Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
M A Harries
Man geni: Abergwili ?
Gwasanaeth: Nyr, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd M A Harries yn un o dair nyrs o Gymru a wasanaethodd ar y llong ysbyty Britannic (chwaer long y Titanic). Y ddwy arall oedd Annie Handley a Nyrs Edwards. Goroesodd y tair pan drawodd ffrwydryn y llong yn y Môr Aegeaidd ar 21ain Tachwedd 1916 a suddo, gan golli 30 o fywydau o’r 1065 oedd ar fwrdd y llong. ‘Collodd ei holl eiddo’ yn y llongddrylliad.
Cyfeirnod: WaW0255
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymweliad Nyrs M A Harries â’i chartref. Carmarthen Journal 5ed Ionawr 1917.
Nurse Edwards
Man geni: Cynwyd
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd M A Harries yn un o dair nyrs o Gymru a wasanaethodd ar y llong ysbyty Britannic (chwaer long y Titanic). Y ddwy arall oedd Annie Handley a M A Harries. Goroesodd y tair pan drawodd ffrwydryn y llong yn y Môr Aegeaidd ar 21ain Tachwedd 1916 a suddo, gan golli 30 o fywydau o’r 1065 oedd ar fwrdd y llong. Wedi hynny bu’n nyrsio yn Ffrainc.
Cyfeirnod: WaW0256
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymweliad Nyrs Edwards â’i chartref, Yr Adsain 27ain Chwefror 1917.
Lily Maud Leaver
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Gweithwraig ffatri arfau rhyfel , Not known / anhysbys
Marwolaeth: 1917/12/28, TNT poisoning / Gwenwyni gan TNT
Nodiadau: Ni wyddys llawer am Lily Leaver a anwyd yn 1896. Trigai ei rhieni bryd wedyn yn Abertridwr, sir Forgannwg.
Cyfeirnod: WaW0325
Lily Maud Leaver
Casglwyd ffotograff Lily gan Is-bwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’r casgliad o luniau menywod fu farw yn ystod y rhyfel.
not known / anhysbys Knott
Man geni: Pont-y-pridd
Gwasanaeth: not known / anhysbys
Nodiadau: Does dim byd yn hysbys ar hyn o bryd am Nyrs Knott y gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd.
Cyfeirnod: WaW0140
Rhestr anrhydedd
Enw Nyrs Knott ar Restr Anrhydedd Eglwys St Matthew, Trallwng, Pontypridd. Trwy garedigrwydd Dr Gethin Matthews.
Catherine Anne Carroll (née Rees)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Marwolaeth: 1918/10/21, Abertawe, Gas gangrene / Madredd nwy
Nodiadau: Roedd Catherine yn fam i bedwar o blant ac yn gweithio yn gwneud arfau rhyfel yn Abertawe. Yn ôl ei hŵyr ‘syrthiodd o dram gan anafu ei choes ac o ganlyniad cafodd fadredd oherwydd yr amodau gwaith yn y ffatri arfau rhyfel. Bu farw ar 21.10.1918. Bu farw ei gŵr, y milwr William Carroll mewn Ysbyty yn yr Aifft ychydig dros fis yn ddiweddarach. Magwyd y plant gan eu mamau a’u tadau cu.
Diolch i Roger Latch.
Cyfeirnod: WaW0355
Catherine Carroll a'r teulu
Catherine Carroll gyda’i phlant, May, Ted, William a’r baban Betty, Hydref 1914. Diolch i Roger Latch
Llun papur newydd
Llun ac adroddiad am farwolaeth Preifat William Carroll. South Wales Weekly Post 23ain Tachwedd 1918.
Louisa James
Man geni: Merthyr Tudful ?
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, not known / anhysbys
Nodiadau: Tynnwyd llun o Louisa James yn ei gwisg yn weithwraig ffatri arfau.
Cyfeirnod: WaW0358
Louisa Jones
Man geni: Harlech
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Nodiadau: Anafwyd Louisa pan syrthiodd siel ar ei throed yn y ffatri arfau rhyfel lle gweithiai. Yn ôl y papur lleol roedd hi gartref yn Harlech oherwydd salwch.
Cyfeirnod: WaW0359
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn nodi absenoldeb oherwydd salwch Louisa Jones. Cambrian News and Merioneth Standard 18fed Mai 1917.
Elsie E Williams
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Nodiadau: Honnodd Elsie Williams i fforman ei cham-drin yn rhywiol ar dren yn yr un ffatri arfau, ac iddi feichiogi. Cytunodd Llys yn Abertawe mai ef oedd tad ei phlentyn.
Cyfeirnod: WaW0368
Adroddiad papur newydd
Adroddiad yn profi tadolaeth baban Elsie Williams. Herald of Wales 22 ain Rhagfyr 1917.
Kate Hopkins
Man geni: Ystradgynlais
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys, 1915 - 1918
Marwolaeth: 1918/10/26, Llundain, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Kate Hopkins yn athrawes addawol, wedi ei hyfforddi yn Stafford trwy ysgloriaeth gan Forgannwg. Dechreuodd nyrsio yn Llundain am Great Western Hospital yn 1915, a bu farw yno o’r ffliw Sbaenaidd yn 34 oed.
Cyfeirnod: WaW0406
Hannah Davies (Hughes)
Man geni: Brymbo
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys
Nodiadau: Roedd Hannah Davies yn nyrs wedi ei hyfforddi ac efallai iddi wasanaethu yn un o ysbytai milwrol Lerpwl neu Gaer. Pan oedd yno cwrddodd ac yn ddiweddarach priododd y Preifat Joseph Hughes, a ddeuai o ardal Brymbo. Diolch i Nikki Dutton.
Cyfeirnod: WaW0427