Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl achos marwolaeth
Esther Isaac
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914 - 1920
Nodiadau: Ganwyd Esther yn 1884 a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ymunodd â nyrsys wrth gefn y QA yn 1914, ac yn 1915 anfonwyd hi i Ysbyty Milwrol Caergrawnt, pryd yr enillodd y Groes Goch Frenhinol. Ym mis Mawrth 1917 anfonwyd hi i Bombay am 15 mis, yna ei throsglwyddo i Ysbyty Neilltuo Baghdad, lle cafodd ei dyrchafu’n Chwaer. Ar ôl y rhyfel gwasanaethodd am sawl blwyddyn yn Fetron yn Ysbyty Llwynypïa. Parhaodd Esther ar restr wrth gefn y QAIMNS tan 1937
Cyfeirnod: WaW0485
Esther Isaac
Llun papur newydd o Esther Isaac yn gwisgo ei Chroes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916.
Rhestr Anrhydedd
Enw ‘Nurse Esther Isaac India’ ar restr anrhydedd Capel yr Annibynwyr, Stryd Henrietta, Abertawe.
Irene (Ivy) Ace
Man geni: Dinbych-y-Pyscod
Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19
Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.
Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk
Cyfeirnod: WaW0483
Irene \'Ivy\' Ace
Man geni: Dinbych-y-Pyscod
Gwasanaeth: Gweinyddydd Technegol , WAAC, 1917 - 19
Nodiadau: Ganwyd Ivy yn 1892; ymunodd â’r WAAC ym mis Mehefin 1917, a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel gweinyddydd. Nid yw ei chofnodion WAAC wedi goroesi, ond o’i ffotograff ymddengys ei bod yn ‘swyddog’ h.y. yn swyddog yn y WAAC. Gwasanaethodd yn Ffrainc am flwyddyn. Ar ôl y Rhyfel bu’n fyfyrwraig amaeth. Cofnodir iddi dderbyn taith mewn awyren ar ei phen-blwydd yn 21ain oed, er gwaetha hyn nid ymddengys iddi gael ei throsglwyddo i’r WRAF, pan ffurfiwyd e yn 1918.
Ffynonellau: Narbeth Museum/Amgueddfa Arberth https://woww.narberthmuseum.co.uk\r\n\r\n\r\n
Cyfeirnod: WaW0483
Lily Ellis
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, TFNS, 1914 - 1919
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i arweinydd côr adnabyddus, Hugh Ellis, yn Aberpennar, a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ar ôl gweithio yn Abertawe a Malvern cafodd ei phenodi yn chwaer theatr yn Ysbyty Lewisham, Llundain. Ar ddechrau’r Rhyfel ymunodd â’r TFNS ac roedd yn gwasanaethu yn yr Ysbyty Cyffredinol Deheuol 1af pan ymwelodd y Brenin George V yn 1916; enillodd y Groes Goch Frenhinol.
Cyfeirnod: WaW0486
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Lily Ellis â’r Groes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916
Edith E Copham
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1918-11-18, Pen-bre, Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff , Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 19 oed. Lladdwyd hi yn yr un ffrwydrad â Mary Fitzmaurice a Jane Jenkins; Rhannodd MF a EEC angladd cyhoeddus.
Ffynonellau: Explosion report Herald of Wales 14th December 1914; Funeral report South Wales Weekly Post 30 Nov 1918 / Adroddiad am y ffrwydrad Herald of Wales 14eg Rhagfyr 1914; Adroddiad am yr angladd South Wales Weekly Post 30ain Tachwedd 1918
Cyfeirnod: WaW0002
Elizabeth Davies
Man geni: Tywyn Bach
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1920:05:09, Ysbyty Llanelli , Accident: ruptured liver/Damwain, afu wedi ei rwygo
Nodiadau: Bu farw merch ifanc, Elizabeth Davies, o Sandfield House, Porth Tywyn yn Ysbyty Cyffredinol Llanelli ar ddydd Sul, wedi cael ei hanafu yn Ffatri Bowdwr Pen-bre. Roedd hi’n disgyn oddi ar drên y gwaith a oedd yn dal i symud, wrth iddo gyrraedd y Ffatri ddydd Gwener, pan lithrodd rhwng y troedfwrdd a’r platfform. Cafodd ei llusgo ychydig o ffordd a dioddefodd anafiadau mewnol difrifol. Llanelly and County Guardian 13eg Mai 1920
Cyfeirnod: WaW0089
Florence Missouri Caton
Man geni: ’ar y môr’ oddi ar Ciwba
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, September 1915 – July 1917 /
Marwolaeth: 1917/7/15, Salonica, Appendicitis / Llid y pendics
Nodiadau: Ganwyd Florence Missouri Caton ar fwrdd llong (efallai mai dyma darddiad ei henw canol, er nad oes prawf o hyn eto) tua 1876, i rieni o Wrecsam. Roedd wedi ei hyfforddi’n nyrs, a gweithiodd yn Sir Gaerhirfryn cyn ymuno ag Ysbytai Menywod yr Alban yn 1915. Bu’n gweithio dros ddau gyfnod yn y Balcanau. Yn fuan ar ôl iddi gyrraedd yno’n 1915 cipiwyd ei huned gan yr Awstriaid, a chafodd ei rhyddhau ym misrnRhagfyr. Yn Awst dychwelodd i Serbia, gan weithio mewn sawl ysbyty a gorsafoedd triniaeth nes y bu farw o lid y pendics yng Ngorffennaf 1917. Claddwyd hi ym Mynwent Filwrol Lembet Road, Salonica. rn
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/
Cyfeirnod: WaW0212
Ethel Saxon
Man geni: Abertyleri
Gwasanaeth: Nyrs Staff, TFNS
Marwolaeth: 1917-09-03, Appendicitis/Llid y pendics
Cofeb: Cofeb Ryfel; Cofeb y Nyrsys; Llidiart Delhi, Kingsland; Cadeirlan Lerpwl; Delhi, Swydd Henffordd; Sir Gaerhirfryn; India
Nodiadau: Ganed hi yn 1891, roedd ei thad yn adeiladydd a saer. Gweithiodd am gyfnod yn Lerpwl cyn mynd dramor. Ymddeolodd ei rhieni i Kingsland, swydd Henffordd lle caiff ei choffáu; gwelir ei henw hefyd at gofeb y Nyrsys, Cadeirlan Lerpwl ac ar Gofeb Ryfel India – Llidiart Mawr Delhi
Cyfeirnod: WaW0134
Morfydd Owen
Man geni: Trefforest
Gwasanaeth: Cyfansoddwraig / cantores
Marwolaeth: 1918/09/07, Y Mwmbwls , Appendicitis/reaction to chloroform / Pendics/adwaith i glorofform
Nodiadau: anwyd Morfydd Owen yn 1891 i deulu cyffredin o gapelwyr cerddorol. Dangosodd addewid cerddorol mawr yn gynnar – dywedir iddi ddechrau cyfansoddi yn 6 oed – a chafodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Caerdydd yn 1909. Yn 1912 perswadiwyd ei rhieni i ganiatáu iddi astudio cyfansoddi yn y Royal Academy of Music, lle’r enillodd bob gwobr bosibl yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Yn Llundain dechreuodd droi mewn cylchoedd Cymreig dylanwadol, yn 1914 bu’n helpu i gasglu a threfnu caneuon Cymraeg traddodiadol o Sir Y Fflint a Dyffryn Clwyd. Roedd yn gyfansoddwraig gynhyrchiol iawn a chantores â llais mezzo-soprano hyfryd dros ben. Roedd yn flaenllaw mewn cylchoedd mwy Bohemaidd hefyd: ymysg ei ffrindiau roedd Ezra Pound a D H Lawrence. Yn 1917 priododd, yn annisgwyl, Ernest Jones, y seico-therapydd a bywgraffydd Freud. Cyfyngodd hyn yn ddifrifol ar ei gyrfa broffesiynol, yn arbennig gan nad oedd Jones yn hoffi iddi berfformio’n gyhoeddus. Yng Ngorffennaf 1918 ysgrifennodd at ffrind nad oedd hi’n hawdd addasu i fywyd priodasol a’i fod yn mynd â’i holl amser. Ym Medi pan oedd yn aros gyda’i theulu-yng-nghyfraith yn Y Mwmbwls datblygodd Morfydd bendics a bu farw, efallai yn dilyn llawdriniaeth a fwnglerwyd. Ysgrifennodd ei hathro ym Mhrifysgol Caerdydd, David Evans amdnai ei fod yn ystyried ei marwolaeth yn golled ddi-fesur i gerddoriaeth Gymreig, ac nad oedd yn gwybod am unrhyw gyfansoddwr ifanc Prydeinig arall a ddangosai’r fath addewid. Er mai dim ond 26 oed oedd hi pan fu farw mae 250 o’i chyfansoddiadau wedi goroesi.
Ffynonellau: http://discoverwelshmusic.com/composers/morfydd-owen. www.illuminatewomensmusic.co.uk/illuminate-blog/rhian-davies-an-incalculable-loss-morfydd-owen-1891-1918
Cyfeirnod: WaW0335
Augusta Devisch (née Dekien)
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Ffoadur, gwraig
Marwolaeth: 2il Chwefror 1916, ‘long and lingering illness’/ ’salwch hir a throfaus’
Nodiadau: Roedd Augusta, a aned tua 1895, ffoadur o Wlad Belg yn byw gyda’i gŵr Edward, dau lys-blentyn ac aelodau eraill y teulu yn Adeiladau Siloa, Aberdâr. Addolai’r gymuned yng Nghapel Siloa a ganiatái i’r Catholigion Belgaidd ddefnyddio’r adeilad.
Ffynonellau: Aberdare leader 12th February 1916
Cyfeirnod: WaW0137