Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Muriel Richards
Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Roedd Muriel Richards, a Violet Williams [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i iddinoethi dwy wraig dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw gyntaf, Eleanor Rees, wrth Muriel y byddai’n priodi dyn ifanc hardd, ac y byddai ei theulu’n gwrthwynebu hynny. Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi ar yr un bore. Dwedodd wrth Muriel y byddai’n cwrdd â dyn tywyll iawn; byddent yn priodi ac yn cael wyth o blant. Cododd Mary Evans 1/- am hyn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a chawsant ddirwy o 5/-.
Cyfeirnod: WaW0445
Adroddiad papur newydd
Darn o adroddiad llys am achos llys y ddwy fenyw dweud ffortiwn. Roedd Muriel Richards yn un o ddau dyst yr heddlu Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.
Mary Thompson Ritchings
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Meddyg, Penswyddog , VAD
Nodiadau: Ganed Dr Mary Ritchings yn 1879 a hi oedd Penswyddog y VAD yn Abertawe erbyn 1912. Yn 1915 fe’i dyrchafwyd yn gyfarwyddwraig feddygol Ysbyty Groes Goch yr YMCA, un o ysbytai mwyaf Cymru gyda 360 gwely. Gweithiodd yno tan ddiwedd y rhyfel, ond parhaodd hefyd i gynnal sesiynau wytnosol yn y clinig arloesol y Mother and Baby Welcome a gymeradwywyd gan y Frenhines Mary ymysg eraill. Enillodd yr MBE ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0250
Llun papur newydd
Arolwg o VAD Abertawe, gyda Mary Ritchings, y Penswyddog. Cambrian Daily Leader 31ain Hydraf 1913
Annie Roach
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - December 1915
Marwolaeth: December / Rhagfyr 1, Great Yarmouth, Enteric fever / Ffliw enterig
Nodiadau: Daliodd Annie, a oedd yn 21 pan fu farw, dwymyn enterig oddi wrth glaf o forwr mewn ysbyty heintiau yn Great Yarmouth. Daethpwyd â’i chorff yn ôl i’w gladdu yng nghladdfa Dan y Graig, Abertawe.
Cyfeirnod: WaW0354
Annie Roberts
Man geni: Caergybi
Gwasanaeth: Aelod, WRAF, 14/05/1918 - d.
Marwolaeth: 1918-12-12, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Caergybi, Ynys Mon
Nodiadau: 20 oed, bu’n gwasanaethu yn ardal Caer. Claddwyd yng nghladdfa Caergybi (Maeshyfryd)
Cyfeirnod: WaW0053
Charlotte Emma (Lottie) Roberts
Man geni: Abergwyngregyn ger Bangor, 1883
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ymunodd Charlotte (Lottie) Roberts â’r Fintai Gymorth Wirfoddol (VAD) yn Awst 1914. Ar ôl cyfnod yn nyrsio yn Lincoln cafodd ei hanfon i Calais ym Mehefin 1916. Roedd mor falch o’i hiwnifform gwisgodd hi ar gyfer ei phriodas yn Llundain yn 1919 neu 1920. Enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0099
Lottie Roberts Mintai Gymorth Wirfoddol (VAD);
Lottie Roberts yn iwnifform y Fintai Gymorth Wirfoddol ( VAD);
Elizabeth Roberts
Man geni: Sir Ddinbych ?
Gwasanaeth: Golchwraig, 1918 - 1919
Nodiadau: Er nad oedd yn aelod o’r Groes Goch, gweithiai Elizabeth un diwrnod am ddim, yn ogystal â 3 neu 4 am dâl, yn golchi dillad ar gyfer yr ysbyty Croes Goch atodol, lle roedd 36 gwely, yn Y Waun. ‘Roedd y gwaith yn drwm iawn’
Cyfeirnod: WaW0349
Elizabeth Roberts
Man geni: Sir Ddinbych ?
Nodiadau: Mae cerdyn y Groes Goch yn cofnodi i Elizabeth weithio am 11 mis fel golchwraig yn Ysbyty Atodol Bryncunallt, Y Waun am 4-5 diwrnod yr wythnos, un ohonynt heb dâl. Roedd ei gŵr yn löwr, ac i ffwrdd yn ymladd. Yn ôl y penswyddog ‘Roedd y gwaith yn drwm iawn, a gweithiodd oriau ychwanegol heb rwgnach, a gwneud y gwaith yn rhagorol.’ Nid oedd yn Aelod o’r Groes Goch Brydeinig.
Cyfeirnod: WaW0417
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Roberts [cefn] yn nodi ei gwasanaeth.
Ethel Roberts
Man geni: Wrecsam
Gwasanaeth: Plentyn
Marwolaeth: 1916/03.09, Moss, Wrecsam , Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, Wrecsam, Sir Ddinbych
Nodiadau: Lladdwyd Ethel, blwydd oed, pan ffrwydrodd siel y daeth ei hewyrth adre â hi fel swfenîr, gan ei lladd hi ac anafu ei chwaer a dwy gyfnither yn angeuol. Anafwyd ei hewyrth y milwr cyffredin John Bagnall yn ddifrifol yn ogystal â’i mam Sarah Roberts a’i modryb Mary Bagnall. Claddwyd y plant mewn dau fedd ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt, lle cysegrwyd cofeb i’r pedair merch ym mis Mawrth 2016.
Ffynonellau: http://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/wrexham-remembers-four-children-killed-11027982
Cyfeirnod: WaW0220
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ffrwydrad y siel a laddodd bedair merch ac anafu tri oedolyn, North Wales Chronicle 10fed Mawrth1916
Cofeb
Cofeb i Sarah Bagnall, Ethel Roberts, Mary Roberts a Violet Williams ym mynwent Eglwys y Drindod Sanctaidd, Gwersyllt a gysegrwyd ym mis Mawrth 2016.
Gwenllian Elizabeth Roberts
Man geni: Llangynidr
Gwasanaeth: Chwaer Nyrsio, QAIMNS Reserve
Nodiadau: Enillodd Gwenllian Roberts y Groes Goch Frenhinol am ei gwasanaeth yn Ysbyty Milwrol Canolog Chatham, swydd Caint.
Cyfeirnod: WaW0115
Gwenllian Elizabeth Roberts
Y Chwaer Gwenllian Elizabeth Roberts QAIMNSR yn gwisgo ei medal Croes Goch Frenhinol
Croes Goch Frenhinol Gwenllian Roberts
Croes Goch Frenhinol y Chwaer Gwenllian Roberts, a enillodd ar Awst 5ed 1919.
Yr Edinburgh Gazette yn rhestru gwobr y Chwaer Roberts
Yr Edinburgh Gazette yn rhestru gwobr y Chwaer Roberts, Awst 5ed 1919 (8fed yn y golofn ar y dde)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am wobr y Chwaer Roberts, Llais Llafur Hydref 25ain 1919
Jane (Jennie) Roberts
Man geni: Bryncrug
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS
Marwolaeth: 1917-04-10, HMHS Salta, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 30 oed. Bu farw pan suddwyd Llong Ysbyty Ei Fawrhydi 'Salta' ger Le Havre ar 10 Ebrill 1917. Collwyd hi ar y môr ac ni chafwyd hyd i'w chorff. Gwelir ei henw ar Gofeb y Salta ym Mynwent y Santes Marie, Le Havre, Normandi, Ffrainc, ac ar blac coffa ym mhorth Eglwys Sant Cadfan, Tywyn
Cyfeirnod: WaW0052
Jane (Jennie) Roberts
Ffotograff o Jane/Jennie a gasglwyd gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum fel rhan o’i gasgliad a fenywod a fu farw yn ystod y Rhyfel