Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Helen Smith (Thomas)
Man geni: Abertawe
Marwolaeth: 1993, Abertawe, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Helen Smith yn 1908, yn ferch i Alfred ac Elizabeth Smith o Abertawe a ymfudodd i America pan oedd Helen ychydig fisoedd oed. Yn 1915 penderfynon nhw ddychwelyd i Abertawe, a hwylion nhw ar y Lusitania. Pan ymoswyd ar y llong gan dorpido ar 7fed Mai 1915 gwahanwyd Helen oddi wrth ei rhieni a’i brawd bach Hubert. Buon nhw farw, ond achubwyd hi gan y gohebydd o Ganada, Ernest Cowper. Adunwyd hi â’i modryb, Cecelia Owens, teithwraig arall a gollodd ei dau fab pan suddwyd y llong. Yn ddiweddarach priododd hi John Henry Thomas a byw am weddill ei hoes yn Abertawe.
Ffynonellau: http://www.rmslusitania.info/people/second-cabin/helen-smith/
Cyfeirnod: WaW0227
Helen Smith
Helen Smith a’i hachubydd Ernest Cowper. Tynnwyd y llun yn Queenstown, Swydd Cork, Iwerddon. Mae Helen yn gwisgo dillad newydd a roddwyd iddi gan berson lleol a oedd yn dymuno’n dda iddi.
Adroddiad papur newydd (1)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (1). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Adroddiad papur newydd (2)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (2). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Adroddiad papur newydd (3)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (3). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Mary E Smith
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Prif weithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-08-21, Dolgellau, Sickness / Salwch
Cofeb: Cofeb Ryfel, Dolgellau, Meirionnydd
Nodiadau: 42 Oed. Claddwyd yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau.
Cyfeirnod: WaW0056
Gladys May Snell
Man geni: Tregatwg, Y Barri
Nodiadau: Arestiwyd Gladys Snell ar 7fed Mai 1919 am fabanladdiad ei mab siawns 21 mis oed Ieuan Ralph. Roedd wedi cael ei foddi. Anfonwyd hi o’r llys ynadon i’r Brawdlys yn Abertawe. Ni allai’r rheithgor yno gytuno, ac felly ymddangosodd gerbron Brawdlys Tachwedd, lle cafwyd Gladys, a oedd yn 19 oed yn euog o ddyn-laddiad yn hytrach na llofruddiaeth. Dedfrydwyd hi i garchar am naw mis. Cyfrannodd nifer o ewyllyswyr da ar draws de Cymru, gan gynnwys y Sgowtiaid, at gronfa i dalu am ei hamddiffyniad. Gwelir y stori ar ei hyd ar dudalen flaen y Cambrian Daily News, 25ain Gorffennaf 1919.
Cyfeirnod: WaW0364
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am arestio Gladys May Snell am fabanladdiad Barry Dock News 9fed Mai 1919.
Llythyr papur newydd
Llythyr yn apelio am gronfa i amddiffyn Gladys Snell. Barry Dock News 16eg Mai 1919.
Cyfrifon y gronfa amddiffyn
Rhoddion i gronfa amddiffyn Gladys May Snell, Barry Dock News 27ain Mehefin.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am fethiant y y rheithgor i gytuno ar ddedfryd. Cambria Daily leader 26ain Gorffennaf 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ddedfryd y rheithgor o ddynladdiad. Barry Dock News 7fed Tachwedd 1919.
Marion Crosland Soar
Man geni: Caint
Gwasanaeth: Gwyddonydd, cemegydd
Nodiadau: Dechreuodd Marion Soar yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 1913, a graddiodd yn Faglor y Gwyddorau yn 1917. Yna daeth yn ddarlithydd cynorthwyol yn King’s College of Household and Social Science, yn arbenigo mewn bio-cemeg. Yn 1920 roedd Marion yn un o’r garfan gyntaf o 20 menyw a dderbyniwyd yn gymrodyr y Gymdeithas Gemegol (ynghyd â Phyllis McKie [qv]), ar ôl brwydr hir iawn. Roedd menywod wedi bod yn brwydro am gael eu derbyn ers 1892. rn
Ffynonellau: Chemistry Was Their Life: Pioneer British Women Chemists 1880 – 1949. Marelene Rayner-Canham & Geoff Rayner-Canham Imperial College Press 2008
Cyfeirnod: WaW0467
adroddiad gwyddonol
Report of the formation of ferrous sulphide in eggs. Biochemical Journal April 1, 1920
Beatrice Elise Solly-Flood (née Hanbury, formerly Martin)
Man geni: Trefynwy ?
Gwasanaeth: Gwraig a gweddw filwrol, Pwyllgorwraig
Nodiadau: Roedd Elise Solly-Flood yn briod â’r swolegydd Lefftenant Charles Martin o’r Fenni, milwr wrth gefn a laddwyd ym mis Mai 1915. Ym Mehefin 1916 ailbriododd â’r Cadfridog Frigadydd Arthur Solly-Flood, milwr proffesiynol. Cefnogodd Elise yr holl elusennau a’r mudiadau lleol, gan gynnwys arolygu cadlanciau’r fyddin yn y Fenni. Yn groes i’r graen galwyd arni i roi tystiolaeth yn yr achos o dwyll yn erbyn Nellie Prosser [qv] a oedd yn frowyn gyflogedig iddi.
Cyfeirnod: WaW0385
Cyhoeddi priodas
Cyhoeddi priodas arfaethedig rhwng y Cadfridog Frigadydd Arthur Solly-Flood a Mrs Charles Martin. Abergavenny Chronicle 19eg Mai 1916.
Llythyr papur newydd
Llythyr oddi wrth Mrs Solly-Flood ynglŷn ag atgyfodi Cwmni Geidiau y Fenni. Abergavenny Chronicle 22ain Chwefror 1918
Enid Spedding
Man geni: Goginan
Gwasanaeth: Clerc ?, WAAC, 1917 -
Nodiadau: Ymddengys i Enid ymuno â’r WAAC yn Hydref 1917.
Cyfeirnod: WaW0310
Daisy Colnett Spickett
Man geni: Pontypridd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Ymunodd Daisy, merch i gyfreithiwr, â VADs pan ffurfion nhw yn 1910. Gwasanaethodd mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr ac ar longau ysbyty. Dilynwch y cyswllt am gyfweliad diddorol iawn gyda Daisy a recordiwyd yn 1974 (IWM). Mae 8 rîl o dapiau yn gwneud cyfweliad tua 2 awr o hyd.
Ffynonellau: http://www.iwm.org.uk/collections/item/object/80000510
Cyfeirnod: WaW0128
Jane Charlotte Stapleton Cotton (née Methuen)
Gwasanaeth: Llywydd Sefydliad y Merched
Nodiadau: Roedd Jane Stapleton yn wraig i’r Cyrnol Richard Stapleton Cotton, tirfeddiannwr a hyrwyddwr brwd gwelliannau amaethyddol a chymdeithasol. Ef gyflwynodd y syniad o ffurfio Sefydliad y Merched yn Llanfairpwll, sir Fôn, wedi iddo gwrdd â Mrs Margaret Watt o Ganada, a fu’n ymwneud â Sefydliad y Merched yng Nghanada. Agorodd y Sefydliad cyntaf ym Mehefin 1915, gyda Jane Stapleton yn Llywydd. Y Cyrnol Stapleton Cotton yn sicr oedd yn pennu’r rhaglen; fe a’i gi Tinker yw’r unig ddau wryw i fod yn aelodau llawn o SyM.
Ffynonellau: http://www.bbc.co.uk/programmes/p01sdvv0; www.afwi.org.uk/the-first-wi-in-britain.html
Cyfeirnod: WaW0241
Y Cyrnol Stapleton Cotton a’i gi Tinker
Y Cyrnol Stapleton Cotton a’i gi Tinker oedd yr unig ddau wryw i fod yn aelodau llawn o SyM erioed.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Gyfarfod Blynyddol cyntaf SyM LlanfairpwllrnNorth Wales Chronicle 22ain Medi 1916
Maud Starkie Bence
Man geni: Suffolk
Gwasanaeth: Gwirfoddolwraig, 1914 - 1916
Marwolaeth: 1916-06-01, Folkestone, Achos anhysbys
Cofeb: Plac pres coffa, St Brynach, Breconshire
Nodiadau: Roedd Maud Starkie Bence yn gyn-chwaraewraig golff, ac yn ffrind i Arglwydd Glanusk, Arglwydd Raglaw Sir Frycheiniog. Ar ddechrau’r rhyfel bu’n cofrestru holl gerbydau modur y sir ar gyfer eu defnyddio mewn argyfwng. Cyhoeddwyd ei hapêl gyntaf ar 13eg Awst 1914. Erbyn 20fed Awst roedd ganddi fanylion 552 cerbyd, a 150 ohonynt wedi eu cynnig i’r gwaith. Aeth yn ei blaen i godi arian ar gyfer cysuron i Ffinwyr De Cymru. Pan fu farw yn 48 oed yn 1916 codwyd plac er cof amdani gan Ffinwyr De Cymru.
Ffynonellau: The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford 10th September 1914; The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford 6th July 1916
Cyfeirnod: WaW0057
Lizzie Dora Stephens
Man geni: Y Trallwng
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-04-24, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Trallwng, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 23 oed. Claddwyd yng Nghladdfa Filwrol Aldershot
Ffynonellau: http://tanyabirnie.blogspot.it/2014/09/worker-m-f-brown.html
Cyfeirnod: WaW0058