Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl galwedigaeth
Edith C Kenyon
Man geni: Doncaster
Gwasanaeth: Awdur
Marwolaeth: 1925, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Edith C Kenyon yn ferch i feddyg a chafodd ran o’i magwraeth ym Mychynlleth. Roedd hi’n awdur nofelau i oedolion a phlant hynod doreithiog, ac weithiau lyfrau ffeithiol. Tua diwedd ei hoes ysgrifennodd nifer o nofelau rhamantaidd wedi’u hysbrydoli gan Gymru, â theitlau fel Nansi’s Scapegoat, The Winning of Glenora, The Wooing of Myfanwy, a The Marriage of Mari. Cyflwynwyd hon mewn cyfresi ymysg cryn hysbysrwydd yn y Cambria Daily Leader yn 1916. Edmygid ei defnydd o dirlun Ceredigion yn fawr. Ysgrifennodd o leiaf un llyfr ar thema rhyfel ar gyfer plant: Pickles – A Red Cross Heroine. Roedd ei gwaith yn boblogaidd yn UDA ac Awstralia.
Cyfeirnod: WaW0455
Llyfr
Pickles, A Red Cross Heroine gan Edith C Kenyon, cyhoeddwyd gan Collins. ‘Pickles dropped the deadly thing over the vasty deep’.
Torri papur newydd
Pennawd a pharagraffau agoriadol The Marriage of Mari. Cambria Daily Leader 26 Hydref 1916.
Hysbyseb papur newydd
Hysbysiad colofn lawn am gyfresu The Marriage of Mari. Cambria Daily Leader 23 Hydref 1916
Adroddiad papur newydd
Adolygiad o The Wooing of Mifanwy [sic ] mewn papur Newydd o Awstralia. The advertiser Adelaide 22 Mawrth 1913.
Lily Tobias (Shepherd)
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Awdur, actifydd, cenedlaetholwraig
Nodiadau: Roedd Lily yn ferch i rieni Iddewig Rwsaidd a ffodd o Rwsia i osgoi gorfodaeth filwrol, a setlo yn Abertawe ac yna Ystalyfera; hi oedd y plentyn cyntaf a anwyd iddynt yng Nghymru. Dechreuodd ysgrifennu i Llais Llafur yn 14 oed, ac roedd yn gefnogol iawn i achosion rhyddfreinio menywod, y Blaid Lafur Annibynnol a gweithgareddau heddychwyr. Roedd ei brodyr yn wrthwynebwyr cydwybodol. Disgrifir hi gan y gwleidydd Llafur, Fenner Brockway, fel “heddychwraig weithredol a rhyfelgar … a ddangosodd ddyfeisgarwch a dewrder mawr yn herio’r awdurdodau ac yn helpu’r rhai oedd yn ceisio osgoi cael eu galw i fyny, a’r rhai yn y carchar.” Yn ddiweddarach bu’n brwydro dros achos sefydlu’r wladwriaeth Iddewig , ac ysgrifennodd sawl nofel.
Ffynonellau: Jasmine Donahaye The Greatest Need: The creative life and troubled times of Lily Tobias, a Welsh Jew in Palestine. Honno 2015 https://wciavoices.wordpress.com/2016/12/07/the-shepherd-family-of-ystalyfera-and-pontypridd-in-the-first-world-war
Cyfeirnod: WaW0245
Ethel Davies
Man geni: Bodhyfryd, Caergybi
Gwasanaeth: ‘aeliod’
Cofeb: Capel Armenia, Caergybi, Ynys Môn
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Ethel Davies y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Armenia, Caergybi
Ffynonellau: http://www.anglesey.info/holyhead-armenia-chapel-war-memorials.htm
Cyfeirnod: WaW0160
Restr Anrhydedd
Cofnod o wasanaeth rhyfel Ethel Davies Bodhyfryd, aelod, ar Restr Anrhydedd Capel Armenia Caergybi
Marjorie Wagstaff
Man geni: Casnewydd ?
Gwasanaeth: ‘Eillwraig’ , VAD ?
Nodiadau: Roedd Marjorie Wagstaff yn wirfoddolwraig o Gasnewydd a fyddai’n mynd i mewn i Adran Casnewydd o 3edd Ysbyty Milwrol Cyffredinol y Gorllewin ddwywaith yr wythnos i eillio’r cleifion. Erbyn diwedd y rhyfel roedd wedi perfformio dros 2000 o eilliadau. Gwelwyd ei llun yn y Daily Mirror ac yn the South Wales Argus
Cyfeirnod: WaW0336
Editha Elma (Bailey), Lady Glanusk (Sergison)
Man geni: Haywards Heath, Sussex
Gwasanaeth: ‘Gweithwraig weithredol yn y rhyfel’, Red Cross
Nodiadau: Ganed Arglwyddes Glanusk yn 1871 a phriododd 2il Farwn Glanusk yn 1890. O ddechrau’r rhyfel bu’n weithgar yn yr ymdrech ryfel, gan ysgrifennu’n ddibaid i annog menywod i annog eu gwŷr i ymrestru, ac yn galw am garcharu estroniaid o blith y gelyn. Hi oedd Llywydd y Groes Goch yn Sir Frycheiniog, (derbyniodd y CBE am hyn yn 1920), a bu’n dra gweithgar yn Ysbyty’r Groes Goch, Penoyre yn Aberhonddu. Lladdwyd dau o’i meibion yn y rhyfel, canol-longwr 17 oed oedd un ohonynt.
Cyfeirnod: WaW0228
Llythyr papur newydd
Llythyr i fenywod Sir Frycheiniog a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times, 5ed Tachwedd 1914
Llythyr paur newydd
Llythyr am Beryglon y Gelyn Estron a gyhoeddwyd yn y Brecon County Times 25ain Mawrth, 1915
Cerdyn cofnod y Groes Goch (cefn)
Cerdyn cofnod y Groes Goch yn manylu ar wasanaeth Arglwyddes Glanusk (cefn)
Alice Helena Alexandra Williams (Alys Meirion)
Man geni: Castell Deudraeth, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd
Gwasanaeth: Bardd, dramodwraig, artist, swffragydd, trefnydd, golygydd
Marwolaeth: August / Awst 1957, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Alice Williams yn 1863, yr ieuengaf o 12 plentyn David Williams, AS Meirionnydd. Gan ei bod yn gorfod byw gartref yn gydymaith i’w mam treuliodd ei hamser mewn eisteddfodau, cwmniau drama amatur a chyda rhyddfreinio menywod. Ar ôl i’w mam farw, a hithau bellach yn 40 oed, rhannodd ei hamser rhwng Llundain a Pharis, lle cyfarfu â’u chyfeilles am oes Fanny Laming. Pan dorrodd y rhyfel allan gweithiodd y ddwy dros y Groes Goch Ryngwladol yn Geneva, ond yn 1915 sefydlodd Swyddfa ym Mharis (ac yn Llundain yn ddiweddarach) i chwilio am newyddion a’i rannu am bersonau a aeth ar goll oherwydd y rhyfel. Yn ddiweddarach y flwyddyn hon daeth yn ysgrifennydd dros Gymru o Gronfa Argyfwng y Ffrancwyr a Anafwyd. Enillodd wobr y Médaille de la Reconnaissance Française yn 1920. Yn 1916 daeth yn sylfaenydd / Llywydd pedwaredd cangen Sefydliad y Merched yng Nghymru (yn Deudraeth) , gan ddarparu Neuadd ar eu cyfer, sy’n parhau i gael ei defnyddio heddiw. Hi oedd golygydd cyntaf Home and Country, cylchgrawn SyM hefyd. Yn Eisteddfod 1917 cafodd ei derbyn i Orsedd y Beirdd (fel dramodwraig) a dewisodd yr enw barddol Alys Meirion. Yn syth ar ôl y rhyfel, yn 1919, sefydlodd hi a Fanny y Forum Club preswyl yn Llundain, man cyfarfod cymdeithasol poblogaidd i fenywod yn unig, gan gynnwys Is-iarlles Rhondda.
Cyfeirnod: WaW0295
Gwobr y Médaille de la Reconnaissance Française
Cyhoeddiad am wobr y Médaille de la Reconnaissance Française a enillwyd gan Alice Williams. Journal Officiel de la Republique Francaise 22ain Hydref 1920
Cylchgrawn Home and Country
Rhifyn cyntaf cylchgrawn SyM Home and Country, a olygwyd gan Alice Williams. Hi yw’r ail o’r dde yn y llun. Gwasanaethodd yn drysorydd i SyM hefyd.
Mary Lavinia Beynon
Man geni: ASbertawe ?
Gwasanaeth: Bydwraig
Nodiadau: Cafodd Mary Beynon, 40 oed, ei chyhuddo o lofruddio Esther Davies [qv]. Cyhuddwyd hi o ddefnyddio offeryn i wneud erthyliad, ac o ganlyniad bu Esther Davies farw. Cafodd Mary, a oedd yn wraig i Arolygydd gyda’r Heddlu, ei chael yn ddieuog yn Nhachwedd 1919.
Cyfeirnod: WaW0303
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cyhuddiad yn erbyn Mary Beynon. Cambria Daily Leader 11eg Awst 1919.
Adrodiad papur newydd
Adroddiad am y ddedfryd ddieuog. Adroddiad am y cyhuddiad yn erbyn Mary Beynon. Cambria Daily Leader 11eg Awst 1919.
Megan Davies
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Cantores, clerc mewn banc
Marwolaeth: 1919/03/25, Aberdâr, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Roedd Megan Davies yn adnabyddus fel unawdydd o gontralto yn ardal Aberdâr a pherfformiodd mewn llawer o gyngherddau i Arwyr y Rhyfel. Gweithiai ym Manc Barclay’s Merthyr
Cyfeirnod: WaW0421
Adroddiad papur newydd
Adroddiad papur newydd o Chyngerdd Arwr Rhyfel gyda'r enw Megan Davies.Aberdare Leader 5ed Ionwawr 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Megan Davies o’r ffliw, yn 29 oed. Aberdare Leader 29 Mawrth 1919
Edith Phillips (Humphreys)
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Cariad
Nodiadau: Roedd Edith yn ffrindiau gyda’r teulu Humphreys (gweler Elizabeth Humphreys). Byddai Owen a George Humphreys yn ysgrifennu ati’n gyson, a rhoddodd Owen rosari a ddarganfu ar faes y gad iddi. Lladdwyd Owen yn Nhachwedd 1916. Priododd Edith George yn 1923.
Cyfeirnod: WaW0136
Edith (née Phillips) a George Humphreys
Ffotograff priodas o Edith (née Phillips) a George Humphreys gydag aelodau’r teulu. Mae hi’n eistedd ar y dde, gyda George yn sefyll y tu ôl iddi. 1923
Cerdyn post o faes y gad
Cerdyn post o faes y gad a anfonwyd at Edith Phillips gan Owen Humphreys, Medi 8fed 1916.
Margaret Sidney Davies
Man geni: Llandinam
Gwasanaeth: Casglwraig, dyngarwraig, a gweithwraig mewn cantîn , French Red Cross, 1917 - 1919
Marwolaeth: 1963, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganwyd Margaret yn 1884 a hi oedd chwaer iau Gwendoline [qv] ac wyres David Davies y perchennog glo ac adeiladydd Dociau’r Barri. Derbyniodd hi, a’i chwaer Margaret[qv] a’i brawd David ill tri un rhan o dair o ffortiwn enfawr eu tad pan fu farw yn 1898. Roedd y tri ohonynt yn Fethodistiaid Calfinaidd cryf ac ynddynt elfen gref o ddyngarwch. Dechreuodd y ddwy chwaer deithio yn eang, ac i astudio celf yn Ewrop. Yn eu hugeiniau cynnar roeddent yn dechrau ffurfio’r casgliad sydd bellach yn Amgueddfa Cymru. Ym Mawrth 1913 arddangoswyd y casgliad, yn ddienw, yng Nghaerdydd; a thalodd y chwiorydd yr holl gostau. Denodd 26,000 o ymwelwyr. Ar ddechrau’r rhyfel hyrwyddodd y chwiorydd gynllun i wahodd artistiaid a cherddordion o Wlad Belg i ddod i Gymru, gan eu sefydlu yn Aberystwyth a Llandiloes. Yn 1917 ymunodd Margaret â Gwendoline yn y Cantine des Dames Anglais, a oedd bellach yng ngorsaf drên Troyes. Yn ei dyddiadaur ysgrifenna taw prif fendith cantîn oedd tap dŵr a gramaffôn. Mae’r cyntaf yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef a’r llall yn gwneud bywyd yn bosibl ei ddioddef i’r poilu (milwr ym myddin Ffrainc). Am gyfnod symudwyd hi a Gwendoline i wersyll Americanaidd yn nes i’r ffrynt, roedd ganddynt brofiad o gyrchoedd awyr a lladdwyd dau o’u cydweithwyr gan fomiau. Yn ystod gaeaf 1918-1919 gweithiodd am dri mis mewn cantîn wedi ei redeg gan y Eglwysi Albanaidd yn Rouen cyn dychwelyd i Gymru. Yn ddiweddarach cynorthwyodd Margaret i sefydlu’r ganolfan i’r celfyddydau yng Ngregynog. Parhaodd i gasglu lluniau, gan artisitiaid Prydeinig modern yn bennaf, tan yr 1950au. Rhoddodd ei chasgliad, fel un ei chwaer, yn rhodd i Amgueddfa Cymru
Ffynonellau: Oliver Fairclough [ed] Things of Beauty: What two sisters did for Wales. National Museum Wales 2007. Trevor Fishlock A Gift of Sunlight. Gomer 2014\r\nhttps://museum.wales/articles/2007-07-29/The-Davies-Sisters-during-the-First-World-War/
Cyfeirnod: WaW0334