English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl cofeb

Jane E Jones

Man geni: Tan-yr-Allt, Cynwyd

Cofeb: Rhyfel Cofeb, Cynwyd, Merionydd

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Jane E Jones ar hyn o bryd

Ffynonellau: http://www.clwydfhs.org.uk/cofadeiladau/cynwyd_wm.htm,http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?showtopic=131503

Cyfeirnod: WaW0144

Enw Jane E Jones, Cofeb Rhyfel, Cynwyd

Cofeb Rhyfel, Cynwyd

Enw Jane E Jones, Cofeb Rhyfel, Cynwyd


Elizabeth (Lizzie) Thomas

Man geni: Blaendulais

Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920

Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin

Cofeb: Blaendulais, Morgannwg

Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.

Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War

Cyfeirnod: WaW0477

Lizzie Thomas yn ei gwisg swyddogol

Elizabeth Thomas

Lizzie Thomas yn ei gwisg swyddogol

Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.

Cerdd / cân

Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.


Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917

Ffurflen y Fyddin W.3538

Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917

Llun a dynnwyd yn fuan wedi ei hagor 1920?

Cofeb Ryfel Blaendulais

Llun a dynnwyd yn fuan wedi ei hagor 1920?


Eunice Thomas

Man geni: Abertawe ?

Cofeb: Capel Mynydd Bach, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Eunice Thomas y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Abertawe (60)

Cyfeirnod: WaW0162

Cofnod o wasanaeth rhyfel Eunice Thomas ar Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Swansea

Restr Anrhydedd

Cofnod o wasanaeth rhyfel Eunice Thomas ar Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Swansea


Margaret Jane Evans

Man geni: Treforis, Abetawe ?

Gwasanaeth: Nyrs, VAD

Cofeb: Capel Soar, Treforis, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: Bu Margaret Evans yn nyrsio yn 3ydd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin, Caerdydd. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Capel Soar, Trefforest.

Cyfeirnod: WaW0170

Cofnod o wasanaeth rhyfel Nyrs M J Evans ar Restr Anrhydedd Capel Soar, Treforis

Rhestr Anrhydedd

Cofnod o wasanaeth rhyfel Nyrs M J Evans ar Restr Anrhydedd Capel Soar, Treforis

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Margaret Evans

Cerdyn cofnod y Groes Goch

Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Margaret Evans


Ada Doris Maud Lesser (Radcliffe)

Man geni: Nova Scotia

Gwasanaeth: Gweithwraig , QMAAC

Marwolaeth: 1918/12/04, ]Ysbyty Milwrol Tidsworth, Wiltshire , Influenza / y ffliw

Cofeb: Cycladdfa Dan-y-graig, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: Ganwyd Ada tua 1879, a symudodd ei theulu i Abertawe. rnPriododd Arthur Charles Lesser yn Rhagfyr 1899. Yn ôl yr adysgrif a rei bed yr oedd yn 36 oed pan fu farw, ond mae’n debygol ei bod yn hŷn na hynny. Diolch i Diana Morgan.

Cyfeirnod: WaW0190

Bedd ac arno enw Ada Lesser, QMAAC

Bedd Ada Lesser

Bedd ac arno enw Ada Lesser, QMAAC


Edith E Copham

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad

Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.

Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918

Cyfeirnod: WaW0002

Enw Edith E Copham, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Edith E Copham, Senotaff Abertawe

Adroddiad am angladd  Edith E Copham a Mary Fitzmaurice

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am angladd Edith E Copham a Mary Fitzmaurice


Adroddiad am y  ffrwydrad Herald of Wales 14 Rhagfyr 1918

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14 Rhagfyr 1918


Mary D Davies

Man geni: Abertawe

Gwasanaeth: Anhysbys, ATS

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Mary D Davies ar hyn o bryd, ond efallai iddi weithio fel WAAC, yng Ngwasanaeth Cludiant y Fyddin (Army Transport Service).

Cyfeirnod: WaW0119

Enw Mary D Davies, Senotaff Abertawe

Senotaff Abetawe

Enw Mary D Davies, Senotaff Abertawe


Mary Fitzmaurice

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre , Explosion/Ffrwydrad

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: 36 oed. Mam i chwech o blant. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad ag Edith Copham a Jane Jenkins; rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus

Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914

Cyfeirnod: WaW0020

Enw Mary Fitzmaurice, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Mary Fitzmaurice, Senotaff Abertawe

Adroddiad am angladd Mary Fitzmaurice a Edith E Copham

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am angladd Mary Fitzmaurice a Edith E Copham


Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914


Elizabeth Foulkes

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Nodiadau: 28 oed. Claddwyd yn eglwys Sant Mihangel, Rhydaman

Cyfeirnod: WaW0022

Enw Elizabeth Foulkes, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Elizabeth Foulkes, Senotaff Abertawe


Catherine (Kate ) Hill

Man geni: Abertawe

Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel

Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno TNT

Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg

Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums

Cyfeirnod: WaW0025

Enw Catherine (Kate) Hill, Senotaff Abertawe

Senotaff Abertawe

Enw Catherine (Kate) Hill, Senotaff Abertawe



Administration