Nodiadau: Ganwyd Augusta Minshull yn 1861 yn Atherstone, ger Manceinion, ond cafodd ei magu yn Ninbych lle roedd ei rhieni yn rhedeg y Crown Hotel. Ymddengys iddi hyfforddi’n nyrs ar ôl i’w mam farw. Cafodd lu o brofiadau mewn ysbytai yn Lloegr a Dulyn. Yn 1914 ymddengys iddi deithio i Wlad Belg ac yna i Kraguievatz, Serbia yn gynnar yn 1915. Bu farw yn yr epidemig o deiffws yn 53 neu 54 oed.
Cyfeirnod: WaW0468
LlunAugusta Minshull
Casglwyd llun Augusta gan Is-bwyllgor y Menywod fel rhan o’i gasgliad o fenywod fu farw yn ystod y rhyfel.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Augusta Minshull yn Serbia. Denbighshire Free Press 17th April 1915
Ysgrif goffa
Ysgrif goffa Augusta Minshull yn y British Journal of Nursing, yn manylu ar ei gyrfa.
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd aelodau o Ysbytai Albanaidd y Menywod fu farw dramor.
Betty Morris
Man geni: Hwylffordd
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915/05/27 – 1918/07/12.
Nodiadau: Ymunodd Betty Morris â’r VAD ym mis Mai 1915, gan weithio’n wreiddiol yn Ysbyty Ategol Cottesmore, Hwlffordd. Ym mis Tachwedd cafodd ei hanfon i Ffrainc, i Boulogne i ddechrau ond cafodd ei dyrchafu i ‘ysbyty mwy’ yn fuan, y nyrs ieuengaf yno, yn 20 oed. Siaradai Ffrangeg yn rhugl, ac arhosodd gyda’r VAD tan fis Gorffennaf 1918. Cyhoeddwyd rhai o’i llythyron adre yn y Haverfordwest and Milford Haven Telegraph.
Cyfeirnod: WaW0478
Llun papur newydd
Llun o Betty Morris yn ei gwisg VAD awyr agored. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd am ymadawiad Betty Morris am Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 10fed Tachwedd 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Nadolig Betty Morris yn Ffrainc. Haverfordwest and Milton Haven Telegraph 16eg Chwefror 1916
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Elizabeth Thomas
Lizzie Thomas yn ei gwisg swyddogol
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917
Cofeb Ryfel Blaendulais
Llun a dynnwyd yn fuan wedi ei hagor 1920?
Esther Isaac
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914 - 1920
Nodiadau: Ganwyd Esther yn 1884 a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ymunodd â nyrsys wrth gefn y QA yn 1914, ac yn 1915 anfonwyd hi i Ysbyty Milwrol Caergrawnt, pryd yr enillodd y Groes Goch Frenhinol. Ym mis Mawrth 1917 anfonwyd hi i Bombay am 15 mis, yna ei throsglwyddo i Ysbyty Neilltuo Baghdad, lle cafodd ei dyrchafu’n Chwaer. Ar ôl y rhyfel gwasanaethodd am sawl blwyddyn yn Fetron yn Ysbyty Llwynypïa. Parhaodd Esther ar restr wrth gefn y QAIMNS tan 1937
Cyfeirnod: WaW0485
Esther Isaac
Llun papur newydd o Esther Isaac yn gwisgo ei Chroes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916.
Ffurflen y Fyddin B103
‘Ffurflen Ddamweiniau’ yn rhestru gwasanaeth Esther Isaac gartref a thramor
Rhestr Anrhydedd
Enw ‘Nurse Esther Isaac India’ ar restr anrhydedd Capel yr Annibynwyr, Stryd Henrietta, Abertawe.
Lily Ellis
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i arweinydd côr adnabyddus, Hugh Ellis, yn Aberpennar, a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ar ôl gweithio yn Abertawe a Malvern cafodd ei phenodi yn chwaer theatr yn Ysbyty Lewisham, Llundain. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd â’r TFNS ac roedd yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cyffredinol Deheuol 1af pan ymwelodd y Brenin George V yn 1916; enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0486
Lily Ellis
Llun papur newydd o Nyrs Lily Ellis. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Lily Ellis yn Chwaer Theatr yn Ysbyty Lewisham.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Lily Ellis â’r Groes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916
Sally Constant
Man geni: Y Rhondda
Gwasanaeth: Nyrs (Chwaer), 1914 - 1918
Marwolaeth: 1949, Achos anhysbys
Nodiadau: Bu’r Chwaer Sally Constant yn nyrsio yn Ysbyty Llwynypïa, y Rhondda, gydol y Rhyfel. Efallai iddi hyfforddi yng Nghaerdydd cyn y Rhyfel. Fel cynifer o nyrsys roedd ganddi albwm (yn dyddio’n ôl i 1907) sy’n cynnwys llawer o gyfraniadau gan filwyr o gleifion. Bu’n gweithio tan yr Ail Ryfel Byd.
Cyfeirnod: WaW0148
Y Chwaer Constant
Y Chwaer Sally Constant (1930au)
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm gyda cherdyn post doniol, wedi’i llofnodi gan y gyrrwr, Driver Whiteside, 1918
Tudalen o Albwm
Tudalen o albwm wedi’i llofnodi gan Roger Fuller DCM, 1917
Tudalen o Albym
Tudalen Albwm ‘The Lost cord’ wedi’i llofnodi gan y cloddiwr Sapper W H Carey 1918
Tudalen o Albwm
Tudalen o albwm: darlun o awyrennau a bathodyn, llofnodwyd gan S Shaddick
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm wedi’i llofnodi gan y gynnwr Gunner H Tyllyer 1916. Anafwyd deirgwaith ‘Nil Desperandum’
Sister Hopkins
Gwasanaeth: Nyrs (Chwaer), QARNNS ?
Nodiadau: Ni does unrhyw beth yn hysbys am y Chwaer Hopkins heblaw bod ei henw ar Restr Anrhydedd Caprl Cymraeg Kings Cross, Llundain a bod ‘RN Hospital’ yn ei ymyl.
Cyfeirnod: WaW0197
Restr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain.
Enw’r Chwaer Hopkins ar Restr Anrhydedd
Enw’r Chwaer Hopkins ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Ellen Catherine Clay (née Williams)
Man geni: Penrhos
Gwasanaeth: Nyrs (Pennaeth), Cadeirydd Byddin Dir y Merched, Caergybi, VAD, WLA/Byddin Dir y Merched
Nodiadau: Ganwyd Ellen Williams yn ferch i ffermwr tua 1866. Priododd feddyg lleol, Thomas William Clay, yn 1898. Pan dorrodd y Rhyfell allan daeth hi’n Ben swyddog Cynorthwyol VAD (Mintai Atodol Wirfoddol) Caergybi. Gweithiodd yn Ysbyty’r Groes Goch Holborn yn ogystal ag ar Ynys Môn; at hyn bu’n helpu rhedeg Cantîn y Groes Goch yng Ngorsaf Reilffordd Caergybi. Yn ogystal bu Mrs Clay yn cadeirio pwyllgor recriwtio Byddin Dir y Merched. Bu farw yn 1935.
Ffynonellau: Holyhead and Anglesey Mail 7 May / Mai 2014
Cyfeirnod: WaW0153
Ellen Catherine Clay
Ellen Catherine Clay VAD
Elizabeth Anne Montgomery Wilson
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Nyrs (Prif Fetron), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Bu Elizabeth Montgomery Wilson yn gwasanaethu yn Rhyfel y Boer, yn uwcharolygydd Gwasanaeth Nyrsio Byddin Gristnogol y Dywysoges. Roedd hi’n Fetron Ysbyty Infirmary Caerdydd eisoes, ac yn Brif Fetron pan ddaeth yr ysbyty yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin yn 1914. Dychwelodd i swydd metron ar ddiwedd y rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0339
Elizabeth Montgomery Wilson
Elizabeth Montgomery Wilson yn narlun Margaret Lindsay Williams o 3ydd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin. Mae hi ar y chwith.
London Gazette
Gwobr o far i’r Groes Goch Frenhinol a gyhoeddwyd yn y London Gazette. Roedd Elizabeth Montgomery Wilson eisoes wedi derbyn yr anrhydedd hwn yn gynt yn y rhyfel. London Gazette13th January 1920
Janet Parry
Man geni: Y Dre Newydd
Gwasanaeth: Nyrs (Prif), TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Cyn y Rhyfel gweithiai Nyrs Parry yn Ysbyty Heswall, Cilgwri. Wedi cyfnod yn gweithio yn Ysbyty Cyffredinol Cyntaf y Gorllewin (Ysbyty Fazackerly), Lerpwl, bu’n gwasanaethu ar yr HMHS Mauretania, yn hwylio yn ôl a blaen i’r Aifft sawl tro. Wedi cyrraedd yr Aifft yr eildro, ysgrifennodd adre “I can't say that I am in any rnway struck with Egyptian life, and the food, oh dear! I suppose you get used to it. ... ”. Yn ddiweddarach bu’n gwasanaethu yn Ffrainc ac enillodd yr Royal Red Cross yn Ionawr 1919. rn
Ffynonellau: Montgomeryshire Express, Montgomeryshire County Times