English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl enw

Welsh Book of Remembrance /Llyfr Cofio Cenedlaetho

Cofeb: Y Deml Heddwch, Caerdydd, Sir Morgannwg

Nodiadau: Crëwyd Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru fel Rhestr Anrhydedd i gydfynd â dadorchuddio Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd yn 1928. Ymgais ydyw i restru pob dyn a dynes o waed neu o rieni Cymreig … a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel 1914-1918. Cyn agor y Deml Heddwch yn 1938 câi’r llyfr ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Cynhwysir sawl menyw: y ddwy stiwardes Hannah Owen a Louisa Parry a fu farw pan darawyd yr RMS Leinster gan dorpido yn 1918; aelodau o’r QMAAC Gertrude Dyer, Jean Roberts, Mary Elizabeth Smith a Lizzie Dora Stephens; ac o’r Fintai Gymorth Ategol Gladys Maud Jones, Gwynedd Llewellyn, Amy Curtis, Eva Davies, Margaret M Evans, Lilian Jones, Edith Tonkin, Jenny Williams a Frances Sprake Jones QAIMNS.rnNid yw’n glir pam y dewiswyd cynnwys y menywod arbennig hyn. Yn y safle we hon ceir enwau llawer o fenywod y gellid bod wedi eu cynnwys. At hyn, nid oedd gan Gladys Maud Jones na Gwynedd Llewellyn, er gwaetha’u henwau, gyswllt diweddar â Chymru o gwbl.

Ffynonellau: http://www.walesforpeace.org/whybookofremembrance.html; https://www.llgc.org.uk/llyfrycofio

Cyfeirnod: WaW0237

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod a wasanaethodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru

Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod a wasanaethodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.


Nora Tempest (Soutter)

Man geni: Dundalk, Iwerddon

Gwasanaeth: Athrawes, cogydd , VAD, 1915 - 1916

Nodiadau: Ganwyd Nora Tempest yn 1886 a bu’n athrawes gwyddor tŷ boblogaidd yn Ysgol Sirol y Merched Caerfyrddin / Carmarthen County Girls School. Ymunodd ag ysbytai Menywod yr Alban i wasanaethu yn gogydd yn Ysbyty Kragujevac. Cafodd ei dal yn y gwrthgiliad mawr wedi i Austria oresgyn Serbia, a bu’n cerdded am saith wythnos trwy fynyddoedd Montenegro ac Albania yn y gaeaf. Cyrhaeddodd adre ar Noswyl Nadolig, 1915. Dywedir iddi dynnu llawer o luniau o’r gwrthgiliad. Ar ôl dychwelyd priododd ac ymsefydlu yn ôl yn Iwerddon

Cyfeirnod: WaW0275

Adroddiad byr am brofiadau Nora o’r gwrthgiliad o Serbia. Carmarthen Weekly Reporter 21ain Ionawr 1916

Adroddiad papur newydd

Adroddiad byr am brofiadau Nora o’r gwrthgiliad o Serbia. Carmarthen Weekly Reporter 21ain Ionawr 1916

Adroddiad am ymweliad Nora yn ôl i’r Carmarthen County Girls School. Carmarthen Journal 9fed Mehefin 1916.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ymweliad Nora yn ôl i’r Carmarthen County Girls School. Carmarthen Journal 9fed Mehefin 1916.


Editha Elma (Bailey), Lady Glanusk (Sergison)

Man geni: Haywards Heath, Sussex

Gwasanaeth: ‘Gweithwraig weithredol yn y rhyfel’, Red Cross

Nodiadau: Ganed Arglwyddes Glanusk yn 1871 a phriododd 2il Farwn Glanusk yn 1890. O ddechrau’r rhyfel bu’n weithgar yn yr ymdrech ryfel, gan ysgrifennu’n ddibaid i annog menywod i annog eu gwŷr i ymrestru, ac yn galw am garcharu estroniaid o blith y gelyn. Hi oedd Llywydd y Groes Goch yn Sir Frycheiniog, (derbyniodd y CBE am hyn yn 1920), a bu’n dra gweithgar yn Ysbyty’r Groes Goch, Penoyre yn Aberhonddu. Lladdwyd dau o’i meibion yn y rhyfel, canol-longwr 17 oed oedd un ohonynt.

Cyfeirnod: WaW0228

Arglwyddes Glanusk gyda metron a staff Ysbyty Penoyre, Aberhonddu.

Arglwyddes Glanusk

Arglwyddes Glanusk gyda metron a staff Ysbyty Penoyre, Aberhonddu.

Llythyr i fenywod Sir Frycheiniog  a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times, 5ed Tachwedd 1914

Llythyr papur newydd

Llythyr i fenywod Sir Frycheiniog a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times, 5ed Tachwedd 1914


Llythyr am Beryglon y Gelyn Estron a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times 25ain Mawrth, 1915

Llythyr paur newydd

Llythyr am Beryglon y Gelyn Estron a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times 25ain Mawrth, 1915

Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk

Cerdyn cofnod y Groes Goch

Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk


Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk (cefn)

Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)

Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk (cefn)

Datganiad yn nodi gwobrwyo Arglwyddes Glanusk a’r CBE (Atodiad) 30ain Mawrth 1920

London Gazette

Datganiad yn nodi gwobrwyo Arglwyddes Glanusk a’r CBE (Atodiad) 30ain Mawrth 1920


Gladys *

Man geni: Caerdydd?

Gwasanaeth: Merch

Nodiadau: Ffotograff o ferch ifanc yng ngwisg milwr cyffredin gyda’r Magnelwyr Brenhinol (mae’n rhy fawr iddi) ynghyd â ffon swagar, ac yn eistedd ar gadair. Mae ei gwallt wedi’i glymu nôl â chwlwm mawr, sy’n awgrymu nad ydy hi ddim h?n na 16 neu 17 oed; Ar gefn y ffotograff nodir iddo gael ei dynnu yn Gale’s Studios Ltd, Stryd y Frenhines, Caerdydd. Mae ‘From Gladys / To Ada’ wedi’i ysgrifennu mewn inc arno.

Cyfeirnod: WaW0077

Ffotograff o Gladys yn ferch ifanc yn gwisgo iwnifform y Magnelwyr Brenhinol, tua 1914

Ffotograff o Gladys, Caerdydd

Ffotograff o Gladys yn ferch ifanc yn gwisgo iwnifform y Magnelwyr Brenhinol, tua 1914

Ar gefn y ffotograff nodir: Gale’s Studios Ltd, Heol y Frenhines, Caerdydd a’r arysgrifen 'To Ada From Gladys’

Cefn ffotograff Gladys

Ar gefn y ffotograff nodir: Gale’s Studios Ltd, Heol y Frenhines, Caerdydd a’r arysgrifen 'To Ada From Gladys’


Evelyn Margaret Abbott

Man geni: Y Grysmwnt,Sir Fynwy

Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, January - June 1916

Marwolaeth: 1958, Llundain, Achos anhysbys

Nodiadau: Ganed Evelyn yn 1883 yn ferch i ysgolfeistr y Grysmwnt. Roedd yn nyrs broffesiynol a hyfforddodd yn Llundain. Treuliodd 6 mis yn gweithio yn ysbyty Ysbytai’r Menywod Albanaidd yn L’abbaye de Royaumont i’r gogledd o Baris. Dilynwch y cyswllt i weld yr ysbyty ar ffilm.

Ffynonellau: http://movingimage.nls.uk/film/0035\r\nhttp://scottishwomenshospitals.co.uk/women/

Cyfeirnod: WaW0248


Flossie Abbott

Man geni: Pen y Bont ?

Gwasanaeth: Clerc, Bridgend Food Control Committee, 1919

Nodiadau: YYn Hydref 1919 gofynnodd Flossie Abbott am godiad cyflog o £1 12s 6c yr wythnos i £2 10s, i fod yn gyfartal â thâl y clerc gyda’r Pwyllgor Rheoli bwyd ym Mhenybont. Byddai dyn yn gwneud yr un gwaith yn ennill £3 yr wythnos. Dim ond un aelod o’r pwyllgor wrthwynebodd y cais.

Cyfeirnod: WaW0351

Adroddiad am gyfarfod Pwyllgor Bwyd Penybont lle cytunwyd codiad cyflog Flossie Abbott. Glamorgan Gazette 17eg Hydref 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am gyfarfod Pwyllgor Bwyd Penybont lle cytunwyd codiad cyflog Flossie Abbott. Glamorgan Gazette 17eg Hydref 1919.


Irene (Ivy) Ace

Man geni: Dinbych-y-Pyscod

Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19

Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.

Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk

Cyfeirnod: WaW0483

Ivy Ace yng ngwisg awyr agored Swyddog yn y WAAC

Irene ‘Ivy’ Ace

Ivy Ace yng ngwisg awyr agored Swyddog yn y WAAC


Irene \'Ivy\' Ace

Man geni: Dinbych-y-Pyscod

Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19

Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.

Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk\r\n\r\n\r\n

Cyfeirnod: WaW0483

Ivy Ace yng ngwisg awyr agored Swyddog yn y WAAC

Irene ‘Ivy’ Ace

Ivy Ace yng ngwisg awyr agored Swyddog yn y WAAC


Helena Susanna Adam

Man geni: Gwlad Belg

Gwasanaeth: Ffoadur

Marwolaeth: December 1916, Ty ysgol, Pantycaws, Carbon monoxide poisoning / Gwenwyno gan garbon monocsid

Nodiadau: Roedd Helena Adam yn ffoadur 51 oed o Wlad Belg yn byw gyda’i theulu ger Caerfyrddin. Cyrhaeddon nhw o Ostend yn Nhachwedd 1914. Cafodd ei lladd gan fygdarth tân yn eu hystafell wely. Roedd y tân wedi ei wneud yn rhannol o gwlwm, llwch glo wedi eu cymysgu gyda defnyddiau eraill, deunyddiau a ddefnyddid yn fynych yn y cyfnod hwn oherwydd pris uchel glo. Cafodd gŵr Helena, Jacobus, ei effeithio hefyd ond gwellodd e.

Cyfeirnod: WaW0388

Adroddiad ar gewst Helena Susanna Adam. Herald of Wales 11eg Rhagfyr 1915.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad ar gewst Helena Susanna Adam. Herald of Wales 11eg Rhagfyr 1915.

Adroddiad arall ar gwest Helena Susanna Adam. South Wales Weekly Post 11eg Rhagfyr 1915.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad arall ar gwest Helena Susanna Adam. South Wales Weekly Post 11eg Rhagfyr 1915.


Mary Andrews

Man geni: Llansawel

Gwasanaeth: Nyrs, VAD ?

Nodiadau: Enillodd Mary Andrews y Groes Goch Frenhinol ym Mai 1919. Gwasanaethodd yn Ysbyty Milwrol Croesoswallt.

Cyfeirnod: WaW0272



Administration