Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
May Brooks
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig, WAAC/QMAAC, 1917 - 1919
Nodiadau: Roedd May Brooks yn glerc mewn cwmni melysion cyn ymuno â’r WAAC. Gwasanaethodd mewn nifer o leoedd yn ne Lloegr. Daliodd y ffliw, treuliodd wythnos mewn ysbyty a chafodd ei rhyddhau am resymau trugarog ym mis Mehefin 1919. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifdy Morgannwg (DWESA6).
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0117
May Brooks, WAAC/QMAAC. Delwedd trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg
May Brooks yng ngwisg awyr agored y WAAC/QMAAC. Delwedd trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg
Gladys Butler
Man geni: Y Cymoedd, 1914
Gwasanaeth: Plentyn bach
Nodiadau: Mae gan Gladys Butler atgof byw o gael ei gwisgo mewn iwnifform milwr bychan (tua1916/17) a’i rhoi i sefyll ar fwrdd. Pan edmygwyd y ‘milwr bychan smart’, mynnodd nad bachgen ydoedd ond merch! (CF Tachwedd 2014)
Cyfeirnod: WaW0090
Edith Carbis
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Negesydd, Girl Guides / Geidiau
Nodiadau: Ymddangosodd ffotograff Edith Carbis yn y 'Roath Road Roamer’, Ionawr 1915. Ymddengys ei bod wedi gadael yr ysgol, ac yn gweithio fel negesydd i’r Arglwydd Faeres.
Cyfeirnod: WaW0094
Kathleen Edithe Carpenter (Zimmermann)
Man geni: Swydd Lincoln
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Biolegydd, Amgylcheddwraig , University College Aberystwyth
Marwolaeth: 1970, Cheltenham, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd hi yn 1891, Almaenwr oedd ei thad a Saesnes oedd ei mam. Newidiodd ei chyfenw o Zimmermann yn Kathleen Carpenter ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd radd BSc yn 1910. Arhosodd i wneud gwaith ymchwil yn Aberystwyth, ac yna bu’n Ddarlithydd Cynorthwyol yn yr Adran Sŵoleg . Enillodd ei doethuriaeth yno yn 1925. Canolbwyntiai ei hymchwil semenol ar effaith amgylcheddol llygredd metel ar nentydd Ceredigion. Daeth hynny â bri rhyngwladol iddi, yn enwedig yn UDA lle bu’n gweithio mewn sawl Prifysgol. Ystyrir mai Kathleen Carpenter yw ‘mam ecoleg dŵr croyw’.
Ffynonellau: Catherine Duigan: https://thebiologist.rsb.org.uk/biologist-features/158-biologist/features/1968-who-was-kathleen-carpenter ++
Cyfeirnod: WaW0465
Kathleen Carpenter a chyd-fyfyrwyr
Kathleen Carpenter (blaen 2il i’r chwith) cymdeithas lenyddol a dadlau Aberystwyth yn 1910
Catherine Anne Carroll (née Rees)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, Not known / anhysbys
Marwolaeth: 1918/10/21, Abertawe, Gas gangrene / Madredd nwy
Nodiadau: Roedd Catherine yn fam i bedwar o blant ac yn gweithio yn gwneud arfau rhyfel yn Abertawe. Yn ôl ei hŵyr ‘syrthiodd o dram gan anafu ei choes ac o ganlyniad cafodd fadredd oherwydd yr amodau gwaith yn y ffatri arfau rhyfel. Bu farw ar 21.10.1918. Bu farw ei gŵr, y milwr William Carroll mewn Ysbyty yn yr Aifft ychydig dros fis yn ddiweddarach. Magwyd y plant gan eu mamau a’u tadau cu.
Diolch i Roger Latch.
Cyfeirnod: WaW0355
Catherine Carroll a'r teulu
Catherine Carroll gyda’i phlant, May, Ted, William a’r baban Betty, Hydref 1914. Diolch i Roger Latch
Llun papur newydd
Llun ac adroddiad am farwolaeth Preifat William Carroll. South Wales Weekly Post 23ain Tachwedd 1918.
Florence Missouri Caton
Man geni: ’ar y môr’ oddi ar Ciwba
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, September 1915 – July 1917 /
Marwolaeth: 1917/7/15, Salonica, Appendicitis / Llid y pendics
Nodiadau: Ganwyd Florence Missouri Caton ar fwrdd llong (efallai mai dyma darddiad ei henw canol, er nad oes prawf o hyn eto) tua 1876, i rieni o Wrecsam. Roedd wedi ei hyfforddi’n nyrs, a gweithiodd yn Sir Gaerhirfryn cyn ymuno ag Ysbytai Menywod yr Alban yn 1915. Bu’n gweithio dros ddau gyfnod yn y Balcanau. Yn fuan ar ôl iddi gyrraedd yno’n 1915 cipiwyd ei huned gan yr Awstriaid, a chafodd ei rhyddhau ym misrnRhagfyr. Yn Awst dychwelodd i Serbia, gan weithio mewn sawl ysbyty a gorsafoedd triniaeth nes y bu farw o lid y pendics yng Ngorffennaf 1917. Claddwyd hi ym Mynwent Filwrol Lembet Road, Salonica. rn
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/
Cyfeirnod: WaW0212
Ada Maude Cecil
Man geni: Talywaun, Pontypŵl
Gwasanaeth: Nyrs, VAD
Nodiadau: Ymunodd Ada Cecil a’r VAD yn 1917 yn 20 oed. Am ryw reswm roedd ganddi bedair cerdyn y Groes Goch: tair binc ac un wen. Ar y cychwyn nyrsiodd yng Nghymru, ond yna cafodd ei hanfon i Ysbyty Milwrol Seland Newydd yn Weybridge, Surrey a Swydd Stafford. Roedd Ada yn aelod o Eglwys y Bedyddwyr, Pisgah, Talywaun, a chofir amdani ar restr anrhydedd yr Eglwys.
Cyfeirnod: WaW0290
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cefn yr un cerdyn, yn dangos y llefydd yr anfonwyd Ada Cecil iddynt.
Elsie Chamberlain (née Cooil)
Man geni: Lerpwl
Gwasanaeth: Athrawes, mam, gwleidydd lleol
Nodiadau: Symudodd Elsie gyda’i theulu o Lerpwl i Fangor pan oedd hi’n bump. Ar ôl gadael ysgol, bu’n athrawes mewn ysgolion lleol. Dweodd Charlotte Price White [qv], y swffragydd lleol adnabyddus, wrthi ‘ Mae gen ti’r ddawn i wneud gwaith cyhoeddus a dy ddyletswydd di yw gwasanaethu dinesyddion Bangor’ Gwasanaethodd ar nifer o bwyllgorau amser rhyfel, a sfaodd yn aflwyddiannus ar gyfer etholiadau treflo 1919, a dod yn gynhorydd o’r diwedd yn 1930. Ho oedd Maer benywadd cyntaf Bangor rhwng 1941 a 1943. Elsie oedd mam yr artist a’r awdud Brenda Chambelain a bu fawr yn 1972.
Ffynonellau: Jill Percy: Brenda Chamberlain, Artist and Writer (Parthian Books 2013)
Cyfeirnod: WaW0409
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o arddangosfa dai a drefnwyd gan gangen Bangor o Gyngor Cenedlaethol y Menywos, gan gynnwys Mrs Chamberlain. North Wales Chronicle 15 Awst 1919
Ellen Catherine Clay (née Williams)
Man geni: Penrhos
Gwasanaeth: Nyrs (Pennaeth), Cadeirydd Byddin Dir y Merched, Caergybi, VAD, WLA/Byddin Dir y Merched
Nodiadau: Ganwyd Ellen Williams yn ferch i ffermwr tua 1866. Priododd feddyg lleol, Thomas William Clay, yn 1898. Pan dorrodd y Rhyfell allan daeth hi’n Ben swyddog Cynorthwyol VAD (Mintai Atodol Wirfoddol) Caergybi. Gweithiodd yn Ysbyty’r Groes Goch Holborn yn ogystal ag ar Ynys Môn; at hyn bu’n helpu rhedeg Cantîn y Groes Goch yng Ngorsaf Reilffordd Caergybi. Yn ogystal bu Mrs Clay yn cadeirio pwyllgor recriwtio Byddin Dir y Merched. Bu farw yn 1935.
Ffynonellau: Holyhead and Anglesey Mail 7 May / Mai 2014
Cyfeirnod: WaW0153
Elizabeth Clement
Man geni: Abertawe 1890
Gwasanaeth: Nyrs, SWH, 1915 - 1916
Nodiadau: Roedd Elizabeth Clement yn ferch i landlord tafarn yn Abertawe a hyfforddodd yn nyrs yn Wyrcws Llanelli, gan ddod yn Brif Nyrs. Ymunodd ag Ysbytai Menywod yr Alban yn hydref 1915. Cyrhaeddodd hi a’i chriw Serbia yn gynnar ym mis Hydref. Yn fuan wedi iddynt gyrraedd daeth byddin Awstria yn oruchaf yn Serbia, a threuliwyd y rhan fwyaf o Hydref yn symud o fan i fan i osgoi’r gelyn. Erbyn 7fed Tachwedd roeddent yn garcharorion i’r Almaenwyr. Ym mhen amser negydwyd eu rhyddhau a chyrhaeddon nhw Budapest ar eu ffordd i Vienna ar y 6ed Chwefror. Erbyn canol Chwefror 1916 roedd hi’n ôl yn Abertawe. Ymddengys ei bod yn bur enwog; cyhoeddwyd ei dyddiaduron yn y South Wales Daily Post, a chafwyd fersiwn lawn iawn yn Llais Llafur. Byddai’n annerch am ei phrofiadau, a byddai’n ymddangos pan fyddai eraill yn siarad hefyd. Dangoswyd taflun llusern ohoni mewn gwisg ‘Serbaidd’ mewn darlith gan y llyfrgellydd poblogaidd Mr W. W. Young yn Ionawr 1917.
Ffynonellau: http://scottishwomenshospitals.co.uk/women/
Cyfeirnod: WaW0114
Elizabeth Clement
Darlun o Elizabeth Clement yn brif nyrs yn wyrcws Llanelli. Herald of Wales and Monmouthshire Recorder, 25ain Rhagfyr 1915.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf cyhoeddiadau’r South Wales Daily Post o ddyddiaduron Elizabeth, South Wales Daily Post 19eg a 26ain Chwefror 1916.
Elizabeth Clement gyda chydweithwyr a milwyr Serbaidd
Darlun o Elizabeth Clement, dydd Nadolig 1915, gyda chydweithwyr a milwyr Serbaidd. Mae’n sefyll yn y rhes gefn, trydedd o’r dde.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddarlith ar Serbia gan W.W.Young. Dangosir Elizabeth mewn gwisg Serbaidd. Cambria Daily Leader, 19eg Ionawr 1917.