Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Margaret Jane Evans
Man geni: Treforis, Abetawe ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Cofeb: Capel Soar, Treforis, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Bu Margaret Evans yn nyrsio yn 3ydd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin, Caerdydd. Gwelir ei henw ar Restr Anrhydedd Capel Soar, Trefforest.
Cyfeirnod: WaW0170
Edith Moore-Gwyn (née Jepson)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Penswyddog, VAD, 1914 - 1919
Nodiadau: Ganed Edith Moore-Gwyn yn 1852. Bu hi’n Llywydd neu’n Gadeirydd nifer o gyrff cyhoeddus yn ac o gwmpas Castell Nedd. Iechyd ac addysg oedd ei diddordebau, a sefydlodd hi Ysbyty Atodol y Groes Goch, Laurels yng Nghastell Nedd. Derbyniodd yr OBE ar ddiwedd y Rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0178
Mary Eleanor Gwynne Holford (Gordon-Canning)
Man geni: Swydd Gaerloyw
Gwasanaeth: Noddwraig , VAD
Nodiadau: Ganwyd Myr Gwynne Holford yn 1965 a bu’n gyfrifol am sefydlu Ysbyty’r Frenhines Mary yn Roehampton, ysbyty arbenigol ar gyfer milwyr a morwyr a oedd wedi colli aelodau yn y rhyfel. Digwyddodd hyn yn dilyn ymweliad ag ysbyty filwrol. Dwedodd “Fe weithiaf tuag at un nod, sef i sefydlu ysbyty lle gall pob un a gafodd yr anlwc i golli aelod yn y rhyfel ofnadwy hwn, gael ei ffitio â’r aelodau artiffisial perffeithiaf y gall gwyddoniaeth ddynol eu dyfeisio.” Galluogodd ei chysylltiadau cymdeithasol hi i ennill nawdd y Frenhines Mary. Roedd yn byw yn Neuadd Buckland, ger Aberhonddu, a bu farw yn 1947.
Ffynonellau: http://blog.maryevans.com/2013/09/
Cyfeirnod: WaW0188
Eleanor Vachell
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Botanegydd , Gwirfoddolwraig, VAD
Nodiadau: Ganwyd Eleanor yn 1879, yn ferch i feddyg. Daeth yn fotanegydd nodedig, a chymerodd gyfrifoldeb am Adran Fotaneg a Llysieufa Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn Hydref 1914 pan ymunodd y Ceidwad â’i gatrawd. Bu’n gwrifoddoli hefyd yn 3edd Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin, Caerdydd. Yn 1918 daeth yn VAD, gan rannu ei hamser yn ofalus iawn rhwng yr ysbyty a’r Amgueddfa. Bu farw Eleanor Vachell yn 1948.
Cyfeirnod: WaW0200
Dorothea Margaret Seagrave Pryse-Rice (Evans)
Man geni: Llundain, 1894
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 – 1919?
Marwolaeth: 1921/12/5, Cricket St Thomas, Dyfnaint, Influenza / Yffliw
Cofeb: Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: Roedd Dorothea a’i chwaer Nest yn ferched i Margaret Pryse-Rice, Llywydd y Groes Goch yn Sir Gaerfyrddin. Nid yw cerdyn cofnod Dorothea wedi goroesi, ond mae’n debyg iddi wasanaethu yn VAD am y rhan fwyaf o’r rhyfel. Priododd arwr rhyfel, y Brigadydd-Gadfridog Lewis Pugh Evans VC, yn Hydref 1918, cafodd fab yn 1920, a bu farw o’r ffliw yn 1921, yn 27 mlwydd oed.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/llandovery-carmarthenshire-red-cross-memorial/
Cyfeirnod: WaW0203
Newspaper report
Adroddiad am briodas Dorothea Pryse-Rice a Lewis Pugh Evans yn Llundain, Hydref 1918
Carine Evelyn Nest Pryse-Rice
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 – 1919
Marwolaeth: 1921, Ffordun, Sir Drefaldwyn , Not known / Anhysbys
Cofeb: Eglwys Sant Dingad, Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: Roedd Nest a’I chwaer Dorothea yn ferched i Margaret Pryse-Rice, Llywydd y Groes Goch yn sir Gaerfyrddin. Gwasanaethodd gydol y rhyfel, yn bennaf yn Ysbyty Atodol Llanymddyfri ond yn 1918-1919 yn Ysbyty Nannau ar gyfer Swyddogion, Dolgellau. Bu farw yn 25 mlwydd oed.
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/llandovery-carmarthenshire-red-cross-memorial/
Cyfeirnod: WaW0204
Flossie Hamer Lewis
Man geni: Llanelwy
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1917/03/22, Llanelwy, ‘strain and overwork’ / ’straen a gorweithio’
Nodiadau: Gweithiodd Flossie Hamer Lewis yn Ysbyty’r Groes Goch, y Rhyl, o’i agoriad. Roedd ei thad yn Llanelwty arolygwr ysgolion yr esbobaeth
Cyfeirnod: WaW0207
Flossie Hamer Lewis
Llun o Flossie Hames Lewis, rhan o’r casgliad ‘Deaths: Nurses Deaths 1919-1920’ yn yr Imperial War Museum
Llythyr
Llythyr oddi wrth dad Flossie, y Parch. J Hamer Lewis at ysgrifennydd Casgliad Menywod, Imperial War Museum, Mehefin 29ain, 1918
Llythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth dad Flossie, y Parch. J Hamer Lewis ar ysgrifennydd Casgliad Menywod, Imperial War Museum, Mehefin 29ain, 1918 (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Flossie Hamer Lewis, Denbighshire Free Press 31ain Mawrth 1917
Adroddiad papur newydd
Gwobr am nyrsio i Flossie Hamer Lewis, Denbighshire Free Press 16eg Mawrth 1918
Ryda Rees
Man geni: Cei Newydd, Ceredigion
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Marwolaeth: 1919/11/16, illness / salwych
Nodiadau: Roedd Ryda yn 29 oed pan fu farw. Bu’n gwasanaethu yn 3edd Ysbyty Gorllewinol, Caerdydd ‘nes i’w hiechyd ddirywio’.
Cyfeirnod: WaW0206
Ryda Rees
Casglwyd llun Ryda gan Isbwyllgor Menywod yr Imperial War Museum yn rhan o’i chasgliad o fenywod a fu farw yn ystod y rhyfel.
Gladys Maud Jones
Man geni: Cambridge
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1917/08/21, Salonica, Malaria
Nodiadau: Ymddengys enw Gladys Maud Jones yn Llyfr Cofio cenedlaethol Cymru, a’i llun yng nghasgliad yr Imperial War Museum. Yn anffodus, er gwaetha’i henw, nid ymddengys fod ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru. Deuai ei dau riant o swydd Lincoln.
Ffynonellau: http://freepages.genealogy.rootsweb.ancestry.com/~macculloch/p79.htm#i4559
Cyfeirnod: WaW0213
Gwynedd Violet Llewellyn
Man geni: Bewdley, swydd Gaerwrangon
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1918/11/03, Rouen, Ffrainc, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Ymddengys enw Gwynedd Violet Llewellyn yn Llyfr Cofio cenedlaethol Cymru. Yn anffodus, er gwaetha’i henw, nid ymddengys fod ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru. Roedd ei chysylltiadau teuluol â siroedd Caerwrangon a Gwlad yr Haf.
Cyfeirnod: WaW0214