Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl dyddiad marwolaeth
Hester Millicent MacKenzie (née Hughes)
Man geni: Bryste
Gwasanaeth: Addysgwraig, actifydd
Marwolaeth: 1942, Brockweir, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Millicent MacKensie yn 1863 a chafodd ei phenodi yn Athro Addysg (menywod) Prifysgol Cymru, De Cymru a Sir Fynwy (Prifysgol Caerdydd yn ddiweddarach) yn 1904 ac yn Athro llawn yn 1910. Hi oedd yr athro benywaidd cyntaf yng Nghymru. Roedd yn gyd-sefydlydd Cymdeithas Ryddfreinio Menywod Caerdydd a’r Cylch yn 1908, ac erbyn 1914 dyma’r gangen fwyaf y tu allan i Lundain gyda 1200 o aelodau. Cyn ac yn ystod y Rhyfel roedd yn weithgar gyda Chlwb y Merched yn Sefydliad y Brifysgol yn Sblot, Caerdydd (lle cwrddodd â’i gŵr, yr Athro J S MacKensie). Safodd, yn aflwyddiannus, fel ymgeisydd Llafur dros sedd prifysgolion Cymru yn etholiad 1918, yr unig fenyw i sefyll am sedd yng Nghymru.
Ffynonellau: http://www.walesonline.co.uk/lifestyle/nostalgia/how-women-classes-came-together-12596684
Cyfeirnod: WaW0246
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ganlyniadau ymgeiswyr benywaidd yn Etholiad Cyffredinol 1918. Cambrian News and Merionethshire Standard 3ydd Ionawr 1919.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gostau etholiadol, ymgeiswyr Prifysgol Cymru. North Wales Chronicle 14eg Chwefror 1919.
Gertrude Mary Bailey (née Buchanan)
Man geni: Sunderland
Gwasanaeth: Gwraig fusnes, Pwyllgorwraig,, 1914 - 1919
Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys
Nodiadau: Symudodd Gertrude Bailey i Gasnewydd ar ôl priodi yr atgyweiriwr llongau cyfoethog o Gasnewydd C H Bailey yn 1895. Ar ôl iddo farw yn 1907 bu hi’n rhedeg ei fusnes llwyddiannus. Wedi dechrau’r Rhyfel bu’n ymwneud â sawl gweithgaredd yn gysylltiedig â’r rhyfel, gan gynnwys helpu Ffoaduriaid Gwlad Belg a’r Groes Goch, a gwasanaethu ar bwyllgor Pensiynau Rhyfel. Yn 1917 sefydlodd Gertrude feithrinfa ar gyfer plant menywod yn gweithio yn y ffatrïoedd arfau. Enillodd anrhydedd y CBE yn 1918; yn rhyfeddol nid oes datganiad yn ei henw. Efallai ei bod yn rhy brysur gyda chymaint o bethau i’w henwi. Yn 1920 trosglwyddodd y busnes i’w meibion a daeth yn un o ddau ynad heddwch benywaidd cyntaf Casnewydd. Roedd Gertrude yn erbyn rhyddfreinio menywod cyn y Rhyfel a noddai gymdeithasau dirwest. Yn Who’s Who in Newport (1920) disgrifir hi yn ‘La Grande Dame of the place’.
Ffynonellau: Sylvia Mason: Every Woman Remembered. Saronpublishers 2018\r\nhttp://www.newportpast.com/gallery/photos/php/search.php?search=munition&search2=&Submit=Submit
Cyfeirnod: WaW0360
Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau
Agor Meithrinfa Gweithwyr y Ffatrïoedd Arfau, Casnewydd 1917.
Lydia Elizabeth (Bessie) Jones
Man geni: Llanfrothen
Gwasanaeth: Nyrs, 1914/5 - 1919
Marwolaeth: 1942, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Bessie Jones (ganwyd 1872) yn ei phedwardegau pan dorrodd y Rhyfel allan. Deuai o deulu dosbarth canol mawr, roedd yn cyfrannu at y gymuned (roedd hi’n Ymwelydd Benywaidd â Wyrcws Penrhyndeudraeth) a roedd yn dilyn cwn hela dyfrgwn ei thad. Yn gynnar yn y Rhyfel ymunodd â’r Groes Goch Ffrengig, a gwasanaethodd gyda nhw tan 1919. Yng nghyfnod olaf y rhyfel gweithiai yn anesthetydd yn gweithio oriau hirion dan fomio trwm a difrodwyd ei hysbyty gan shrapnel. Bu’n dyst hefyd i drallwysiad gwaed cynnar. Ysgrifennodd lythyron hir at ei chwaer Minnie Jones [qv], a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn y wasg leol. At hyn ysgrifennodd ambell erthygl a gyhoeddwyd yn y Welsh Outlook gan gynnwys Dawn in a French Hospital (Hydref 1916) dan y llysenw Merch o’r Ynys. Cafodd ei hanfon yn olaf i Strasbourg; dychwelodd adre yn Awst 1919. Enillodd y Croix de Guerre am ei gwaith yn ardal Champagne Ffrainc ac hefyd y Groes Filwrol. Ymddengys bod Bessie yn rhugl mewn Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg yn ogystal ag yn bianydd dawnus.
Cyfeirnod: WaW0440
Llythyr papur newydd
Llythyr at chwaer Bessie Minnie Jones yn disgrifio trallwysiad gwaed. Yr Herald Cymraeg 2 Ebrill 1918
Llythyr papur newydd
Llythyr at chwaer Bessie Minnie Jones yn disgrifio bywyd newb Ysbyty maes dan fomio cyson, ac o gael ei hamau o fod yn ysbiwraig. Cambrian News 16 Awst 1918 1,
Llythyr papur newydd
Llythyr at Minnie Jones chwaer Bessie yn disgrifio bywyd menw Ysbyty maes dan fomio cyson a c o gael ei hamau o fod yn ysbiwraig. Cambrian News 16 Awst 1918 2.
Welsh Outlook
Dechrau traethawd Bessie Jones (Merch yr Ynys) ‘Dawn in a French Hospital’ Welsh Outlook Cyf 3 Rhif 10 Hydref 1916.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar ddychweliad Bessie Jones o Ffrainc, a ‘i pherfformiad mewn cyngerdd. North Wales Chronicle 29 Awst 1919.
Emily Frost Phipps
Man geni: Devonport
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd, bargyfreithwraig
Marwolaeth: 1943, Heart disease / Clefyd y galon
Nodiadau: Ganed Emily Phipps yn Nhachwedd 1865 yn ferch i of copr yn y dociau. Gweithiodd ei ffordd i fyny o fod yn ddisgybl-athrawes i fod yn Brifathrawes Ysgol y Merched Bwrdeistref Abertawe yn 1895. Roedd yn feminydd weithredol, a chyda ei phartner, Clara Neal (a thair arall, gan aros dros nos mewn ogof ar lan y môr), boicotiodd gyfrifiad 1911. Bu’n Llywydd Undeb ar gyfer athrawesau benywaidd yn 1915, 1916 a 1917, a hi oedd yn golygu cylchgrawn yr Undeb. Hyrwyddodd yrfaoedd proffesiynol i ferched, gan synnu llawer o bobl trwy awgrymu ym Mawrth 1914 y gallent fod yn ddeintyddion. Safodd Emily Phipps yn Aelod Seneddol ar gyfer Chelsea yn etholiad 1918, yn un o ddim ond dwy fenyw o Gymru a wnaeth hynny. Yn ddiweddarach astudiodd i fod yn fargyfreithwraig, a dyrchafwyd hi i’r bar yn 1925.
Ffynonellau: https://en.wikipedia.org/wiki/Emily_Frost_Phipps
Cyfeirnod: WaW0247
Pennawd papur newydd
Pennawd i adroddiad o araith Emily Phipps yn Seremoni Wobrwyo Ysgolion Eilradd Bwrdeistref Abertawe, 20fed Mawrth 1914. Cambrian Daily Leader 21ain Mawrth 1914.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar ganlyniadau ymgeiswyr benywaidd yn Etholiad Cyffredinol 1918. Cambrian News and Merionethshire Standard 3ydd Ionawr 1919.rn
Margaret Ker Pryse-Rice (Stewart)
Man geni: Ceredigion
Gwasanaeth: Llywydd y Groes Goch , Brisitsh Red Cross Society
Marwolaeth: 1948, Achos anhysbys
Nodiadau: Margaret Pryse-Rice oedd mam Dorothea a Nest. Roedd hi’n Llywydd cangen Sir Gaerfyrddin o Gymdeithas y Groes Goch Brydeinig a chafodd ei dyrchafu’n Fonesig yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydedd Dydd Calan 1918. Bu fawr yn 1948, yn 72 oed.
Cyfeirnod: WaW0205
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anrhydeddu Margaret Pryse-Rice yn y Carmarthen Journal. Cafwyd adroddiad yn y Cambrian News hefyd ond am gyflawniadau ei gŵr yn unig!
Sally Constant
Man geni: Y Rhondda
Gwasanaeth: Nyrs (Chwaer), 1914 - 1918
Marwolaeth: 1949, Achos anhysbys
Nodiadau: Bu’r Chwaer Sally Constant yn nyrsio yn Ysbyty Llwynypïa, y Rhondda, gydol y Rhyfel. Efallai iddi hyfforddi yng Nghaerdydd cyn y Rhyfel. Fel cynifer o nyrsys roedd ganddi albwm (yn dyddio’n ôl i 1907) sy’n cynnwys llawer o gyfraniadau gan filwyr o gleifion. Bu’n gweithio tan yr Ail Ryfel Byd.
Cyfeirnod: WaW0148
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm gyda cherdyn post doniol, wedi’i llofnodi gan y gyrrwr, Driver Whiteside, 1918
Tudalen o Albwm
Tudalen o Albwm wedi’i llofnodi gan y gynnwr Gunner H Tyllyer 1916. Anafwyd deirgwaith ‘Nil Desperandum’
Lilias Stuart Mitchell (née Wilsone)
Man geni: Straights Settlement
Gwasanaeth: Pwyllgorwraig, mam
Marwolaeth: 1949, Swydd Caint , Achos anhysbys
Nodiadau: Gwraig A A Mitchell, Henadur ac YH yn Aberhonddu a mam Isabella Mitchell [qv] a fu’n gyrru ambiwlansysy yn Ffrainc oedd Lilias Mitchell. Lladdwyd ei mab hynaf ym Mesopotamia yn 1917 ac anafwyd ei mab ieuengaf yn ddifrifol yn Ffrainc yn 1918. Roedd hi a’i gŵr yn Geidwadwyr lleol nodedig; cefnogodd Lilias ffoaduriaid ac Ysbyty’r Groes Goch Penoyre. At hyn hi oedd Ysgrifennydd Pwyllgor Ffair Gyflogi Aberhonddu ac roedd yn Aelod o Bwyllgor y Ddeddf Diffyg Meddyliol. Ym Mehefin 1918 gwobrwywyd hi â’r Medaille de la Reine Elisabeth am ei gwaith gyda ffoaduriaid Gwlad Belg. Gadawodd hi a’i gŵr yr ardal yn 1919.
Cyfeirnod: WaW0396
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Mrs Mitchell i Bwyllgor Deddf Diffyg Meddyliol. Brecon County Times 5ed Awst 1915.
Llythr papur newydd
Llythyr i’r papur Newydd am ddarpariaeth i’r merched yn Ffair Gyflogi Aberhonddu. Brecon County Times 26ain Ebrill 1917.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Mrs Mitchell â’r Medaille de la Reine Elisabeth. Brecon and Radnor Express 27ain Mehefin 1918.
Rhybudd o ocsiwn
Rhestr o offer gardd a stabl a werthwyd gan y teulu Mitchell cyn iddynt ymadael ag Aberhonddu. Brecon County Times 21ain Awst 1919.
Catherine Meriel (Alcy) Howard (Lady) (née Cowell-Stepney)
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Menyw ddyngarol, pwyllgorwraig a chynghorydd lleol
Marwolaeth: 1952, Llanelli, Achos anhysbys
Nodiadau: Notes [Cy] Ganwyd yr Arglwyddes Howard yn 1876, a hi oedd ail wraig Edward Stafford Howard, cyn wleidydd Rhyddfrydol a chymwynaswraig â Lanelli. Roedd e 25 mlynedd yn hŷn na hi, a bu farw yn ystod cyfnod o fod yn faer yn Llanelli yn 1916. Roedd yr Arglwyddes Howard eisoes yn aelod gweithgar o Fwrdd y Gwarcheidwaid ( Y bu’n gadeirydd arno yn ddiweddarach), a chafodd ei chyfethol yn henadur i gwblhau cyfnod ei gŵr yn faer. O ganlyniad, cafodd ei hethol i’r cyngor yn 1919. Roedd yn gefnogol iawn i’r YWCA ac yn Llywydd y Llanelly Women’s Liberal Association. Enillodd MBE yn 1918, pan ysgrifennwyd yn y Cambrian Daily Leader wrote: ‘Nid yw unrhyw adran o waith y rhyfel, nag unrhyw fudiad dros welliannau yn Llanelli yn gyfan hebddi hi …’. Ar ôl y rhyfel daeth yn Gyngorydd Sir ac yn Ynad Heddwch (1920).
Cyfeirnod: WaW0284
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyfethol yr Arglwyddes Howard yn Faer Llanelli. Cambrian Daily Leader 17eg Mai 1916.
Adroddiad papur newydd a llun
Adroddiad am wobrwyo yr Arglwyddes Howard â’r MBE. Cambrian Daily leader 12fed Mehefin 1918.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad am gyfarfod bwrdd gwarcheidwaid y tlodion a gadeiriwyd gan Arglwyddes Howard. Roedd y gwarcheidwaid, gyda chefnogaeth Arglwyddes Howard, yn cwyno am ddeiet newydd annigonol y wyrcws. Llanelly Star 10fed Awst 1918, t.3
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Arglwyddes Howard yn sefyll etholiad lleol yn 1919. Cyn hynny roedd wedi ei chyfethol, ond credai’n gryf mewn cael pleidlais iawn. Cambrian Daily Leader 17eg Tachwedd 1919.
Gladys May Evans
Man geni: Margam/Port Talbot ?
Gwasanaeth: Garddwraig, Womens Land Army
Marwolaeth: 1952, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Gladys yn 1898 a bu’n gweithio yng ngerddi Castell Sain Ffagan. Roedd y castell ei hun yn Ysbyty rhyfel ac roed dy gerddi’n cyflenwi’r ceginau. Mae sawl llun o Gladys; efallai i’w defnyddio er mwyn hysbysrwydd.
Cyfeirnod: WaW0449
Gladys May Evans
Gladys May Evans yng ngwisg y Fyddin Dir, efallai ynG Nghastell Sain Ffagan. Mae’r bathodyn yn cynhrychiol ‘dau fis o wasanaeth cymeradwy’.
Gwendoline Elizabeth Davies
Man geni: Llandinam
Gwasanaeth: Casglwraig, dyngarwraig, gweithwraig mewn cantîn , French Red Cross, 1916 - 1918
Marwolaeth: 1952/07/03, Leukaemia /Lewcemia
Nodiadau: Ganwyd Gwendoline yn 1882 a hi oedd wyres hynaf David Davies y perchennog glo ac adeiladydd Dociau’r Barri. Derbyniodd hi, a’i chwaer Margaret[qv] a’i brawd David ill tri un rhan o dair o ffortiwn enfawr eu tad pan fu farw yn 1898. Roedd y tri ohonynt yn Fethodistiaid Calfinaidd cryf a chanddynt elfen gref o ddyngarwch. Dechreuodd y ddwy chwaer deithio yn eang ac astudio celf yn Ewrop. Yn eu hugeiniau cynnar roeddent yn dechrau ffurfio’r csagliad sydd bellach yn Amgueddfa Cymru. Ym Mawrth 1913 arddangoswyd y casgliad, yn ddienw, yng Nghaerdydd; a thalodd y chwiorydd yr holl gostau. Denodd 26,000 o ymwelwyr. Ar ddechrau’r rhyfel hyrwyddodd y chwiorydd gynllun i wahodd artistiaid a cherddordion o Wlad Belg i ddod i Gymru, gan eu sefydlu yn Aberystwyth a Llandiloes [gweler De Saedeleer]. Yn 1916, yn dilyn marwolaeth ei chefnder yn y Dardanelles, gwirfoddolodd Gwen i ymuno â’r Groes Goch Ffrengig, gan adael yng Ngorffennaf i agor Cantine des Dames Anglaises lle bu tan ddiwedd y rhyfel. Symudwyd y Cantine yn 1917 i Troyes, lle’r ymunodd ei chwaer â hi. Yn rhinwedd ei swydd yn Directrice gallai Gwen ymweld â Pharis, a galluogodd hynny iddi ychwanegu lluniau, gan gynnwys dau gan Cézannes, at ei chasgliad. Ddechrau 1918 roedd risg cyrchoedd awyr a sielio o bellter yn peryglu ei chasglaid ym Mharis, felly trefnwyd i’w hanfon adre ar long i Brydain. Erbyn 1922 roedd wedi rhoi heibio casglu celf. Teimlai na allai wario arian a hithau’n gyfnod o gyni difrifol ym mhob man. Yn ystod yr 1920au sefydlodd Gwendoline ganolfan i’r celfyddydau yng Ngregynog ger Llandinam, i hyrwyddo heddwch a chynnydd cymdeithasol trwy gelf. Parhaodd i roi rhoddion hael i achosion addysgol ac eraill. Pan fu farw yn 1951, rhoddodd ei chasgliad rhyfeddol o luniau a cherfluniau i Amgueddfa Cymru.
Ffynonellau: Oliver Fairclough [ed] Things of Beauty: What two sisters did for Wales. National Museum Wales 2007. Trevor Fishlock A Gift of Sunlight. Gomer 2014\r\nhttps://museum.wales/articles/2007-07-29/The-Davies-Sisters-during-the-First-World-War/
Cyfeirnod: WaW0333
Agor baddonau pen pwll Cwmni Glo Ocean
Gwendoline Davies (Canol) a Margaret (chwith) yn agoriad y baddonau pen pwll cyntaf yng Nghymru, haf 1916. Tynnwyd hyn yn union cyn iddi adael am Ffrainc.
Arddangosfa 1913
Arddangosfa ar fenthyg o gasgliad y chwiorydd Davies yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Chwefror 1913. Mae’n cynnwys Y Gusan gan Rodin, a brynwyd gan Gwendoline yn 1912.