Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Violet Gale Jackson
Gwasanaeth: Gwyddonydd, botanegydd, Rothamsted Institute, 1917 -
Nodiadau: Graddiodd Violet Jackson o Goleg Prifysgol gogledd Cymru, Bangor yn 1917, yn yr un flwyddyn â Mary Sutherland a Mary Dilys Glynne [qv]. Fel Mary Glynne cafodd ei chyflogi yn Institiwt Rothamsted yn swydd Hertford, yn fotanegydd. Ymddengys mai ffurfiant gwreiddiau oedd ei harbenigedd.
Cyfeirnod: WaW0316
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am raddedigion Bangor gan gynnwys Violet Jackson, Mary Dilys Glynne a Mary Sutherland. North Wales Chronicle, 7fed Gorffennaf 1916.
Mary Dilys Glynne (born Glynne Jones)
Man geni: Bangor Uchaf
Gwasanaeth: Gwyddonydd, patholegydd planhigion, mynyddwraig, Rothamsted Institute, 1917 - 1960
Marwolaeth: 1991, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Mary yn 1895 a graddiodd o adran fotaneg Coleg Prifysgol gogledd Cymru, Bangor yn 1916 (yr un flwyddyn â Mary Sutherland qv a chydweithwriag yn Rothamsted Violet Gale Jackson qv). Ar ôl graddio ymunodd am gyfnod byr ag Adran Amaeth Bangor, ond yn 1917 symudodd i Adran Batholeg Planhigion Gorsaf Arbrofi Rothamsted yn Swydd Hertford. Yn 1917 roedd yn un o sylfaenwyr yr Adran Fycoleg yno, yn gweithio ar afiechydon cnydau. Parhaodd i weithio yn Rothamsted tan 1960. Roedd hi’n fynyddwraig adnabyddus a hi oedd un o’r menywod cyntaf i wneud nifer o bethau yn yr 1920au a’r 1930au
Ffynonellau: Oxford Dictionary of National Biography
Cyfeirnod: WaW0315
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am raddedigion Bangor gan gynnwys Mary Dilys Glynne, Violet Jackson a Mary Sutherland. North Wales Chronicle 7fed Gorffennaf 1916.
Jane M Jones
Man geni: Llandeiniol
Gwasanaeth: Metron, RRC
Cofeb: Plac i'r rhai fu yn gwasanaethu, Eglwys Sant Deiniol, Llandeiniol, Ceredigion
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/ceredigion-war-memorials; http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?showtopic=149755
Cyfeirnod: WaW0035
Margaret Elizabeth Foulkes (née Hughes)
Man geni: Sandycroft, Sir y Fflint
Gwasanaeth: Stiwardes, S S Lusitania, 1915
Marwolaeth: 1915/07/05, Drowning / Boddi
Cofeb: Cofeb Forol Fasnachol i’r rhai a gollwyd, Llundain
Nodiadau: Ganwyd Margaret Foulkes yng Nghymru a’i magu yn Lerpwl. Roedd yn weddw ac wedi gweithio ar y Lusitania cyn ei mordaith olaf; ymddengys bod stiwardesau yn cael eu cyflogi bob yn fordaith. Cafodd ei boddi pan drawyd y llong gan dorpido ar Fai 7fed 1915, roedd hi’n 42 oed. Ni chafwyd hyd i’w chorff.
Cyfeirnod: WaW0324
Gweneth Kate Moy Evans
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Clerc, Sandycroft, NEF Queensferry, 1916 - 1918
Nodiadau: Penodwyd Gweneth yn glerc yn y Ganolfan Waith ynghlwm wrth Ffatri Ffrwydron Genedlaethol, Y Fferi Isaf, heb sefyll arholiad arferol y Gwasanaeth Sifil. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn y Ganolfan Waith yng Nghastell-nedd. Gwobrwywyd hi â’r MBE ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0366
Edinburgh Gazette
Adroddiad am benodi Gweneth Moy Evans yn glerc, The Edinburgh Gazette, Medi 12, 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Gweneth Moy Evans â’r MBE. Amman Valley Chronicle 13eg Mehefin 1918.
Edinburgh Gazette
Cyhoeddiad am wobrwyo Gweneth Moy Evans â’r MBE. The Edinburgh Gazette Mehefin 19eg 1918.
Winifred May Price
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals
Nodiadau: Ymunodd Winifred (Ganwyd 1898) ag Ysbytai Menywod yr Alban yn nyrs yng Ngorffennaf 1915, yn 18 oed. Roedd yn cael ei galw yn ‘Kiddie’ am ei bod mor ifanc. Nyrsiodd yn Serbia, a bu’n ffodus i ddianc pan ymosododd yr Awstriaid.
Cyfeirnod: WaW0127
Evelyn Margaret Abbott
Man geni: Y Grysmwnt,Sir Fynwy
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, January - June 1916
Marwolaeth: 1958, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Evelyn yn 1883 yn ferch i ysgolfeistr y Grysmwnt. Roedd yn nyrs broffesiynol a hyfforddodd yn Llundain. Treuliodd 6 mis yn gweithio yn ysbyty Ysbytai’r Menywod Albanaidd yn L’abbaye de Royaumont i’r gogledd o Baris. Dilynwch y cyswllt i weld yr ysbyty ar ffilm.
Ffynonellau: http://movingimage.nls.uk/film/0035\r\nhttp://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0248
Helen Beveridge
Man geni: Y Fenni ?
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, November 1916 - September 1919
Nodiadau: Ganwyd Helen yn 1887 a gwirfoddolodd ar gyfer Ysbytai Menywod yr Alban yn Nhachwedd 1916. Gadawodd am Salonica ar unwaith. Arhosodd yn Serbia hyd nes iddi gael ei hanfon adre yn glaf yn haf 1919. Enillodd fedal y Groes Goch Serbaidd Frenhinol am ei gwaith yno.
Cyfeirnod: WaW0274
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Caption [Cy] Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Helen Beveridge (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rodd o oriawr i Helen Beveridge yn Eglwys y Bedyddwyr Stryd Frogmore, Abergavenny Chronicle 24ain Tachwedd 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddychweliad Helen o Serbia. Abergavenny Chronicle 26ain Medi 1919
Mary Elizabeth Phillips (Eppynt)
Man geni: Merthyr Cynog, Aberhonddu
Gwasanaeth: Meddyg, Scottish Womens Hospitals, Royal Army Medical Corp, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1956, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Mary Phillips yn 1874 a mabwysiadodd yr enw ‘Eppynt’ o’r mynyddoedd ger man ei geni. Hi oedd y fenyw gyntaf i hyfforddi’n feddyg yng Ngholeg Prifysgol, Caerdydd (1894 – 8), ac yn dilyn hynny bu’n gweithio yn Lloegr. Cefnogai’r NUWSS, ac weithiau siaradai yn eu cyfarfodydd. Ar 8fed Rhagfyr 1914 derbyniodd delegram oddi wrth y Scottish Women’s Hospitals a gefnogid gan yr NUWSS yn gofyn iddi fynd i’w hysbyty yn Calais ar unwaith. Bu yno tan Ebrill 1915, cyn ymuno â’r SWH yn Valjevo, Serbia. Anfonwyd hi gartref yn sal yn union cyn i lawer o aelodau’r SWH gael eu cipio gan fyddin Awstria/Bwlgaria [gweler Elizabeth Clement, Gwenllian Morris]. Ym mis Ebrill 1916 cafodd ei phenodi yn swyddog meddygol Ysbyty Menywod yr Alban yn Ajaccio, Corsica, lle roedd llawer o’r ffoaduriaid o’r lloches o Serbia yn lletya. Gwasanaethodd yno am 14 mis, cyn dychwelyd a theithio trwy Loegr a Chymru Ar ôl gwella penodwyd hi’n Brif Swyddog Meddygol yr SWH yn Corsica. Dychwelodd i deithio Cymru yn codi arian i’r Ysbytai yn Serbia. Roedd yn siaradwraig nodedig yn Gymraeg a Saesneg. Yn 1918 aeth i Lundain i weithio yn Ysbyty Milwrol Stryd Endell, ysbyty 573-gwely a gâi ei redeg gan fenywod yn unig, llawer ohonynt yn swffragetiaid. Ar ôl y Rhyfel bu’n Ddirprwy Swyddog Meddygol Iechyd ym Merthyr Tudful.
Cyfeirnod: WaW0362
Dr Mary Eppynt Phillips
Dr Mary Eppynt Phillips yng ngwisg swyddogol Corfflu Meddygol y Fyddin Frenhinol. Tynnwyd y llun yn 1920. Imperial War Museum.
Telegram
Telegram yn gofyn i Dr Phillips fynd i Calais, 8fed Medi 1914. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar waith Dr Phillips yn ystod y Rhyfel. Brecon County Times 19eg Gorffennaf 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddyfarnu arwyddlun urdd St Java [sef Sava mewn gwirionedd] gan Frenin Serbia. Brecon and Radnor Express 22ain Awst 1918.
Hylda Salathiel
Man geni: Pencoed
Gwasanaeth: Nyrs, chwaraewraig hoci, South Wales Nursing Association
Marwolaeth: 1918/11/06, Caerdydd, Influenza / Ffliw
Nodiadau: Roedd Hylda Salathiel, yn un o saith chwaer ac addysgwyd hi yn Ysgol Uwchradd Penybont ar Ogwr. Hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol Merthyr. Am gyfnod bu’n chwaraewraig hoci ryngwladol, gan chwarae i dimau Menywod Penybont a De Cymru. Bu’n nyrsio yn Bournemouth am gyfnod, ond dychwelodd i dde Cymru, lle daliodd y ffliw a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Gwellodd y claf ac anfonodd flodau i angladd Hylda.
Cyfeirnod: WaW0301
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gêm hoci ryngwladol rhwng Menywod de Cymru a Mynwy a Menywod Munster. Glamorgan Gazette 12fed Chwefror 1909