Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl galwedigaeth
Emily Frost Phipps
Man geni: Devonport
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd, bargyfreithwraig
Marwolaeth: 1943, Heart disease / Clefyd y galon
Nodiadau: Ganed Emily Phipps yn Nhachwedd 1865 yn ferch i of copr yn y dociau. Gweithiodd ei ffordd i fyny o fod yn ddisgybl-athrawes i fod yn Brifathrawes Ysgol y Merched Bwrdeistref Abertawe yn 1895. Roedd yn feminydd weithredol, a chyda ei phartner, Clara Neal (a thair arall, gan aros dros nos mewn ogof ar lan y môr), boicotiodd gyfrifiad 1911. Bu’n Llywydd Undeb ar gyfer athrawesau benywaidd yn 1915, 1916 a 1917, a hi oedd yn golygu cylchgrawn yr Undeb. Hyrwyddodd yrfaoedd proffesiynol i ferched, gan synnu llawer o bobl trwy awgrymu ym Mawrth 1914 y gallent fod yn ddeintyddion. Safodd Emily Phipps yn Aelod Seneddol ar gyfer Chelsea yn etholiad 1918, yn un o ddim ond dwy fenyw o Gymru a wnaeth hynny. Yn ddiweddarach astudiodd i fod yn fargyfreithwraig, a dyrchafwyd hi i’r bar yn 1925.
Ffynonellau: https://en.wikipedia.org/wiki/Emily_Frost_Phipps
Cyfeirnod: WaW0247
Pennawd papur newydd
Pennawd i adroddiad o araith Emily Phipps yn Seremoni Wobrwyo Ysgolion Eilradd Bwrdeistref Abertawe, 20fed Mawrth 1914. Cambrian Daily Leader 21ain Mawrth 1914.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar ganlyniadau ymgeiswyr benywaidd yn Etholiad Cyffredinol 1918. Cambrian News and Merionethshire Standard 3ydd Ionawr 1919.rn
(Florence) Rose Davies (née Rees)
Man geni: Aberdâr
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd, pwyllgorwraig, Cynghorydd
Nodiadau: Athrawes y bu’n rhaid iddi adael ei swydd pan briododd. Daeth Rose yn Ysgrifennydd Urdd Gydweithredol y Menywod, Aberdâr, a chafodd ei chyfethol ar bwyllgor addysg Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr, a dod yn Gadeirydd arno. Bu’n gwasanaethu hefyd ar y tribiwnlys milwrol lleol, ac yn 1918 hi oedd y fenyw gyntaf i gadeirio Cyngor Llafur a Masnach Aberdâr. Methodd â chael ei hethol yn Gynghorydd Dosbarth yn 1919 ond llwyddodd yn 1920. Parhaodd yn actifydd dros Lafur tan ei marwolaeth.
Cyfeirnod: WaW0238
Mrs Rose Davies
Y Cynghorydd Rose Davies yn agor labordy peirianyddol lofaol ynghlwm ag Ysgol Sir y Bechgyn Aberdâr, 1922rn
Adroddiad papur newydd
Adroddiad Cyngor Llafur a Masnach Aberdâr yn cefnogi’r Cyngor Cenedlaethol dros Hawliau Sifil, Aberdare Leader 15fed Chwechfror 1919
Nora Tempest (Soutter)
Man geni: Dundalk, Iwerddon
Gwasanaeth: Athrawes, cogydd , VAD, 1915 - 1916
Nodiadau: Ganwyd Nora Tempest yn 1886 a bu’n athrawes gwyddor tŷ boblogaidd yn Ysgol Sirol y Merched Caerfyrddin / Carmarthen County Girls School. Ymunodd ag ysbytai Menywod yr Alban i wasanaethu yn gogydd yn Ysbyty Kragujevac. Cafodd ei dal yn y gwrthgiliad mawr wedi i Austria oresgyn Serbia, a bu’n cerdded am saith wythnos trwy fynyddoedd Montenegro ac Albania yn y gaeaf. Cyrhaeddodd adre ar Noswyl Nadolig, 1915. Dywedir iddi dynnu llawer o luniau o’r gwrthgiliad. Ar ôl dychwelyd priododd ac ymsefydlu yn ôl yn Iwerddon
Cyfeirnod: WaW0275
Adroddiad papur newydd
Adroddiad byr am brofiadau Nora o’r gwrthgiliad o Serbia. Carmarthen Weekly Reporter 21ain Ionawr 1916
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymweliad Nora yn ôl i’r Carmarthen County Girls School. Carmarthen Journal 9fed Mehefin 1916.
Marie Beckers
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Athrawes, ffoadures
Nodiadau: Roedd Marie Becker yn un o’r ffoaduriaid o Wlad Belg a letyai yn Nhreffynnon, ac ymddengys mai hi oedd llefarydd y grŵp. Adroddwyd am ei phenodi i ddysgu plant o Wlad Belg gyn Ysgol Sir Treffynnon yn y wasg Gymreig a Saesneg.
Cyfeirnod: WaW0399
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Flintshire Observer 21ain Ionawr 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am benodiad Marie Becker yn Ysgol Sir Treffynnon. Y Brython Ionawr 21ain, 1915.
Alice A White
Man geni: Pontardulais
Gwasanaeth: Athrawes, Penswyddog , VAD, 1916/09/01 – 1919/05/10
Nodiadau: Roedd Alice White yn brifathrawes Ysgol y Babanod Wood Green, Caerdydd. Roedd hi’n Benswyddog Ysbyty Atodol Samuel House Caerdydd hefyd a derbyniodd y Groes Goch Frenhinol am ei gwasanaeth ym mis Awst 1919.
Cyfeirnod: WaW0469
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Alice White â’r Groes Goch Frenhinol Cambria Daily Leader 7 Ebrill 1919
Ysgol y Babanod Wood Street
Llun o ddisgyblion Ysgol y Babanod Wood Street, 1925. Roedd Wood Street, a elwid yn Dref Dirwest hefyd, yn ardal boblog iawn ger Gorsaf Caerdydd.
Janet Gulliver
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Athrawes, plisemones gweirfoddolwragedd, Swansea Women’s Patrols, February / Chwefror 1916-1917
Nodiadau: Roedd Janet Gulliver yn athrawes fathemateg a addysgwyd yng Ngholeg Somerville, Rhydychen. Ymunodd â Phatrol y Menywod yn Abertawe yn gynnar yn 1916. Efallai mai hi oedd y Janet Gulliver a anafodd ei choes wrth gwympo oddi ar wal ym mis Mai 1917.
Ffynonellau: https://blogs.some.ox.ac.uk/thegreatwar/2016/02/03/february-1916-women-patrols-moral-guardians-and-prototype-police/
Cyfeirnod: WaW0447
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Janet Gulliver yn anafu ei choes. Cambria Daily Leader 28ain Mai 1917.
Fannie Thomas
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Athrawes, Swffragét, Cynghorydd
Nodiadau: Ganwyd hi yn 1868, yn un o chwech o blant i gyfrifydd gyda’r National Provincial Bank. Roedd Fannie Thomas yn athrawes, swffragét ac o 1895 ymlaen yn Brifathrawes gyntaf ysgol y Babanod ac ar ôl 1908 Ysgol y Merched Ffaldau, Pontycymer, lle bu am 35 mlynedd. Deilliodd ei diddordeb mewn rhyddfreinio menywod o ymaelodi gyda’r National Union of Teachers a oedd yn brwydro am dâl cyfartal ag athrawon gwrywaidd. Yn 1906 roedd yn un o sylfaenwyr y National Union of Women Teachers, a bu’n Llywydd arno yn 1912. Gwahoddodd Adela Pankhurst i siarad am ryddfreinio menywod ym Mhontycymer (i godi arian i’r NSPCC) yn Ebrill 1907, a bu hithau’n annerch mewn sawl digwyddiad hefyd. Disgrifiodd y Glamorgan Gazette hi fel ‘rhyfelwraig ddewr dros achos menywod’. Roedd hi’n rhan o’r fintai Gymreig yng Ngorymdaith Goroni’r Menywod yn 1911. Trwy ei gwaith roedd yn ymwybodol iawn o dlodi’r ardal, ac ym mis Tachwedd 1914 safodd yn aflwyddiannus ar gyfer Bwrdd y Gwarcheidwaid (trechwyd hi gan fenyw arall, Mrs Edmund Evans, o 32 pleidlais). Fodd bynnag safodd Fannie yn llwyddiannus fel ymgeisydd Llafur ar gyfer Cyngor Dosbarth Trefol Ogwr a Garw yn 1919. Dwedir mai Fannie Thomas oedd y fenyw gyntaf i wisgo britsh pen-glin (ei llysenw’n lleol oedd Fanny Bloomers) ac mai hi oedd y gyntaf i reidio beic-modur. Gyda llawer o ddiolch i Ryland Wallace
Ffynonellau: Ryland Wallace :‘A doughty warrior in the women’s cause’. Llafur 2018 volume 12 number 3
Cyfeirnod: WaW0460
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am anerchiad Adela Pankhurst ar ran yr NSPCC a drefnwyd gan Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 19 Ebrill 1907
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ddadl am ryddfreinio menywod yn Institiwt Ffaldau; cyflwynodd Fannie Thomas y cynnig a ddylai menywod gael y bleidlais. Glamorgan Gazette 22 Ionawr 1909
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y gystadleuaeth am sedd ar Fwrdd y Gwarcheidwaid. Collodd Fannie Thomas. Glamorgan Gazette 13 Tachwedd 1914.
Adroddiad papur newydd
Sylw ar ethol Miss F M Thomas i Gyngor Dosbarth Trefol Aberogwr a Garw. Glamorgan Gazette 11 Ebrill 1919
Gorymdaith Goroni’r Menywod
Fannie Thomas ail o’r dde, yn cario basged. Gwelir Rachel Barrett ar y chwith eithaf hefyd. Gorymdaith Goroni’r Menywod Mehefin 1911
Ysgol y Merched Ffaldau
Merched ac athrawon Ysgol y Merched Ffaldau 1925. Fannie Thomas yw’r ail ar y dde.
Charlotte Price White (née Bell)
Man geni: yr Alban
Gwasanaeth: Athrawes, Swffragydd, cynghorydd
Marwolaeth: 1932, Bangor, Achos anhysbys
Nodiadau: rnYn gyn athrawes a oedd wedi astudio gwyddoniaeth yng ngholeg Prifysgol, Bangor roedd Charlotte yn Aelod sylfaenol o Gymdeithas Swffragyddion Benywaidd Bangor, ac yn un o ddim ond dwy fenyw o Ogledd Cymru ( y llall oedd Mildred Spences o Fae Colwyn) a gerddodd yn holl ffordd ar Bererindod Mawr yr NUWSS i Lundain yn 1913. Yn ystod y rhyfel roedd yn weithgar iawn dros bob math o waith cefnogol, yn codi araina i Uned Ysbyty’r Cymraesau yn Serbia, y Patriotic Guild War Savings, y National Union of Women Workers, Sefydliad y Merched a llawer o rai eraill. Yn 111926 hi oedd Aelod benywaidd cyntaf Cyngor Sir Gaernarfon ac roedd yn weithgar iawn dros Gynghrair Ryngwladol dors Heddwch a Rhyddid.
Cyfeirnod: WaW0410
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar waith Pwyllgor Cymorth Meddygol Bangor, yr oedd CHarlote yn Ysgrifenyddes Anrhydeddus iddo. North Wales Chronicle 18 Rhagfyrd 1914.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar gyfarfod o Bwyllgor Cynilion y Rhyfel. North Wales Chronicle 19th October 1917
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad ar godi arian ar gyfer Uned Ysbyty Menywod Gogledd Cymru yn Serbia. Roedd Charlotte yn Ysgrifenyddes Anrhydeddus (unwaith eto) ohono. North Wales Chronicle 23 Ebrill 1915
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar yr anaswterau a gododd rhwng Sefydliadau’r Merched a. Bwrdd Anaeth. Cadeiriodd Charlotte Price Whire y cyfarfod. North Wales Chronicle 21 Rhagfyr 1917.
Elizabeth Phillips Hughes
Man geni: Caerfyddin
Gwasanaeth: Athrawes, teithiwraig, penswyddog, VAD, 1814 - 1919
Marwolaeth: 1925/12/19, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Elizabeth Phillips Hughes yn 63 pan dorrodd y Rhyfel allan. Roedd hi wedi cael gyrfa nodedig. Roedd hi’n un o fyfyrwyr cynnar Coleg Newham, Caergrawnt, a sefydlodd hi y coleg hyfforddi athrawon cyntaf yng Nghaergrawnt yn 1885 yn ddiweddarach. Teithiodd ar draws UDA i astudio diwygio carcharau, ac yna i Siapan fel darlithydd ar ymweliad yn Saesneg ym Mhrifysgol Tokyo (1901-02). Roedd hi’n hoff o ddringo mynyddoedd a dringodd y Matterhorn pan oedd yn 48 oed. Wedi dychwelyd i Gymru hi oedd y fenyw gyntaf ar y pwyllgor i ysgrifennu siarter cyntaf Prifysgol Cymru. Roedd yn Aelod ac yn drefnydd gyda’r Groes Goch Brydeinig cyn y Rhyfel a daeth yn Bennaeth Ysbyty y Groes Goch Dock View yn y Barri. Yn 1917 Elizabeth Hughes oedd y fenyw gyntaf i dderbyn yr MBE newydd yng Nghymru. Mae Neuadd Hughes, Caergrawnt, yn coffáu ei henw.
Cyfeirnod: WaW0439
Cerdyn cofnod yr Groes Goch [cefn]
Cofnod y Groes Goch ar gyfer Elizabeth Phillips Hughes gyda manylion wedi eu teipio am ei gwasanaeth gyda’r Groes Goch.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf adroddiad hir yn cofnodi gwobrwyo Elizabeth Phillips Hughes a’r MBE ac adroddiad hir am ei llwyddiannau. Barry Dock News 31 Awst 1917 [1]
Adroddiad papur newydd
Rhan adroddiad hir yn cofnodi i Elizabeth Phillips Hughes dderbyn yr MBE, gydag adroddiad hir am ei llwyddiannau. Barry Dock News 31 Awst 1917 [2]
Adroddiad papur newydd
Rhan adroddiad hir yn cofnodi i Elizabeth Phillips Hughes dderbyn yr MBE, gydag adroddiad hir am ei llwyddiannau. Barry Dock News 31 Awst 1917 [3]
Adroddiad papur newydd
Rhan adroddiad hir yn cofnodi i Elizabeth Phillips Hughes dderbyn yr MBE, gydag adroddiad hir am ei llwyddiannau. Barry Dock News 31 Awst 1917 [4]
Adroddiad papur newydd
Rhan terfynol adroddiad hir yn cofnodi i Elizabeth Phillips Hughes dderbyn yr MBE, gydag adroddiad hir am ei llwyddiannau. Barry Dock News 31 Awst 1917 [5]
Margaret Sara Meggitt (née ?)
Man geni: Grantham
Gwasanaeth: Athrawes, undebwraig lafur
Nodiadau: Symudodd Margaret Meggitt i Gasnewydd yn 1906 gyda’i gŵr. Cyn hynny roeddent wedi byw ym Mansfield, lle bu’n ymwneud â’r mudiad rhyddfreinio menywod. Ymunodd â’r Blaid Lafur yn 1913, a ffurfio Cangen Casnewydd o Ffederasiwn Genedlaethol y Gweithwragedd, a gwasanaethodd yn ysgrifenyddes iddi am bedair blynedd. Hi oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor Llafur a Masnach Casnewydd ac roedd yn asesydd ar dribiwnlys ffatrioedd arfau rhyfel Casnewydd yn Sir Fynwy, gyda phwyslais arbennig ar amodau gwaith merched a menywod. At hyn roedd ar bwyllgor gwaith Pwyllgor Sir Fynwy o Gyngor Cenedlaethol y Fam Ddibriod a’i Phlentyn, a chefnogodd yr apêl i amddiffyn Gladys May Snell [qv].
Ffynonellau: Who’s Who in Newport 1920
Cyfeirnod: WaW0363
Bathodyn NFWW
Bathodyn y National Federation of Women Workers o Sir Fynwy mae’n bosibl. Diolch i Pete Strong.