Nodiadau: Roedd Pollie yn un o chwiorydd iau Katie (Catherine) Evans VAD [qv] a fu farw ar 16eg Hydref 1914. Ymunodd Pollie â’r VAD ddiwrnod wedi angladd ei chwaer. Yn Awst 1918 priododd Hugh Williams
Cyfeirnod: WaW0259
cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn Croes Goch Pollie Williams gynt Evans
Lythyr
Llythyr oddi wrth Pollie Evans at Agnes Conway o’r Is-bwyllgor Gwaith Menywod am ddarlun Katie. rn
Gwenllian Morris
Man geni: Aberystwyth ?
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1918
Nodiadau: Roedd Gwenllian Morris yn nyrs ardal yn Nhreffynnon, yna yn Aberystwyth. Cafodd ei hanfon i ysbyty milwrol yn San Malo gyda’r Groes Goch Brydeinig yn Hydref 1914. Daliodd ddifftheria yno, ond gwellodd a gwirfoddolodd i ymuno ag Ysbyty Cronfa Gymorth Serbia yn 1915. Gweithiodd ei huned ym Malta a’r Dardanelles cyn cyrraedd Serbia. Cawsant eu cipio’n ystod gaeaf 1915/16 gan y fyddin Fwlgaraidd / Awstraidd, ond parhaodd i weithio yn bennaf gyda chleifion teifws. Ni wyddys pryd y dychwelodd i Brydain, ond derbyniodd ei medalau rhyfel yn 1921 (ar y cerdyn disgrifir hi yn Chwaer gydag Ail Uned Ffermwyr Prydain – dirgelwch*) *Mae’r dirgelwch am y British Farmers Unit wedi ei ddatrys gan Nigel Callaghan, diolch yn fawr iddo. ‘Rwyf wedi rhyw fath o egluro’r sylw yng nghofnod Gwenllian Morris sy’n cyfeirio ati fel British Farmers Unit. Roedd yr uned yn bodoli mewn gwirionedd. Roedd o leiaf ddwy ohonynt, a ariennid gan arian a godwyd gan ffermwyr (British Farmers Red Cross Fund) ac roeddent yn Serbia yn 1915.’
Cyfeirnod: WaW0258
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Gwenllian Morris
Adroddiad papur newydd
Erthygl am waith Gwenllian Morris yn Ffrainc. Flintshire Observer 19 Tachwedd 1914
Adroddiad papur newydd
Erthygl am waith Gwenllian Morris gyda Chronfa Gymorth Serbia. Flintshire Observer 19eg Awst 1915
Adroddiad papur newydd a llun
Adroddiad darluniadol am amser Gwenllian Morris yn Serbia gan gynnwys ei charchariad. Cambrian News 11eg Chwefror 1916
Cerdyn medal
Cerdyn medal Gwenllian Morris lle nodir mai Ail Uned Ffermwyr Prydain oedd ei huned.
Lilly Huntley
Man geni: Bradford
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1918
Nodiadau: Ganwyd Lilly Huntley yn Bradford a hyfforddodd yn Llundain. Roedd wedi bod yn gweithio yn Arolygwr i’r Swyddog Meddygol yn Adran Iechyd Caerdydd. Ymunodd â’r Groes Goch ar 1af Medi 1914 a chafodd ei hanfon i Gastell-nedd, yn nyrs staff i ddechrau ac yna’n chwaer. Enillodd Y Groes Goch Frenhinol. Ar ôl y Rhyfel daeth yn Bennaeth y gwasanaethau Bydwreigiaeth yng Nghaerdydd. Gwelir ei henw ar y Rhestr Anrhydedd yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.
Cyfeirnod: WaW0263
Lilly Huntley
Y Chwaer Lilly Huntley, TFNS. Trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg
Rhestr Anrhydedd, Neuadd y Ddinas Caerdydd
Enw Lilly Huntley ar Restr Anrhydedd Neuadd y Ddinas Caerdydd
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyno’r Groes Goch Frenhinol i’r Chwaer Lilly Huntley, Herald of Wales and Monmouthshire Recorder 14eg Hydref 1916.
Aldwyth Katrin Williams
Man geni: Llanbedr-y-Cennin
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1914 - 1918
Marwolaeth: 1918/11/08, Influenza / Ffliw
Cofeb: Gladdfa St Tudno, Llandudno, Sir Gaernarfon
Nodiadau: Unig ferch rheithor Llanbedr-y-Cennin oedd Aldwyth. Ymunodd â’r VAD yn gynnar yn ystod y rhyfel, a gweithiodd dri niwrnod yr wythnos yn ysbytai’r Groes Goch yn Llandudno, yn coginio a glanhau yn ogystal â nyrsio. 26 mlwydd oed oedd hi pan fu farw.
Bedd Aldwyth Katrin Williams, Eglwys Sant Tudno, Y Gogarth, Llandudno. Llun trwy garedigrwydd Laurence Manton
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am angladd Aldwyth Katrin Williams, Y Clorianydd 27 Tachwedd 1918. Argraffwyd adroddiadau cyffelyb yn Y Cymro a Y Dydd. rn
Elizabeth Thirza Gorvin
Man geni: Caerdydd ?
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, 1915 - 1919
Nodiadau: Gweithiai Thirza Gorvin yn wirfoddolwraig ddi-dal mewn Ysbytai yng Nghaerdydd a Sir Fynwy. Cafwyd y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg
Cyfeirnod: WaW0266
Thirza Gorvin
Darlun wedi ei arwyddo o Thirza Gorvin yng ngwisg VAD. Trwy garedigrwydd Archifau Morgannwgrn
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Thirza Gorvin
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Thirza Gorvin (cefn)rn
Katherine Conway-Jones
Man geni: Bangor
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1917
Marwolaeth: After / Ar ôl 1947, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Katherine Conway-Jones tua 1880 a hyfforddodd yn Leicester Infirmary a ailenwyd yn 1914 yn 5th Northern General Hospital (ac a newidiwyd yn ôl wedyn). Yn 1915 gwirfoddolodd i weithio tramor, gan wasanaethu’n gyntaf yn Ffrainc ac wedyn ar longau ysbyty yn gwasanaethu’r Dardanelles, yr Aifft, Mesopotamia a German East Africa. Penodwyd hi’n fetron ar HMHS Oxfordshire yn Ebrill 1916. Yn haf 1917 dwedwyd nad oedd yn addas i weithio yn y trofannau bellach, ond yn addas i wasanaethu yn yr Aifft, a dychwelodd i’r DU ar Maheno, llong ysbyty Seland Newydd, lle gwasanaethodd unwaith eto yn Fetron. Treuliodd weddill ei hamser yng Nghaerlŷr. Soniwyd amdani mewn adroddiadau deirgawith, ac enillodd y Groes Goch Frenhinol ail ddosbarth yn 1916 an ei gwaith yn y Dardanelles, a dosbarth cyntaf yn 1917 am ei dewrder pan ymosodwyd ar SS Tyndareus oddi ar Dde’r Affrig. Gwerthwyd ei medalau am £2,800 yn 2015. rnAr ôl gadael y TFNS yn 1919 ymfudodd i Ganada i sefydlu tyddyn ar Ynys Lulu, Vancouver, gyda Julia Hamilton, nyrs o Ganada a gwrddodd yn Salonica. rnCeir ffeil drwchus o bapurau swyddogol Katherine yn yr Archifau Cenedlaethol.
Ffynonellau: National Archives WO 399_10526
Cyfeirnod: WaW0273
HMHS Oxfordshire
Roedd Katherine yn fetron ar y llong hon, yn teithio drwy Gamlas Suez i India ac yn ôl i Dde a Dwyrain Affrica.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Katherine Conway-Jones â’r Groes Goch Frenhinol, Y Dydd 22ain Mehefin 1917
Lythyr
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947.
Lythyr (cefn)
Llythyr oddi wrth K C-J yn ceisio hawlio’n ôl -weithredol Lwfans Mesopotamia yr oedd gan nyrsys a fu’n gweithio i’r dwyrain o’r Suez hawl iddo. Gwrthodwyd hi, ond ymgeisiodd eto yn 1947. (cefn)
Phyllis Marguerite Evans
Man geni: Llanelli
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, January 1915 - February 1919 /
Nodiadau: Gweithiodd Phyllis yn gyntaf yn gynorthwywraig ac yna’n nyrs yn Ysbyty’r Groes Goch Parc Howard, Llanelli. Enillodd y Groes Goch Frenhinol yn Chwefror 1918.
Cyfeirnod: WaW0271
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cofnod y Groes Goch ar gyfer Phyllis Evans
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cofnod y Groes Goch ar gyfer Phyllis Evans (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Phyllis Evans â’r Groes Goch Frenhinol. Llanelly Star 23ain Chwefror 1918.
Mary Andrews
Man geni: Llansawel
Gwasanaeth: Nyrs, VAD ?
Nodiadau: Enillodd Mary Andrews y Groes Goch Frenhinol ym Mai 1919. Gwasanaethodd yn Ysbyty Milwrol Croesoswallt.
Cyfeirnod: WaW0272
Helen Beveridge
Man geni: Y Fenni ?
Gwasanaeth: Nyrs, Scottish Womens Hospitals, November 1916 - September 1919
Nodiadau: Ganwyd Helen yn 1887 a gwirfoddolodd ar gyfer Ysbytai Menywod yr Alban yn Nhachwedd 1916. Gadawodd am Salonica ar unwaith. Arhosodd yn Serbia hyd nes iddi gael ei hanfon adre yn glaf yn haf 1919. Enillodd fedal y Groes Goch Serbaidd Frenhinol am ei gwaith yno.
Cyfeirnod: WaW0274
Cerdyn cofnod y Groes Goch
Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Helen Beveridge.
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Caption [Cy] Cerdyn cofnod y Groes Goch ar gyfer Helen Beveridge (cefn)
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rodd o oriawr i Helen Beveridge yn Eglwys y Bedyddwyr Stryd Frogmore, Abergavenny Chronicle 24ain Tachwedd 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddychweliad Helen o Serbia. Abergavenny Chronicle 26ain Medi 1919
Ezzelina Samuel
Man geni: Pontarddulais
Gwasanaeth: Nyrs, 1916 - 1919
Marwolaeth: February 1919 , Ysbyty Kemptown, Brighton, Bronchitis following influenza / Broncitis yn dilyn ffliw
Nodiadau: Roedd Ezzelina yn un o wyth plentyn Thomas Samuel, uwch-arolygydd Gweithfeydd Tunplat Clayton, Pontarddulais. Roedd hi’n sefyll ei harholiadau terfynol ar ôl hyfforddi yn nyrs yn Brighton pan aeth yn sal a bu farw, yn 24 oed.
Cyfeirnod: WaW0278
Adroddiad papur newydd a llun
Erthygl fer yn nodi marwolaeth Ezzelina, gyda darlun.rnHerald of Wales 1af Mawrth 1919
adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Ezzelina Samuel yn Brighton. Carmarthen Journal 7fed Mawrth 1919