Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Elizabeth Davies
Man geni: Tywyn Bach
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1920:05:09, Ysbyty Llanelli , Accident: ruptured liver/Damwain, afu wedi ei rwygo
Nodiadau: Bu farw merch ifanc, Elizabeth Davies, o Sandfield House, Porth Tywyn yn Ysbyty Cyffredinol Llanelli ar ddydd Sul, wedi cael ei hanafu yn Ffatri Bowdwr Pen-bre. Roedd hi’n disgyn oddi ar drên y gwaith a oedd yn dal i symud, wrth iddo gyrraedd y Ffatri ddydd Gwener, pan lithrodd rhwng y troedfwrdd a’r platfform. Cafodd ei llusgo ychydig o ffordd a dioddefodd anafiadau mewnol difrifol. Llanelly and County Guardian 13eg Mai 1920
Cyfeirnod: WaW0089
Esther Devonald
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: TNT poisoning/Gwenwyno gan TNT
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums
Cyfeirnod: WaW0009
Adroddiad papur newydd i'r cwest
Adroddiad papur newydd am y cwest i farwolaeth Esther Devonald, gweithwraig mewn ffatri arfau
Lilian Dove
Man geni: Caerdydd c.1889
Gwasanaeth: Nyrs
Nodiadau: Roedd Lilian Dove yn ferch i gyn-weinidog Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Goroesodd suddo SS Osmanieh, pan fu Margaret Dorothy Roberts farw, ar 31ain Rhagfyr 1917. Yn ôl The Roath Road Roamer cafodd ei hachub ac nid oedd yn ymddangos ei bod fawr gwaeth wedi’r antur - yr oerfel, y sioc a’r ffrwydrad, heblaw ei bod wedi colli’i holl eiddo. Bu’n nyrsio yn Alexandria tan ddiwedd y Rhyfel. Gwybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0113
Hilda Jessie Downing
Man geni: Y Drenewydd
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, Y Drenewydd, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 29 oed. Gweithiai yn ysbyty filwrol Broadstairs, Caint
Cyfeirnod: WaW0010
Mary Evans
Man geni: Meidrim
Gwasanaeth: Nyrs, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-04, Ysbyty Milwrol Edmonton, , Influenza/Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Abergwili, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: 38 oed. Claddwyd yng nghladdfa Abergwili
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0012
Grace Evans (later Nott/Nott yn ddiweddarach)
Man geni: Cymtydu
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1930-11-16, Johannesberg, Achos anhysbys
Cofeb: Plac, St Tysilio, Cwmtydu, Ceredigion
Nodiadau: Bu farw yn ol y plac o ganlyniad i wasanaethu’r rhyfel yn Nwyrain Affrica yn ystod y Rhyfel Mawr 1914-1918.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0014
Mary Evans
Man geni: Trawsfynydd, 1890?
Gwasanaeth: Astudio Amaeth
Nodiadau: Roedd Mary Evans yn chwaer i’r bardd Hedd Wyn, Ellis Humphrey Evans. Roedd yn astudio yng Ngholeg Amaeth Madryn, ger Pwllheli. Mae’r llythyr hwn, a ysgrifennwyd yn Hydref 1917, yn gofyn am arian, yn trafod ei bywyd, ac yn mynegi hiraeth o golli’i diweddar frawd.
Cyfeirnod: WaW0097
Gertrude Fairclough
Man geni: Sir Gaerhirfryn , 1880
Gwasanaeth: Gwraig a Mam
Nodiadau: Roedd Gertrude Fairclough yn wraig i’r Uwchgapten Rowland Fairclough, Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a threuliodd ei bywyd priodasol yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Yn ôl traddodiad teuluol symudodd hi i westy yn syth wedi i’w gwr ymuno â’i gatrawd yn Ffrainc (er ei fod yn 48 oed yn 1914).
Cyfeirnod: WaW0076
Gertrude Fairclough tua 1915
Gertrude Fairclough née Appleby, gwraig yr Uwchgapten Rowland Fairclough, y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Constance Fane Roberts
Man geni: Llandre
Gwasanaeth: Army Remount Service: Gwasanaeth Ail-farchogaeth y Fyddin
Marwolaeth: 1917-10-09, Motor accident/Damwain car
Cofeb: Bedd, Llandre, Ceredigion
Nodiadau: 22 oed. Bu hi a ei dyweddi Capten Brereton Ockleston Rigby farw gyda'i gilydd
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0018
Jane Fisher
Man geni: Cydweli
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Nodiadau: Derbyniodd MOBE am ei dewrder yn helpu yn stopio tân mewn ffatri ffrwydron er bod ei bywyd hi ei hun mewn cryn berygl.
Ffynonellau: The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser;
Cyfeirnod: WaW0019
Adroddiad papur newydd
adroddiad am y cyflwyniad yn y Carmarthen Journal and South Wales Advertiser, 19 Ebrill, 1918