Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Marie Beckers
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Athrawes, ffoadures
Nodiadau: Roedd Marie Becker yn un o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a letyai yn Nhreffynnon, ac ymddengys mai hi oedd llefarydd y grŵp. Adroddwyd am ei phenodi i ddysgu plant o Wlad Belg gyn Ysgol Sir Treffynnon yn y wasg Gymreig a Saesneg.
Cyfeirnod: WaW0399
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.
Minna Amelia Benner (née MacFarlane)
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Meddyg, 1914 - 1934
Marwolaeth: 1962, Achos anhysbys
Nodiadau: Minna Benner oedd un o’r menywod cyntaf i gymhwyo’n feddyg ym Mhrifysgol Glasgow, yn 1897. Ar ôl treulio rhai blynyddoedd yn Iwerddon, yn gweithio fel Swyddog Iechyd Cynorthwyol, symudodd i Gasnewydd yn Swyddog Meddygol Cynorthwyol mewn Ysgolion yn 1914. Yn 1917 daeth yn swtddog meddygol cyntaf Casnewydd ar gyfer y Cynllun Mamolaeth a Lles Plant. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig ym maetheg plant (cyhoeddwyd papur ganddi ar y pwnc yn y Perspectives in public Health yn 1924), ac roedd yn ffeminydd a diddordeb mewn diwygio cymdeithasol. Bu fyw tan ei bod yn 99 oed.
Ffynonellau: British Medical Journal, Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0408
Alys Bertie Perkins (née Sandbrook)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Penswyddog a Phwyllgorwraig, British Red Cross
Nodiadau: Roedd Alys Bertie Perkins yn Benswyddog ac Ysgrifennydd Cymdeithas y Groes Goch Abertawe, ac yn benswyddog yng ngofal recriwtio ar draws sir Forgannwg. Erbyn yn gynnar yn 1918 nodid mai yn Abertawe yr oedd y nifer mwyaf o welyau Croes Goch ledled de Cymru. Gwobrwywyd hi â’r OBE yn Ionawr 1918, a disgrifir hi yn y Cambria Daily Leader fel gweithwraig a threfnydd frwdfrydig a phoblogaidd y Groes Goch yn Sgeti.
Cyfeirnod: WaW0369
Alys Bertie Perkins
Llun o Alys Bertie Perkins OBE, rhan o Gasgliadau Menywod mewn Gwaith yr Imperial War Museum. rn
Hysbyseb papur newydd
Hysbyseb ar gyfer cwrs Croes Goch mewn Cymorth Cyntaf a nyrsio. Cambria Daily Leader 22ain Chwefror, 1916.
Edinburgh Gazette
Atodiad i’r Edinburgh Gazette, yn cynnwys gwobrwyo Alys Bertie Perkins â’r OBE, Ionawr 9fed 1918.
E Bethel
Man geni: Talywaun ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Cofnodir enw E Bethel yn Weithwraig mewn Ffatri Arfau Genedlaethol ar Restr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Pisgah, Talywaun. Ni wyddys rhagor amdani.
Cyfeirnod: WaW0293
Margaret Walker Bevan
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS
Marwolaeth: 1915 - 1919, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd hi yn Abertawe yn 1883. Hyfforddodd Margaret yn nyrs yn Coventry a gweithiodd wedyn yn Barnsley. Yn gynnar yn 1915 ymunodd â staff yr Ysbyty Milwrol Cymreig, Netley. Cynlluniwyd yr Ysbyty Cymreig i fod yn symudol, ac ymhen dim paciwyd popeth a’i anfon gyda’i staff i Deolali yn India. Gweithiodd Margaret yno, ac ym Mesopotamia, tan fis Rhagfyr 1919. Ar ôl y rhyfel daeth yn Fetron yn Ysbyty Goffa Newydd Farnborough, Surrey.
Ffynonellau: People’s Collection Wales
Cyfeirnod: WaW0429
Minnie Bevan
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Dioddefodd sioc ond goroesodd y ddamwain a laddodd Gwendoline (Gwenllian) Williams a Sarah Jane Thomas 8fed Ionawr 1919
Cyfeirnod: WaW0085
Adroddiad papur newydd am ffrwydrad
Cyfeiriad at Minnie Bevan mewn adroddiad papur newydd, Carmarthen Journal Ionawr 1919
Helen Beveridge
Man geni: Y Fenni ?
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, November 1916 - September 1919
Nodiadau: Ganwyd Helen yn 1887 a gwirfoddolodd ar gyfer Ysbytai Menywod yr Alban yn Nhachwedd 1916. Gadawodd am Salonica ar unwaith. Arhosodd yn Serbia hyd nes iddi gael ei hanfon adre yn glaf yn haf 1919. Enillodd fedal y Groes Goch Serbaidd Frenhinol am ei gwaith yno.
Cyfeirnod: WaW0274
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Caption [Cy] Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Helen Beveridge (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rodd o oriawr i Helen Beveridge yn Eglwys y Bedyddwyr Stryd Frogmore, Abergavenny Chronicle 24ain Tachwedd 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddychweliad Helen o Serbia. Abergavenny Chronicle 26ain Medi 1919
Mary Lavinia Beynon
Man geni: ASbertawe ?
Gwasanaeth: Bydwraig
Nodiadau: Cafodd Mary Beynon, 40 oed, ei chyhuddo o lofruddio Esther Davies [qv]. Cyhuddwyd hi o ddefnyddio offeryn i wneud erthyliad, ac o ganlyniad bu Esther Davies farw. Cafodd Mary, a oedd yn wraig i Arolygydd gyda’r Heddlu, ei chael yn ddieuog yn Nhachwedd 1919.
Cyfeirnod: WaW0303
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyhuddiad yn erbyn Mary Beynon. Cambria Daily Leader 11eg Awst 1919.
Adrodiad papur newydd
Adroddiad am y ddedfryd ddieuog. Adroddiad am y cyhuddiad yn erbyn Mary Beynon. Cambria Daily Leader 11eg Awst 1919.
Caroline Emily Booker (née Lindsay)
Man geni: Glanafon, Sir Forgannwg
Gwasanaeth: Is-lywydd , VAD, 1909-1919
Nodiadau: Daeth Mrs Booker yn weddw yn 1887. Hi oedd sylfaenydd mintai leol Morgannwg o’r VAD (22) yn 1909. Ymddengys iddi symbylu defnyddio Tuscar House, Southerndown, yn Ysbyty’r Groes Goch ym mis Mai 1915, a bu’r rhan fwyaf o’i 7 merch yn chwarae rhan o bwys neu un fechan yn rhedeg yr Ysbyty. [qv Etta,Ellen, Mabel, Ethel and Dulcie Booker]. Darparodd Mrs Booker gar a phetrol i gludo cleifion i ac o orsaf Penybont 5 milltir i ffwrdd.
Cyfeirnod: WaW0470
Cofnod am Caroline Booker
Cofnod am Mrs Booker yn The County Families of the United Kingdom, Edward Walford (yr argraffiad hwn, tua 1920)
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Caroline Booker yn dangos ei gweithgaredd ar ran VAD.
Tuscar House
Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House Southerndown. Defnyddiwyd y tŷ’n ysbyty yn ystod yr Ail Ryfel Byd hefyd.
Dulcie Booker
Man geni: Southerndown ?
Gwasanaeth: Nyrs, Chwaer-mewn-gofal, Trysorydd, Ysgrifennydd Ariannol, VAD, 1914/10/01 – 1919/04/30
Nodiadau: Rheolai Dulcie Booker y cyllid ar gyfer sefydlu Ysbyty Tuscar House yn ogystal â chostau beunyddiol ei redeg. O 1917 ymlaen hi oedd y Chwaer-yng-ngofal yn yr Ysbyty. Cymerodd ran flaenllaw, gyda’i chwaer Mabel [qv] yn trefnu adloniant i’r cleifion, gan gynnwys Band Ysbyty’r Groes Goch Tuscar House. Roedd galw am ei gwasanaeth yn gyfeilydd lleol.
Cyfeirnod: WaW0475
Cerdyn Cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn cofnod y Groes Goch ar gyfer Dulcie Booker, yn dangos ei gwasanaeth yn Ysbyty Tuscar.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y derbyniad ‘Croeso Adre’ a oedd yn cynnwys perfformiad gan Fand Ysbyty Tuscar. Glamorgan Gazette 19 Gorffennaf 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y Matinée Mawreddog yn Sinema Penybont gan filwyr Tuscar House (ac eraill) Glamorgan Gazette 29 Tachwedd 1918
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyniad i Dulcie ac Ethel Booker pan gaewyd ysbyty Tuscar House ym mis Ebrill 1919. Glamorgan Gazette 4 Ebrill 1919