Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Edith Mary Tonkin
Man geni: Sandford, Dyfnaint
Gwasanaeth: Morwyn ward. , VAD, 1917/11/06 – 1918/10/13
Marwolaeth: 1918-10-13, 3ydd Ysbyty Cyffredinol Le Treport, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llandaf, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Edith ar fferm yn swydd Dyfnaint yn 1892. Symudodd i Gaerdydd pan etifeddodd ei thad dafarn gan ei ewythr. Gweithiodd yn forwyn ward yn 3ydd Ysbyty Cyffredinol Tréport, Ffrainc, lle bu farw yn 26 oed. Gwelir ei henw ar gofeb Llandaf gyda’i brawd iau William John (Jack) fu farw ym mrwydr Loos yn 1915.
Cyfeirnod: WaW0061
Carreg fedd
Carreg fedd yn coffáu Edith Mary Tonkin, Claddfa Filwrol Mount Huon, Normandi. Trwy garedigrwydd Peter Bennett Dewberry, swydd Efrog.
Teulu Tonkin
Darlun o’r teulu Tonkin ar fferm y teulu yn Nyfnaint c. 1910. Trwy garedigrwydd Maureen Roberts, Gorllewin Awstraliarn
Ella Richards
Man geni: Llanbedr Pont Steffan
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Marwolaeth: 1918-10-14, Salonica, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion
Nodiadau: 31 oed. Claddwyd yng nghladdfa Brydeinig Mikra, Salonica
Ffynonellau: Cambrian News and Merionethshire/Meirionnydd Standard 9 May/Mai 1919
Cyfeirnod: WaW0050
Adroddiad papur newydd
Sôn am Ella Richards mewn adroddiadau yn y Cambrian News a’r Merionethshire Standard 18 Gorffennaf 1919
Caroline Jackson Davies
Man geni: Llanymddyfri
Gwasanaeth: Prif arweinydd adrannol Cogyddes, WRNS, 22/05/1918
Marwolaeth: 1918-10-26, Caerfyrddin, illness/salwch
Nodiadau: 22 oed. Claddwyd yn Llandingad
Ffynonellau: http://www.wwwmp.co.uk/carmarthenshire-war-memorials/
Cyfeirnod: WaW0005
Lucy Jane Saint,
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Gweinyddes, QMAAC
Marwolaeth: 1918-10-27, Royal Victoria Hospital Boscombe, Hampshire, Pneumonia / Niwmonia
Cofeb: Giatiau Coffa Rhyfel; Bedd Sant Mihangel, Pont-y-pŵl, Sir Fynwy
Nodiadau: 23 oed. Claddwyd ym mynwent Llanfihangel Pont-y-moel, Pont-y-pŵl
Ffynonellau: http://www.findagrave.com/cgi-bin/fg.cgi?page=gr&GSob=c&GSsr=1&GScid=2532175&GRid=122596316&df=p&; http://www.southwalesargus.co.uk/news/11559566.Female_war_casualty_from_Pont-y-p?l/Pontypool/Pont-y-p?l/Pont-y-p?l_to_be_commemorated/
Cyfeirnod: WaW0055
Amy Laura Whitcombe
Man geni: Hengoed
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-11-03, S C Convalescent Hospital, Plymouth, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Ystrad Mynach a Hengoed, Morgannwg
Nodiadau: 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0063
Margaret Evans Thomas
Man geni: Pwllheli
Gwasanaeth: Nyrs staff, TFNS, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-11-08, Ysbyty Cyffredinol 1af Llundain, Pneumonia
Cofeb: Cofeb Ryfel, Cofeb i’r Nyrsys, Ysbyty St Bartholomew's , Pwllheli; Llanelwy, Caernarfon, Sir y Fflint, Llundain
Nodiadau: Roedd Margaret o deulu Cymraeg ei iaith a magwyd hi ym Mhwllheli o pan oedd hi’n 9 oed gan ei modryb a’i hewyrth. Mae’n debygol iddi hyfforddi’n nyrs yn Llundain, efallai yn Ysbyty St Bartholomew a ddaeth yn Ysbyty Gyffredinol gyntaf Llundain. Yn ystod y Rhyfel gwasanaethodd yn Nyrs Staff nes iddi farw o’r ffliw yn 28 oed. Disgrifiwyd hi fel person llawen a pharod. Talodd y Swyddfa Ryfel gostau ei hangladd o £20 2s 0d. Ar ei charreg fedd ym mynwent Pwllheli gwelir y plac coffa (a elwid yn ‘dead man’s penny’) a anfonwyd at ei pherthnasau ar ôl y rhyfel. Gwelir ei henw hefyd ar Gofeb y Nyrsys yng nghadeirlan Llanelwy. Diolch i Wayne Bywater.
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/st-asaph-memorial/st-asaph-cathedral-welsh-nurses-ww1/thomas-margaret-evans WO-399-14971
Cyfeirnod: WaW0017
Llythyr
Llythyr oddi wrth Miss Sidney Brown at Agnes Conway o Adran Fenywod yr Imperial War Museum yn rhestri enw Margaret a’i bod wedi marw o niwmonia.
Bedd Margaret Evans Thomas
Bedd Margaret Evans Thomas ym mynwent Pwllheli yn dangos ei ‘dead man’s penny’. Diolch i Veronica Ruth
Llythyr
Llythyr oddi wrth fodryb Margaret, Mrs Summers yn egluro’r enwau gwahanol ar ei thaliadau angladd.
Llythyr
Llythyr oddi wrth fab-yng-nghyfraith Mrs Summers yn egluro’r enwau gwahanol am daliadau angladd Margaret.
Edith E Copham
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918
Cyfeirnod: WaW0002
Mary Fitzmaurice
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre , Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 36 oed. Mam i chwech o blant. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad ag Edith Copham a Jane Jenkins; rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914
Cyfeirnod: WaW0020
Jane Jenkins
Man geni: Glandŵr
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre , Explosion / Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Oed 21. Lladdwyd yn yr un ffrwydrad ag Edith Copham a Mary Fitzmaurice.
Ffynonellau: Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914
Cyfeirnod: WaW0030
Emma Grace (Gracie) Fletcher
Man geni: Rhydaman
Gwasanaeth: Nyrs
Marwolaeth: 1918-11-19, Ysbyty Milwrol Brenhinol Pont y pŵl, Influenza/Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin
Nodiadau: 26 oed, bedd yng nghladdfa Abergele
Ffynonellau: http://www.terrynorm.ic24.net/photo%20ammanford%20park%20gates.htm
Cyfeirnod: WaW0021