Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cofeb
Elsie Lavinia Gibbs
Man geni: Grangetown, Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel
Marwolaeth: 1918/07/01, Ffatri Sieliau Genedlaethol, Chilwell, Nottinghamshire , Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Saltmead Gospel Hall, Grangetown, Caerdydd, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Elsie yn 1901, a dwedodd gelwydd am ei hoedran er mwyn cael gweithio mewn ffatri arfau rhyfel (roedd yn rhaid bod yn 18 oed). Anfonwyd hi i Ffatri Sieliau Genedlaethol, Chilwell, Nottingham, lle bu farw mewn ffrwydrad a laddodd 133 o weithwyr, y trasiedi gwaethaf o blith sifiliaid yn ystod y Rhyfel. Ni lwyddwyd i adnabod ei chorff, a chladdwyd hi mewn bedd cyffredin gyda 101 o ddioddefwyr eraill na lwyddwyd i’w hadnabod.
Ffynonellau: www.grangetownwar.co.uk
Cyfeirnod: WaW0211
Gweithwyr ffatri arfau
Grŵp o weithwyr ffatri arfau. Mae Elsie ar y chwith i’r dyn â mwstas, coler a thei yn yr ail res. Tynnwyd y llun yn Chilwell, mae’n debyg.
Tystysgrif marolwaeth
Copi o dystysgrif marwolaeth Elsie, yn nodi achos ei marwolaeth ‘presumed killed as result of explosion – Deceased know[n] to have been in works at time and since missing’. Nodir, yn anghywir, ei bod yn 19 oed a’i bod yn gweithio yn y gwaith powdwr ac yn ferch i Albert Gibbs. Rhoddir cyfeiriad yn Nottingham iddo ond roedd e’n byw yn Dorset Street, Grangetown, Caerdydd.
Edith Mary Tonkin
Man geni: Sandford, Dyfnaint
Gwasanaeth: Morwyn ward. , VAD, 1917/11/06 – 1918/10/13
Marwolaeth: 1918-10-13, 3ydd Ysbyty Cyffredinol Le Treport, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llandaf, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Edith ar fferm yn swydd Dyfnaint yn 1892. Symudodd i Gaerdydd pan etifeddodd ei thad dafarn gan ei ewythr. Gweithiodd yn forwyn ward yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol Tréport, Ffrainc, lle bu farw yn 26 oed. Gwelir ei henw ar gofeb Llandaf gyda’i brawd iau William John (Jack) fu farw ym mrwydr Loos yn 1915.
Cyfeirnod: WaW0061
Carreg fedd
Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.
Teulu Tonkin
Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn
Maud Williams
Man geni: Llanhari ?
Gwasanaeth: Nyrs
Cofeb: Capel Penuel, Llanhari, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Nyrs Maud Williamsy gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Penuel, Llanhari
Cyfeirnod: WaW0171
Eva Martha Davies
Man geni: Llanilltud Fawr ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, Aug / Awst-1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-06-16, Casnewydd, Septic poisoning contracted on duty. Gwenwyno septig a gafwyd tra ar ddyletswydd
Cofeb: Cofeb Ryfel , Llanilltud Fawr, Morgannwg
Nodiadau: Gweithiai yn Ysbyty Casnewydd.Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel. Lladdwyd dau o frodyr Eva yn Ffrainc. Merch Mary Davies (WaW0172),
Cyfeirnod: WaW0008
Eva Martha Davies
Ffotograff o Eva a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel.
Emily Ada Pickford (née Pearn)
Man geni: Penarth
Gwasanaeth: Difyrwraig
Marwolaeth: -1919-07.02, Afon Somme, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Penarth, Morgannwg
Nodiadau: 37 oed. Aelod o un o Bartïon Cyngerdd Lena Ashwell, bu farw pan blymiodd car yr oedd hi’n teithio ynddo i afon Somme ar y ffordd adre o gyngerdd. Claddwyd yng Nghladdfa Gymunedol Abbeville, llain V, Rhes G, Bedd 23
Cyfeirnod: WaW0043
Cofeb Ryfel Penarth
Enw Emily Pickford, Cofeb Ryfel Penarth, roedd hi'n gantores a foddodd mewn damwain yn y Somme, Ionawr 1919
Florence Gwendolin Howard
Man geni: Pontypridd ?
Gwasanaeth: Nyrs, Territorial Nursing Service/Gwasanaeth Nyrsio Tiri
Marwolaeth: 1914-11-18, Anhysbys, Septic poisoning / Gwenwyno septig
Cofeb: Coflech yn Eglwys y Santes Catrin; Bedd Claddfa Glyntâf, Pontypridd, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Florence Howard ar hyn o bryd
Ffynonellau: http://twgpp.org/information.php?id=2257521; http://www.qaranc.co.uk/war_graves_memorials_Nurse/Nyrss.php
Cyfeirnod: WaW0026
Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd
Enw Florence Howard ar goflech ryfel yn Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd
C Lloyd
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss C Lloyd y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0157
Restr Anrhydedd
Enw Miss C Lloyd, Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentrernrn
M Morgan
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss M Morgan y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0158
Rhestr Anrhydedd
Name of Miss M Morgan, Munitions Worker, on Roll of Honour, in Jerusalem Calvinistic Methodist Chapel, Ton Pentre
M Roberts
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss M Roberts y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0159
Rhestr Anrhydedd
Enw Miss M Roberts gweithwraog mewn Ffatri Arfau Rhyfel, ar Restr Anrhydedd Capel Meth. Calf. Jerusalem, Tonpentre
Amy Laura Whitcombe
Man geni: Hengoed
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg
Nodiadau: 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0063