrawn SyM hefyd. Yn Eisteddfod 1917 cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd (fel dramodwraig) a dewisodd yr enw barddol Alys Meirion. Yn syth ar ôl y rhyfel, yn 1919, sefydlodd hi a Fanny y Forum Club preswyl yn Llundain, man cyfarfod cymdeithasol poblogaidd i fenywod yn unig, gan gynnwys Is-iarlles Rhondda.
Cyfeirnod: WaW0295
Gwobr y Médaille de la Reconnaissance Française
Cyhoeddiad am wobr y Médaille de la Reconnaissance Française a enillwyd gan Alice Williams. Journal Officiel de la Republique Francaise 22ain Hydref 1920
Cylchgrawn Home and Country
Rhifyn cyntaf cylchgrawn SyM Home and Country, a olygwyd gan Alice Williams. Hi yw’r ail o’r dde yn y llun. Gwasanaethodd yn drysorydd i SyM hefyd.
Annie Roach
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - December 1915
Marwolaeth: December / Rhagfyr 1, Great Yarmouth, Enteric fever / Ffliw enterig
Nodiadau: Daliodd Annie, a oedd yn 21 pan fu farw, dwymyn enterig oddi wrth glaf o forwr mewn ysbyty heintiau yn Great Yarmouth. Daethpwyd â’i chorff yn ôl i’w gladdu yng nghladdfa Dan y Graig, Abertawe.
Cyfeirnod: WaW0354
Helena Susanna Adam
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Ffoadur
Marwolaeth: December 1916, Ty ysgol, Pantycaws, Carbon monoxide poisoning / Gwenwyno gan garbon monocsid
Nodiadau: Roedd Helena Adam yn ffoadur 51 oed o Wlad Belg yn byw gyda’i theulu ger Caerfyrddin. Cyrhaeddon nhw o Ostend yn Nhachwedd 1914. Cafodd ei lladd gan fygdarth tân yn eu hystafell wely. Roedd y tân wedi ei wneud yn rhannol o gwlwm, llwch glo wedi eu cymysgu gyda defnyddiau eraill, deunyddiau a ddefnyddid yn fynych yn y cyfnod hwn oherwydd pris uchel glo. Cafodd gŵr Helena, Jacobus, ei effeithio hefyd ond gwellodd e.
Cyfeirnod: WaW0388
Adroddiad papur newydd
Adroddiad arall ar gwest Helena Susanna Adam. South Wales Weekly Post 11eg Rhagfyr 1915.
Ezzelina Samuel
Man geni: Pontarddulais
Gwasanaeth: Nyrs, 1916 - 1919
Marwolaeth: February 1919 , Ysbyty Kemptown, Brighton, Bronchitis following influenza / Broncitis yn dilyn ffliw
Nodiadau: Roedd Ezzelina yn un o wyth plentyn Thomas Samuel, uwch-arolygydd Gweithfeydd Tunplat Clayton, Pontarddulais. Roedd hi’n sefyll ei harholiadau terfynol ar ôl hyfforddi yn nyrs yn Brighton pan aeth yn sal a bu farw, yn 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0278
Adroddiad papur newydd a llun
Erthygl fer yn nodi marwolaeth Ezzelina, gyda darlun.rnHerald of Wales 1af Mawrth 1919
adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Ezzelina Samuel yn Brighton. Carmarthen Journal 7fed Mawrth 1919
Ellen ‘Nellie’ Mariana Booker
Man geni: Southerndown ?
Gwasanaeth: Ysgrifennydd, yna Swyddog Cyflenwi, VAD, 1909 - 1917
Marwolaeth: February/Chwefror 19, Not known / anhuybys
Nodiadau: Nellie Booker oedd chweched merch Caroline Booker [qv]. Gyda’i mam a’i chwaer Etta [qv] sefydlodd gangen Southerndown o Gymdeithas y Groes Goch. Pan dorrodd y rhyfel allan hi oedd Ysgrifennydd Ysbyty Tuscar House ac yn ddiweddarach daeth yn Swyddog Cyflenwi yno. Yn anarferol cafodd angladd milwrol; ‘anrhydedd unigryw i foneddiges’ (Glamorgan Gazette). Nid yw ei cherdyn Croes Goch wedi goroesi.
Cyfeirnod: WaW0472
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am agor Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House, Glamorgan Gazette 28 Mai 1915
Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ’n ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y milwyr yn gwella yn Tuscar House, Glamorgan Gazette 18 Mehefin 1915
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad am angladd milwrol Nellie Booker. Glamorgan Gazette 2 Mawrth 1917
C A Howell
Man geni: Castell Nedd ?
Gwasanaeth: Nyrs, ‘Red Cross Nurse’ (VAD) ‘Nyrs y Groes Gochï¿
Marwolaeth: January 1918 / Ionaw, Achos anhysbys
Cofeb: Capel Soar Maes-yr-haf, Castell Nedd, Morgannwg
Nodiadau: Gwelir enw C A Howell ar Restr Anrhydedd Capel Soar Maes-yr-haf, Castell Nedd. Disgrifir hi fel Nyrs y Groes Goch
Cyfeirnod: WaW0138
Rhestr Anrhydedd, Capel Soar Maes-yr-haf
Enw Miss C A Howell Nyrs y Groes Goch ar Restr Anrhydedd Capel Soar Maes-yr-haf, Castell Nedd