Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Gladys *
Man geni: Caerdydd?
Gwasanaeth: Merch
Nodiadau: Ffotograff o ferch ifanc yng ngwisg milwr cyffredin gyda’r Magnelwyr Brenhinol (mae’n rhy fawr iddi) ynghyd â ffon swagar, ac yn eistedd ar gadair. Mae ei gwallt wedi’i glymu nôl â chwlwm mawr, sy’n awgrymu nad ydy hi ddim h?n na 16 neu 17 oed; Ar gefn y ffotograff nodir iddo gael ei dynnu yn Gale’s Studios Ltd, Stryd y Frenhines, Caerdydd. Mae ‘From Gladys / To Ada’ wedi’i ysgrifennu mewn inc arno.
Cyfeirnod: WaW0077
Ffotograff o Gladys, Caerdydd
Ffotograff o Gladys yn ferch ifanc yn gwisgo iwnifform y Magnelwyr Brenhinol, tua 1914
Cefn ffotograff Gladys
Ar gefn y ffotograff nodir: Gale’s Studios Ltd, Heol y Frenhines, Caerdydd a’r arysgrifen 'To Ada From Gladys’
Jean Arbuckle
Man geni: Yr Alban
Gwasanaeth: Merch
Nodiadau: 'Ganwyd fy mam, Jean Wardlaw Arbuckle, yn yr Alban a threuliodd ei blynyddoedd cynnar yno mewn nifer o drefi a phentrefi bychain yn y canolbarth rhwng Gourock yn y gorllewin a Preston Pans yn y dwyrain. Hi oedd y trydydd plentyn mewn teulu o ddeuddeg. Pan oedd hi tuag 11 oed, symudodd y teulu i gymoedd glofaol de Cymru, wrth i’w thad geisio am ddyrchafiad yn y diwydiant glo. Roedd fy mam yn 15 oed pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr atgofion a draddododd i mi sonia am brinder difrifol o fwyd, ei gost uchel, nes cyflwyno dogni. Dwedodd fod hyn yn hollol annheg ar deuluoedd tlawd iawn, ac i ddogni wella’r sefyllfa. Ar ddechrau’r Rhyfel trigai’r teulu yn Nhon-du, i’r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr, ond symudon nhw i Lanharan wyth milltir o Ben-y-bont rywdro yn 1915. Mynychodd hi Ysgol Sir Pen-y-bont yn y cyfnod hwn, gan deithio yno o orsaf drên Llanharan. Roedd prinder staff wedi arwain at gyfuno rhywfaint ar ysgolion y bechgyn a’r merched. Ymddengys bod y drefn hytrach yn llac a bod tipyn o chwarae triwant. Byddai’r disgyblion yn diflannu yn aml yn ystod y dydd, yn cerdded Merthyr Mawr, yn fechgyn a merched gyda’i gilydd. Un diwrnod penderfynodd hi adael yr ysgol yn gynnar, cafodd lifft gan ffermwr, ar ei geffyl a chert nôl i Lanharan ar hyd heolydd troellog, cul. Gan fy nhad-cu roedd un o’r ceir cyntaf yn yr ardal bryd hynny, a chlywodd hi e’n dod ar hyd y ffordd tuag atynt. Gwyddai, pe gwelai e hi y câi ei churo â strapen, felly neidiodd oddi ar y gert, dros y clawdd, a cherddodd weddill y ffordd adre. Roedd y teulu yn aelodau gyda’r Brodyr Plymouth, ond nid yw hynny fel petai wedi rhwystro’r plant rhag bod ychydig yn ddi-wardd.' Janet Davies 13.11.2015.
Cyfeirnod: WaW0078
Minnie Bevan
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Dioddefodd sioc ond goroesodd y ddamwain a laddodd Gwendoline (Gwenllian) Williams a Sarah Jane Thomas 8fed Ionawr 1919
Cyfeirnod: WaW0085
Adroddiad papur newydd am ffrwydrad
Cyfeiriad at Minnie Bevan mewn adroddiad papur newydd, Carmarthen Journal Ionawr 1919
Gladys Butler
Man geni: Y Cymoedd, 1914
Gwasanaeth: Plentyn bach
Nodiadau: Mae gan Gladys Butler atgof byw o gael ei gwisgo mewn iwnifform milwr bychan (tua1916/17) a’i rhoi i sefyll ar fwrdd. Pan edmygwyd y ‘milwr bychan smart’, mynnodd nad bachgen ydoedd ond merch! (CF Tachwedd 2014)
Cyfeirnod: WaW0090
Clemima Coopey
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-02-26, Ysbyty Gweithwyr Blaenafon , Industrial Accident / Damwain Ddiwydiannol
Nodiadau: Cafodd Clemima Coopey ei dal mewn peiriant yn nhŷ-peiriant Cwmni Blaenavon Cyf. Roedd yn rhuthro i ddal y trên 9.30 y.h., ac roedd wedi gadael ei hesgidiau yno yn anghyfreithlon. Roedd ei gŵr yn ymladd yn Salonica, ac roedd ganddi dri phlentyn bach.
Cyfeirnod: WaW0071
Elizabeth Beatrice Cope
Man geni: Sir Gaerhirfryn, c.1871
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Trigai Beatrice Cope gyda’i g?r George yn Nhryleg, Sir Fynwy. Cyn hynny roeddent wedi byw yn Sir Ddinbych. Yma gwelir hi mewn ffotograff gyda’i mab ieuengaf George, a elwid yn Eric. Roedd e’n ail lefftenant dros dro yn 2il Gatrawd (1st Tyneside Scottish) Ffiwsilwyr Northumberland. Mae’n debyg i’r darlun gael ei dynnu’n union cyn i Eric gael ei anfon i Ffrainc yn Ionawr 1916. Lladdwyd Eric ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, 1af Gorffennaf 1916. Dim ond 18 mlwydd oed ydoedd.
Cyfeirnod: WaW0069
Edith E Copham
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918
Cyfeirnod: WaW0002
Annie Crosby
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Ymdeithiwr
Marwolaeth: 1915-05-07, SS Lusitania, Drowning/Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Bagillt, Sir y Fflint
Nodiadau: 36 oed. Boddwyd gyda ei chwaer Ellen pan suddwyd y Lusitania.
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com; www.rmslusitania.info/
Cyfeirnod: WaW0003
Ellen (Nellie) Crosby
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Ymdeithiwr
Marwolaeth: 1915-05-07, SS Lusitania, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Ryfel, Bagillt, Sir y Fflint
Nodiadau: 40 oed. Boddwyd gyda ei chwaer Annie pan suddwyd y Lusitania
Ffynonellau: http://www.lintshirewarmemorials.com; www.rmslusitania.info/
Cyfeirnod: WaW0004
Violet Annie Davies
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Teleffonydd
Nodiadau: 15 oed. Derbyniodd Fedal Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig am ei dewrder yn aros yn ei safle waith ar y ffon yn ystod ffrwydrad difrifol.
Ffynonellau: The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser;
Cyfeirnod: WaW0006
Adroddiad papur newydd
adroddiad am y cyflwyniad yn y Carmarthen Journal and South Wales Advertiser, 19 Ebrill, 1918
Violet Annie Davies
Roedd Violet yn deleffonydd 15 oed mewn ffatri arfau rhyfel, a enillodd MOBE am aros yn ei man gwaith yn ystod ffrwydrad