Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl cofeb
Edith Frances Barker
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: VAD, February/Chwefror 1915 – Apr
Marwolaeth: 1918/04/03, St Omer, Ffrainc, Illness / Salwch
Cofeb: Eglwys Sant Collen, Llangollen, Sir Ddinbych
Nodiadau: Ganed hi yn 1869, yn ferch i fragwr o Lerpwl. Trigai Edith gyda’i dau frawd yn Neuadd Pen-y-Bryn, Llangollen am sawl blwyddyn o 1901 ymlaen. Bu’n nyrsio ym Malta a Ffrainc lle bu farw yn 49 mlwydd oed. Cafodd ei chladdu ym Mynwent Goffa Longueness (St Omer) a gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Llangollen.
Ffynonellau: https://grangehill1922.wordpress.com/2013/11/19/edith-frances-barker/
Cyfeirnod: WaW0174
Dogfen Beddau’r Imperial War
Dogfen yn rhoi cyfarwyddiadau am arysgrifau ar gerrig beddau ym mynwent Goffa Longueness. Nodir arni bod Edith yn 49oed.
Hilda Jessie Downing
Man geni: Y Drenewydd
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918-10-10, Y Drenewydd, Influenza / Y Ffliw
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 29 oed. Gweithiai yn ysbyty filwrol Broadstairs, Caint
Cyfeirnod: WaW0010
Janet Elizabeth Evans
Man geni: Y Drenewydd
Gwasanaeth: Clerc, QMAAC
Marwolaeth: May 1919, not known / anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn
Cyfeirnod: WaW0016
Lizzie Dora Stephens
Man geni: Y Trallwng
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-04-24, Achos anhysbys
Cofeb: Cofeb Ryfel, Y Trallwng, Sir Drefaldwyn
Nodiadau: 23 oed. Claddwyd yng Nghladdfa Filwrol Aldershot
Ffynonellau: http://tanyabirnie.blogspot.it/2014/09/worker-m-f-brown.html
Cyfeirnod: WaW0058
Ethel Annie Llewelyn
Man geni: Y Cendi
Gwasanaeth: Nyrs, 1914 - 1918
Marwolaeth: 13/04/1921, Sanatoriwm Coffa Cenedlaethol Cymreig Llangwyfan , Tuberculosis/Twbercwlosis
Cofeb: Y Cendi, Sir Frycheiniog
Nodiadau: Ganwyd Ethel yn 1895 ac roedd yn ferch i Ficer Cendl. Gweithiai yn yr Ysbyty Cymreig, Netley, Southampton. Efallai mai yno y daliodd y ddarfodedigaeth. Claddwyd hi ym mynwent Llangwyfan.
Ffynonellau: http://firstworldwar.gwentheritage.org.uk/content/catalogue_item/ethel-annie-llewelyn-memorial-plaque
Cyfeirnod: WaW0161
Daphne Elizabeth Powell
Man geni: Talgarth ?
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, Novermber 1917 - April 1919 /
Marwolaeth: 1919/04/11, The Old Vicarage Talgarth , brief illness / salwch byr
Cofeb: Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth, Sir Frycheinog
Nodiadau: Gwasanaethodd Daphne Powell gyda’r WAAC/QMAAC yn Swanage, lle bu’n ‘weithwraig effeithlon iawn’. Roedd yn 21 mlwydd oed pan fu farw, o’r ffliw Sbaenaidd, mae’n bosib.
Cyfeirnod: WaW0194
Bedd Daphne Powell
Bedd Daphne Powell, Eglwys y Santes Gwendoline, Talgarth. Mae ei bedd hi ar y dde; ac un ei brawd Charles Baden Powell, fu farw yn 1921, ar y chwith.
Cofrestr feddau y Santes Gwendoline
Y gofrestr feddau yn dangos cofnodion ar gyfer Daphne Powell a’i brawd Charles. Yn wreiddiol twmpathau o borfa oedd y ddau fedd: codwyd y cerrig beddau yn ddiweddar gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
Margaret Davies
Man geni: Pontymister ?
Gwasanaeth: Cogyddes, QMAAC
Marwolaeth: 1919/02/18, Anhysbys, Not known / Anhysbys
Cofeb: Clafa Hen Rhisga, Rhisga, Sir Fynwy
Nodiadau: Nid oes fawr ddim yn hysbys am Madge Davies a oedd yn gogyddes yn y QMAAC.
Cyfeirnod: WaW0350
Gertrude Winifred Allan Dyer
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, QMAAC
Marwolaeth: 1918-01-27, Achos anhysbys
Cofeb: Bedd yng Nghladdfa Christchurch, Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: 38 oed. Ar ei bedd dywedir i’r garreg gael ei chodi gan ei theulu a ‘Newport Women’s Liberal Association of which she was the secretary for 18 years’. Mae Comisiwn Rhyfel y Gymanwlad wedi gosod plac ar ei bedd hefyd. Ceir ei henw yn ogystal ar lyfr Rhestr Anrhydedd y Rhyfel Byd Cyntaf a gedwir yn Llyfrgell Gyfeirio Casnewydd.
Cyfeirnod: WaW0103
Beatrice Olivette (Olive) White
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Telegraffydd signalau , WAAC, November 1917 - August 1918 /
Marwolaeth: 1918-11-29, Casnewydd, Pneumonia following influenza / Niwmonia yn dilyn y ffliw
Cofeb: Eglwys Fethodistaidd St Julian, Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: Ganwyd Olive yn 1886 ac ymunodd â’r Swyddfa Bost yng Nghasnewydd yn ddysgwraig yn 1903. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Totnes a Phont-y-pŵl. Yn Nhachwedd 1917 ymunodd â’r WAAC yn delegraffydd – signalau, a gyrrwyd hi i Abbeville yng ngogledd Ffrainc ac oddi yno i Calais. Pan oedd gartref ar ymweliad ym mis Mai 1918 cafodd ei tharo’n wael,a chafodd ei dadfyddino o’r WAAC ym mis Awst. Er iddi ddychwelyd i wneud gwaith sifiliad, bu farw o gymlethdodau’r ffliw Sbaenaidd. Gwelir ei henw ar y plac coffa yn Eglwys Fethodistaidd St Julian, Casnewydd ac mae wedi ei chladdu yng nghladdfa Christchurch.
Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered, Daughters of Newport in the Great War. Saron publishers 2018
Cyfeirnod: WaW0107
Florence Valentine Johnstone
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1918/02/05, explosion / ffrwydrad
Cofeb: Mynwent Sant Gwynllwg, Casnewydd, Sir Fynwy
Nodiadau: Ganwyd Florence Johnstone yn 1893 yn fuan wedi i’w rhieni symud o’r Alban i Gasnewydd. Yn 1916 symudodd i Coventry i weithio yn un o’r ffatrïoedd gwneud arfau rhyfel yno. Yn Ionawr 1918 cafodd ei dyrchafu yn oruchwylwraig, ond ar 5ed Chwefror chwythodd ffiws yn ei llaw a bu farw. Daethpwyd â’i chorff yn ôl i’w gladdu yng Nghasnewydd, lle darganfuwyd ei charreg fedd yn ddiweddar yn Mynwent Sant Gwynllwg . Diolch i Pete Strong a Sylvia Mason
Cyfeirnod: WaW0375
Carreg fedd
Carreg fedd a ddarganfuwyd yn ddiweddar yn cynnwys enw Florence Johnstone a laddwyd wrth wasanaethu yn y rhyfel.