English

Profiadau Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18

Casgliad o wybodaeth, profiadau a ffotograffau a gofnodwyd gan Archif Menywod Cymru yn 2014-18


Chwilio
Chwilio uwch

Amodau a Thelerau

Gwefan Archif Menywod Cymru yw menywodarhyfel.cymru.

Mae menywodarhyfel.cymru a womenandwar.wales yn cael eu cynnal at eich defnydd personol. Trwy gyrchu a defnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y Telerau a’r Amodau hyn, sy’n dod i rym ar y dyddiad y defnyddiwch y wefan gyntaf.

Hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys hawlfraint) yn ein gwefan

Mae'r holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint, yn y wefan ac ym mhob deunydd a nodwedd a ddarperir gennym fel rhan o'r wefan, yn perthyn i Archif Menywod Cymru. Ni chaniateir i chi gopïo, atgynhyrchu, ailddosbarthu, lawrlwytho na defnyddio'r wefan nac unrhyw ran ohoni ac eithrio fel y caniateir yma. Cedwir pob hawl arall.

Defnyddio cynnwys y wefan

Cewch ddefnyddio’r cynnwys ar y wefan at ddibenion preifat, addysgol ac anfasnachol yn unig. Os ydych am ddefnyddio’r wefan, neu gynnwys a nodweddion y wefan, at unrhyw ddiben heblaw am ddefnydd personol, rhaid i chi gysylltu â ni i gael ein caniatâd yn gyntaf.

Cydnabod

Dylid cydnabod y wefan trwy gyfeirio ati fel: Archif Menywod Cymru: menywodarhyfel.cymru. Lle bo cyfeirnod penodol at ffynhonnell ar y wefan dylid defnyddio’r cyfeirnod hwnnw.

Polisi tynnu lawr

Os ydych yn ddeiliad hawliau ac yn poeni eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan, lle nad ydych wedi rhoi caniatâd i'w ddefnyddio, cysylltwch â ni drwy'r dudalen 'Cysylltwch â ni' yn datgan y canlynol:

1. Eich manylion cyswllt.
2. Disgrifiad o'r deunydd.
3. Y dudalen lle rydych wedi dod o hyd i’r deunydd.
4. Natur y gŵyn.
5. Datganiad mai chi yw'r perchennog hawliau neu eich bod wedi eich awdurdodi i weithredu ar ran y perchennog hawl. Efallai y gofynnir i chi ddarparu prawf o’r berchnogaeth hon a fyddai'n ddilys mewn llys barn.

Yna bydd y weithdrefn 'Hysbysiad Tynnu i Lawr' yn cael ei galw i rym fel a ganlyn:

1. Bydd Archif Menywod Cymru yn cydnabod derbyn eich cŵyn trwy e-bost neu lythyr a bydd yn gwneud asesiad cychwynnol o ddilysrwydd a hygrededd y gŵyn.
2. Bydd mynediad at y deunydd yn cael ei dynnu oddi ar y wefan hyd nes y ceir datrysiad y cytunwyd arno.

Caniatâd i ddefnyddio delweddau

Mae Archif Menywod Cymru wedi ymrwymo i barchu hawlfraint deallusol unigolion a sefydliadau.

Ffynhonnell delwedd: Daw’r delweddau o amrywiaeth o ffynonellau. Nodwyd yr hyn sy'n hysbys am hawlfraint pob delwedd ar y wefan.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch delwedd, cysylltwch â ni.

Os defnyddiwch ddelwedd dan hawlfraint Archif Menywod Cymru dylid cyfeirio ati fel a ganlyn:

Archif Menywod Cymru: menywodarhyfel.cymru. cyfeirnod penodol.

Administration