Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Lucy Jane Saint,
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC
Marwolaeth: 1918-10-27, Royal Victoria Hospital Boscombe, Hampshire, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Giatiau Coffa Rhyfel; Bedd Sant Mihangel, Pont-y-pŵl, Sir Fynwy
Nodiadau: 23 oed. Claddwyd ym mynwent Llanfihangel Pont-y-moel, Pont-y-pŵl
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GSob=c&GSsr=1&GScid=2532175&GRid=122596316&df=p&; http://www.southwalesargus.co.uk/news/11559566.Female_war_casualty_from_Pont-y-p?l/Pontypool/Pont-y-p?l/Pont-y-p?l_to_be_commemorated/
Cyfeirnod: WaW0055
Hylda Salathiel
Man geni: Pencoed
Gwasanaeth: Nyrs, chwaraewraig hoci, South Wales Nursing Association
Marwolaeth: 1918/11/06, Caerdydd, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hylda Salathiel, yn un o saith chwaer ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Penybont ar Ogwr. Hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol Merthyr. Am gyfnod bu’n chwaraewraig hoci ryngwladol, gan chwarae i dimau Menywod Penybont a De Cymru. Bu’n nyrsio yn Bournemouth am gyfnod, ond dychwelodd i dde Cymru, lle daliodd y ffliw a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Gwellodd y claf ac anfonodd flodau i angladd Hylda.
Cyfeirnod: WaW0301
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci ryngwladol rhwng Menywod de Cymru a Mynwy a Menywod Munster. Glamorgan Gazette 12fed Chwefror 1909
Ezzelina Samuel
Man geni: Pontarddulais
Gwasanaeth: Nyrs, 1916 - 1919
Marwolaeth: February 1919 , Ysbyty Kemptown, Brighton, Bronchitis following influenza / Broncitis yn dilyn ffliw
Nodiadau: Roedd Ezzelina yn un o wyth plentyn Thomas Samuel, uwch-arolygydd Gweithfeydd Tunplat Clayton, Pontarddulais. Roedd hi’n sefyll ei harholiadau terfynol ar ôl hyfforddi yn nyrs yn Brighton pan aeth yn sal a bu farw, yn 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0278
Adroddiad papur newydd a llun
Erthygl fer yn nodi marwolaeth Ezzelina, gyda darlun.rnHerald of Wales 1af Mawrth 1919
adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Ezzelina Samuel yn Brighton. Carmarthen Journal 7fed Mawrth 1919
Gwladys Alice Samuel
Man geni: Aberystwyth
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC, February 1918 -
Nodiadau: Anfonwyd Gwladys, Geid frwdfrydig, i Wersyll Cinmel, gogledd Cymru yn Chwefror 1918. Roedd ei thad a’i dau frawd yn gwasanaethu yn y fyddin.
Cyfeirnod: WaW0317
Adroddiad papur newydd a llun
Adroddiad byr am Gwladys Samuel yn ymuno â’r WAAC, ynghyd â llun ohoni. Cambrian News 22ain Chwefror 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymadawiad Gwladys â Gorsaf Aberystwyth, Cambrian News 15fed Chwefror 1918.
Annie Sanders
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Postmones, Post Office / Swyddfa Bost
Nodiadau: Ychydig a wyddys am Annie Saunders, heblaw ei bod yn aelod yn Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Annie yn un o’r ‘Road Roamers’. Cyflwynodd y Swyddfa Bost y wisg swyddogol las o frethyn gwrymog sydd amdani yn 1914. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0108
Ethel Saxon
Man geni: Abertyleri
Gwasanaeth: Nyrs Staff, TFNS
Marwolaeth: 1917-09-03, Appendicitis/Llid y pendics
Cofeb: Cofeb Ryfel; Cofeb y Nyrsys; Llidiart Delhi, Kingsland; Cadeirlan Lerpwl; Delhi, Swydd Henffordd; Sir Gaerhirfryn; India
Nodiadau: Ganed hi yn 1891, roedd ei thad yn adeiladydd a saer. Gweithiodd am gyfnod yn Lerpwl cyn mynd dramor. Ymddeolodd ei rhieni i Kingsland, swydd Henffordd lle caiff ei choffáu; gwelir ei henw hefyd at gofeb y Nyrsys, Cadeirlan Lerpwl ac ar Gofeb Ryfel India – Llidiart Mawr Delhi
Cyfeirnod: WaW0134
Sarah Anne Sybil Lucille Seabourne (Hinton)
Man geni: Y Fenni
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Ganwyd Sybil yn 1898 a bu’n gweithio mewn ffatri gwneud arfau rhyfel ond ni wyddys pa ffatri. Priododd Clifford Hinton yn 1920, a bu farw yn 1972.
Cyfeirnod: WaW0132
Sybil Seabourne
Sybil Seabourne gyda chyd-weithwyr yn y ffatri arfau. Hi yw’r drydedd ar y chwith, yn gwisgo rhwymyn braich. Efallai ei bod yn brifweithwraig ei grŵp
May Selwood
Man geni: Casnewydd?
Gwasanaeth: Gwraig, gweddw
Marwolaeth: 1995-11-03, Achos anhysbys
Nodiadau: Bu farw g?r May, William Henry Shelwood o effaith siel-syfrdandod ar ddydd Calan, 1919. Bu hi’n weddw am weddill ei hoes – am 76 blynedd a honnir mai hi oedd gweddw hiraf y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain. Mae wedi ei chladdu yng nghladdfa Christchurch, Casnewydd.
Cyfeirnod: WaW0106
Bedd May Selwood
Bedd May Selwood sef gweddw hiraf y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrydain yn ôl yr honiad.Claddfa Christchurch, Casnewydd
Hysbysiad o farwolaeth William Henry Selwood
Hysbysiad o farwolaeth William Henry Selwood, bu farw 1af Ionawr 1919
Annie Mary Slade (Hall)
Man geni: Pentre, Rhondda
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau, 1916 - 1919
Marwolaeth: After 2003, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Annie Slade yn 1903. Roedd ei mam yn wreiddiol o Aberystwyth ac roedd ei thad yn ryw fath o fòs yn y pwll glo (Bu farw o ganlyniad i anaf pan oedd Annie yn laslances). Bu hi a’i theulu yn lwcus i oroesi tip yn llithro yn 1909. Pan oedd yn 15 a hanner oed ymunodd â’r WAAC yng Nghasnewydd, ond darganfuwyd ei hoedran (roedd ar restr i’w hanfon i Ffrainc) a diswyddwyd hi a’i ffrind Yn 16 oed dechreuodd weithio yn y Ffatri Lenwi Sieliau Genedlaethol yn Rotherwas, Swydd Henffordd. Cyhoeddwyd adroddiad maith am ei phrofiadau yn In the Munitions: Women at War in Herefordshire, pan oedd hi’n gant oed. rn
Ffynonellau: In the Munitions: Women at War in Herefordshire, edited Bill Laws 2003.
Cyfeirnod: WaW0285
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lithriad tir yn y Pentre pan ddinistriwyd cartref Annie a’i theulu, Evening Express 8fed Chwefror 1909.
Mary Ellen Small
Man geni: Abercreg[g]an
Gwasanaeth: Gweinyddes, Womens Legion
Nodiadau: Esgorodd Mary Ellen Small ar fachgen bach yn Ebrill 1918. Roedd y tad, William Speake, a wadai hynny, yn gorporal yn y Gatrawd Gymreig, ac yn gyn-lowr o Drealaw. Cwrddon nhw pan oedd yn hyfforddi yng Ngwersyll Cinmel, Bodelwyddan, lle gweithiai yn weinyddes. Gorchmynnwyd iddo dalu 5 swllt yr wythnos nes roedd y bachgen yn 14 oed.
Cyfeirnod: WaW0341