Cofnod o wasanaeth rhyfel Maggie Jones ar Restr Anrhydedd Capel Armenia Caergybi
Hetty Onions
Cofeb: Eglwys Wesley, Tredegar, Sir Fynwy
Nodiadau: Gwelir enw Hetty Onions at y Rhestr Anrhydedd (dan QM WAACS) gynt yn yr Eglwys Wesleaidd, Teras Harcourt, Tredegar
Cyfeirnod: WaW0163
Rhestr Anrhydedd
Enw Hetty Onions ar y Rhestr Anrhydedd
Rose Powell
Man geni: Tredegar ?
Cofeb: Eglwys Wesleaidd , Tredegar, Sir Fynwy
Nodiadau: Gwelir enw Rose Powell at y Rhestr Anrhydedd (dan QM WAACS) gynt yn yr Eglwys Wesleaidd, Teras Harcourt, Tredegar rn
Cyfeirnod: WaW0164
Rhestr Anrhydedd
Enw Rose Powell ar y Rhestr Anrhydedd rn
Miss Williams (Mrs Fisher)
Man geni: Abertyleri
Nodiadau: Eisteddodd Miss Williams, y cyfeiriri ati yn adroddiadau’r wasg fel Mrs Fisher hefyd, wrth droed Cofeb Ryfel Abertyleri yn ei seremoni gysegru ar 1af Rhagfyr, 1926. Roedd yn gwisgo medalau ei thri brawd a laddwyd yn ymladd yn Ffrainc.
Miss Williams yn seremoni gysegru Cofeb Ryfel Abertyleri, 1af Rhagfyr 1926.
Helen Smith (Thomas)
Man geni: Abertawe
Marwolaeth: 1993, Abertawe, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Helen Smith yn 1908, yn ferch i Alfred ac Elizabeth Smith o Abertawe a ymfudodd i America pan oedd Helen ychydig fisoedd oed. Yn 1915 penderfynon nhw ddychwelyd i Abertawe, a hwylion nhw ar y Lusitania. Pan ymoswyd ar y llong gan dorpido ar 7fed Mai 1915 gwahanwyd Helen oddi wrth ei rhieni a’i brawd bach Hubert. Buon nhw farw, ond achubwyd hi gan y gohebydd o Ganada, Ernest Cowper. Adunwyd hi â’i modryb, Cecelia Owens, teithwraig arall a gollodd ei dau fab pan suddwyd y llong. Yn ddiweddarach priododd hi John Henry Thomas a byw am weddill ei hoes yn Abertawe.
Helen Smith a’i hachubydd Ernest Cowper. Tynnwyd y llun yn Queenstown, Swydd Cork, Iwerddon. Mae Helen yn gwisgo dillad newydd a roddwyd iddi gan berson lleol a oedd yn dymuno’n dda iddi.
Adroddiad papur newydd (1)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (1). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Adroddiad papur newydd (2)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (2). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Adroddiad papur newydd (3)
Adroddiad am hanes un a oroesodd y Lusitania Helen Smith (3). Cambrian Daily Leader 10 Mai 1915
Welsh Book of Remembrance /Llyfr Cofio Cenedlaetho
Cofeb: Y Deml Heddwch, Caerdydd, Sir Morgannwg
Nodiadau: Crëwyd Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru fel Rhestr Anrhydedd i gydfynd â dadorchuddio Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd yn 1928. Ymgais ydyw i restru pob dyn a dynes o waed neu o rieni Cymreig … a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel 1914-1918. Cyn agor y Deml Heddwch yn 1938 câi’r llyfr ei arddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol. Cynhwysir sawl menyw: y ddwy stiwardes Hannah Owen a Louisa Parry a fu farw pan darawyd yr RMS Leinster gan dorpido yn 1918; aelodau o’r QMAAC Gertrude Dyer, Jean Roberts, Mary Elizabeth Smith a Lizzie Dora Stephens; ac o’r Fintai Gymorth Ategol Gladys Maud Jones, Gwynedd Llewellyn, Amy Curtis, Eva Davies, Margaret M Evans, Lilian Jones, Edith Tonkin, Jenny Williams a Frances Sprake Jones QAIMNS.rnNid yw’n glir pam y dewiswyd cynnwys y menywod arbennig hyn. Yn y safle we hon ceir enwau llawer o fenywod y gellid bod wedi eu cynnwys. At hyn, nid oedd gan Gladys Maud Jones na Gwynedd Llewellyn, er gwaetha’u henwau, gyswllt diweddar â Chymru o gwbl.
Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru, yn cynnwys enwau 35,000 o ddynion a menywod a wasanaethodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Edith Frances Barker
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr
Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch
Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych
Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.