English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Pori'r casgliad


Trefnwyd yn ôl enw

Sarah Hannah Bagnall

Man geni: Wrecsam

Gwasanaeth: Plentyn

Marwolaeth: 1916/03/09, Moss, Wrecsam, Explosion / Ffrwydrad

Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych

Nodiadau: Lladdwyd Sarah, blwydd oed, pan ffrwydrodd siel y daethai ei thad â hi adre’n swfenîr, ac a laddodd neu a anafodd yn ddifrifol hi a’i thair cyfnither. Anafwyd ei mam Mary Bagnall ei thad a’i modryb Sarah Roberst yn ddifrifol hefyd. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cafodd cofeb iddynt ei chysegru ym Mawrth 2016.

Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982

Cyfeirnod: WaW0217

Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916

Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr.

adroddiad papur newydd

Adroddiad am y ffrwydrad yn enwi’r dioddefwyr.


Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.

Adroddiad papur newydd

Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.


Gertrude Mary Bailey (née Buchanan)

Man geni: Sunderland

Gwasanaeth: Gwraig fusnes, Pwyllgorwraig,, 1914 - 1919

Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys

Nodiadau: Symudodd Gertrude Bailey i Gasnewydd ar ôl priodi yr atgyweiriwr llongau cyfoethog o Gasnewydd C H Bailey yn 1895. Ar ôl iddo farw yn 1907 bu hi’n rhedeg ei fusnes llwyddiannus. Wedi dechrau’r Rhyfel bu’n ymwneud â sawl gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhyfel, gan gynnwys helpu Ffoaduriaid Gwlad Belg a’r Groes Goch, a gwasanaethu ar bwyllgor Pensiynau Rhyfel. Yn 1917 sefydlodd Gertrude feithrinfa ar gyfer plant menywod yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau. Enillodd anrhydedd y CBE yn 1918; yn rhyfeddol nid oes datganiad yn ei henw. Efallai ei bod yn rhy brysur gyda chymaint o bethau i’w henwi. Yn 1920 trosglwyddodd y busnes i’w meibion a daeth yn un o ddau ynad heddwch benywaidd cyntaf Casnewydd. Roedd Gertrude yn erbyn rhyddfreinio menywod cyn y Rhyfel a noddai gymdeithasau dirwest. Yn Who’s Who in Newport (1920) disgrifir hi yn ‘La Grande Dame of the place’.

Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered. Saronpublishers 2018\r\nhttp://www.newportpast.com/gallery/photos/php/search.php?search=munition&search2=&Submit=Submit

Cyfeirnod: WaW0360

Gertrude Bailey wedi ei gyhoeddi yn Who’s Who in Newport, 1920.

Gertrude M Bailey

Gertrude Bailey wedi ei gyhoeddi yn Who’s Who in Newport, 1920.

Agor Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau, Casnewydd 1917.

Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau

Agor Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau, Casnewydd 1917.


Gertrude Bailey yn ennill y CBE yn atodiad The London Gazette, 7 Mehefin, 1918.

london Gazette

Gertrude Bailey yn ennill y CBE yn atodiad The London Gazette, 7 Mehefin, 1918.


Alice M Bale

Gwasanaeth: Athrawes

Nodiadau: Alice Bale oedd prifathrawes gyntaf Adran y Babanod am ysgol Marlborough Road pan agorodd hi yn 1900. Ymddeolodd yn 1924. Yn 1918 cafodd ei hethol yn un o dri phennaeth yn aelodau o Lys Prifysgol Cymru.

Cyfeirnod: WaW0407

Adroddiad am ethol Alice Bale i Lys Prifysgol Cymru, Llangollen Advertsier 15 Mawrth 1918

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am ethol Alice Bale i Lys Prifysgol Cymru, Llangollen Advertsier 15 Mawrth 1918

Darlun pensaer o Ysgol Newydd Marlborough Road. rnWestern Mail 12 Ionawr 1900

Ysgol Marlborough Road

Darlun pensaer o Ysgol Newydd Marlborough Road. rnWestern Mail 12 Ionawr 1900


Isabelle Eugenie Marie Barbier

Man geni: Caerdydd 1885

Gwasanaeth: Nyrs, CHR, 11/08/1914 - 1919

Nodiadau: Roedd Isabelle Barbier yn un o ferched Paul Barbier, athro Ffrangeg Prifysgol Cymru, Caerdydd. Hyfforddodd yn nyrs yn Ysbyty Brenhinol Bryste. Cafodd ei galw i fyny’n gynnar yn y rhyfel, a’i hanfon i helpu Maud MacCarthy, y Brif Fetron yn Ffrainc, a oedd wedi croesi i Ffrainc yr un pryd â hi a ddim yn gallu siarad Ffrangeg. Bu Isabelle yn gynorthwyydd personol iddi gydol y Rhyfel, gan weithio yn Ffrainc a Fflandrys. Yn ddiweddarach bu’n lleian a bu farw yn 96 oed yn 1982.

Ffynonellau: http://www.fairestforce.co.uk/6.html

Cyfeirnod: WaW0104


Edith Frances Barker

Man geni: Lerpwl

Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr

Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch

Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych

Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.

Ffynonellau: https://grangehill1922.wordpress.com/2013/11/19/edith-frances-barker/

Cyfeirnod: WaW0174

Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod  Edith yn 49oed.

Dogfen Beddau’r Imperial War

Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod Edith yn 49oed.

 Cofnod y Groes Goch Edith Frances Barker.

Cofnod y Groes Goch (cefn)

Cofnod y Groes Goch Edith Frances Barker.


Cofnod y Groes Goch Edith Frances Barker. Yn ôl hwn roedd hi’n 37 oed.

Cerdyn cofnod y Groes Goch

Cofnod y Groes Goch Edith Frances Barker. Yn ôl hwn roedd hi’n 37 oed.


Cofeb Ryfel Llangollen. Gwelir enw Edith tua brig yr ail golofn o’r chwith.

Cofeb Rhyfel

Cofeb Ryfel Llangollen. Gwelir enw Edith tua brig yr ail golofn o’r chwith.


Ethel Clara Basil Jayne

Man geni: Llanelli

Gwasanaeth: Menyw fusnes, perchennog golchdy, swyddog lles ffatri arfau, ymgynghorydd y llywodraeth

Marwolaeth: 1940, St Albans, Achos anhysbys

Nodiadau: Ganwyd Ethel Jayne yn 1874, yn ferch i berchennog Cwmni Glo a Haearn Brynmawr cyf. Hyfforddodd mewn gwaith mewn golchdy a dechreuodd ei golchdy stêm ei hun, Little Laundries Ltd, yn Harrow tua 1906. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd ag Adfyddin Wirfoddol y Menywod a gweithiodd hefyd yn trefnu cantinau i’r Groes Goch Ffrengig. Yn 1916 penodwyd hi yn brif swyddog lles cwmni arfau rhyfel Armstrong Whitworth, gyda chyfrifoldeb dros fwy nag 20,000 o fenywod cyflogedig yng ngogledd Lloegr a Glasgow. Ymhlith y datblygiadau newydd a wnaeth hi roedd golchdai stêm. Yn 1919 cyflwynodd dystiolaeth ar les i’r Pwyllgor Seneddol ar Fenywod mewn Diwydiant. Roedd ymhlith y gyntaf i ennill OBE yn Awst 1917. Ar ôl iddi farw claddwyd ei llwch ym medd y teulu yn Llanelli.

Ffynonellau: https://doi.org/10.1093/odnb/9780198614128.013.111297

Cyfeirnod: WaW0370

Ethel Basil Jayne yn gyrru i un o’i golchdai cynnar mewn poni a thrap. Dyma’i hoff ddull o deithio, fe ymddengys.

Ethel Basil Jayne 1907

Ethel Basil Jayne yn gyrru i un o’i golchdai cynnar mewn poni a thrap. Dyma’i hoff ddull o deithio, fe ymddengys.

Enw Ethel Basil Jayne ar y rhestr gyntaf o OBEau. London Gazette, 24ain Awst 1917.

London Gazette

Enw Ethel Basil Jayne ar y rhestr gyntaf o OBEau. London Gazette, 24ain Awst 1917.


Gwyneth Marjorie Bebb (Thomson)

Man geni: Rhydychen

Marwolaeth: 1921, Edgbaston, Birmingham, Complications of childbirth / Cymhlethdodau esgor

Nodiadau: Symudodd Gwyneth Bebb i Gymru pan benodwyd ei thad, Llewellyn John Montford Bebb, yn Brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr pont Steffan yn 1898. Mynychodd Ysgol y Merched Llambed am gyfnod (roedd yn frwd dros chwarae hoci). Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg St Hugh, hi oedd y chweched fenyw i astudio’r gyfraith yn Rhydychen, a’r gyntaf i ennill marciau dosbarth cyntaf yn ei harholiadau terfynol, er na châi raddio. Yn 1931 dechreuodd hi a thair menyw arall achos cyfreithiol aflwyddiannus a elwid Bebb yn erbyn Cymdeithas y Gyfraith, i alluogi menywod i ymuno â’r proffesiwn cyfreithiol. Roedd cryn gefnogaeth i hyn yn y wasg Gymreig. Erbyn y dyddiad hwn gallai menywod ymuno â phob proffesiwn arall ac eithrio’r gyfraith a’r Eglwys. Methodd yr achos ac ni chafodd menywod fynediad i’r proffesiwn cyfreithiol tan wedi pasio Deddf Gwahardd (Symud ymaith) ar sail Rhyw, 1919. Yn ystod y rhyfel gweithiodd Gwyneth yn y Weinyddiaeth Fwyd. Yn Bennaeth Adran Gyfreithiol y Weinyddiaeth Fwyd yn y Canolbarth defnyddiodd ei sgiliau cyfreithiol i erlyn y rhai oedd yn gweithredu ar y farchnad ddu. Tra yno cwrddodd a phriododd â T W Thompson, cyfreithiwr. Ganwyd ei baban cyntaf wedi i Ddeddf Gwahardd (symud ymaith) ar sail Rhyw ddod yn ddeddf. Yn fuan wedyn derbyniwyd hi i astudio ar gyfer y Bar yn Lincoln’s Inn. Hi fuasai bargyfreithwraig gyntaf Prydain petai heb farw yn 31 oed yn dilyn genedigaeth drasig ei hail blentyn.

Ffynonellau: https://www.st-hughs.ox.ac.uk/celebrating-the-life-of-legal-pioneer-gwyneth-bebb\r\nhttps://www.lincolnsinn.org.uk/library-archives/archive-of-the-month/february-2017-the-admission-of-gwyneth-bebb/

Cyfeirnod: WaW0400

Gwyneth Bebb, Thomson mwyach, gyda’i baban bach Diana, ddechrau 1920.

Gwyneth Bebb

Gwyneth Bebb, Thomson mwyach, gyda’i baban bach Diana, ddechrau 1920.

Llun ac erthygl bapur newydd ‘Are Lawyers Afraid of Women’s Brains?’ Daily Sketch, Rhagfyr 1913.

Llun papur newydd

Llun ac erthygl bapur newydd ‘Are Lawyers Afraid of Women’s Brains?’ Daily Sketch, Rhagfyr 1913.


Adroddiad am gêm hoci rhwng Tîm Menywod Llambed a Thîm Ysgol y Merched Llambed. Gwyneth yw’r unig ferch ysgol i’w henwi. Carmarthen Journal 27ain Mehefin 1903.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am gêm hoci rhwng Tîm Menywod Llambed a Thîm Ysgol y Merched Llambed. Gwyneth yw’r unig ferch ysgol i’w henwi. Carmarthen Journal 27ain Mehefin 1903.

Adroddiad am dystiolaeth Gwyneth Bebb gerbron y Llys Apêl. Carmarthen Weekly Reporter 4ydd Gorffennaf 1913.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am dystiolaeth Gwyneth Bebb gerbron y Llys Apêl. Carmarthen Weekly Reporter 4ydd Gorffennaf 1913.


Adroddiad am dderbyn Gwyneth Bebb (Mrs Thomson) i Lincoln’s Inn. Cambria Daily Leader 31ain Rhagfyr 1919.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am dderbyn Gwyneth Bebb (Mrs Thomson) i Lincoln’s Inn. Cambria Daily Leader 31ain Rhagfyr 1919.


Marie Beckers

Man geni: Gwlad Belg

Gwasanaeth: Athrawes, ffoadures

Nodiadau: Roedd Marie Becker yn un o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a letyai yn Nhreffynnon, ac ymddengys mai hi oedd llefarydd y grŵp. Adroddwyd am ei phenodi i ddysgu plant o Wlad Belg gyn Ysgol Sir Treffynnon yn y wasg Gymreig a Saesneg.

Cyfeirnod: WaW0399

Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.

Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.

Adroddiad papur newydd

Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.


Minna Amelia Benner (née MacFarlane)

Man geni: Yr Alban

Gwasanaeth: Meddyg, 1914 - 1934

Marwolaeth: 1962, Achos anhysbys

Nodiadau: Minna Benner oedd un o’r menywod cyntaf i gymhwyo’n feddyg ym Mhrifysgol Glasgow, yn 1897. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Iwerddon, yn gweithio fel Swyddog Iechyd Cynorthwyol, symudodd i Gasnewydd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol mewn Ysgolion yn 1914. Yn 1917 daeth yn swtddog meddygol cyntaf Casnewydd ar gyfer y Cynllun Mamolaeth a Lles Plant. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig ym maetheg plant (cyhoeddwyd papur ganddi ar y pwnc yn y Perspectives in public Health yn 1924), ac roedd yn ffeminydd a diddordeb mewn diwygio cymdeithasol. Bu fyw tan ei bod yn 99 oed.

Ffynonellau: British Medical Journal, Who’s Who in Newport 1920

Cyfeirnod: WaW0408

Pennawd y papur a roddodd Minna Benner, Ebrill 1924

Pennawd y papur

Pennawd y papur a roddodd Minna Benner, Ebrill 1924

Cyhoeddiad am benodi Minna Benner, 1914

Cyhoeddiad

Cyhoeddiad am benodi Minna Benner, 1914


Alys Bertie Perkins (née Sandbrook)

Man geni: Abertawe

Gwasanaeth: Penswyddog a Phwyllgorwraig, British Red Cross

Nodiadau: Roedd Alys Bertie Perkins yn Benswyddog ac Ysgrifennydd Cymdeithas y Groes Goch Abertawe, ac yn benswyddog yng ngofal recriwtio ar draws sir Forgannwg. Erbyn dechrau 1918 nodid mai yn Abertawe yr oedd y nifer mwyaf o welyau Croes Goch yn ne Cymru. Gwobrwywyd hi â’r OBE yn Ionawr 1918, a disgrifir hi yn y Cambria Daily Leader fel gweithwraig a threfnydd brwdfrydig a phoblogaidd y Groes Goch yn Sgeti.

Cyfeirnod: WaW0369

Llun o Alys Bertie Perkins OBE, rhan o Gasgliadau Menywod mewn Gwaith yr Imperial War Museum. rn

Alys Bertie Perkins

Llun o Alys Bertie Perkins OBE, rhan o Gasgliadau Menywod mewn Gwaith yr Imperial War Museum. rn

Hysbyseb ar gyfer cwrs Croes Goch mewn Cymorth Cyntaf a nyrsio. Cambria Daily leader 22ain Chwefror, 1916.

Hysbyseb papur newydd

Hysbyseb ar gyfer cwrs Croes Goch mewn Cymorth Cyntaf a nyrsio. Cambria Daily leader 22ain Chwefror, 1916.


Atodiad i’r Edinburgh Gazette, yn cynnwys gwobrwyo Alys Bertie Perkins â’r OBE, Ionawr 9fed 1918.

Edinburgh Gazette

Atodiad i’r Edinburgh Gazette, yn cynnwys gwobrwyo Alys Bertie Perkins â’r OBE, Ionawr 9fed 1918.



Administration