Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Edith Carbis
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Negesydd, Girl Guides / Geidiau
Nodiadau: Ymddangosodd ffotograff Edith Carbis yn y 'Roath Road Roamer’, Ionawr 1915. Ymddengys ei bod wedi gadael yr ysgol, ac yn gweithio fel negesydd i’r Arglwydd Faeres.
Cyfeirnod: WaW0094
Alice Lidster
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Gorsaf-feistres, Great Western and Rhymney Railway
Nodiadau: Penodwyd Alice, a oedd yn ferch i Brif Arolygydd gyda’r GWR, yn ‘orsaf-feistres’ Arosfa Troedyrhiw yn Ebrill 1915, y penodiad cyntaf o’i fath, mae’n debyg, yng Nghymru. Ymddengys ei bod yn nyrs wedi ei hyfforddi.
Ffynonellau: httpsfriendsofsaron.wordpress.comtagtroedyrhiw-halt
Cyfeirnod: WaW0342
Adriddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Alice Lidster yn ‘orsaf-feistres’ Cambria Daily Leader 20fed Ebrill 1915
Aroddiad papur newydd
Adroddiad am benodi Alice Lidster yn ‘orsaf-feistres’. Pioneer 24ain Ebrill 1915
Lizzie Veal
Man geni: Caerdydd
Gwasanaeth: Gweithwraig rheilffordd, GWR
Nodiadau: Roedd gan Lizzie Veal gysylltiad ag Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Roath Road, Caerdydd. Mae’r Roath Road Roamer, a argreffid yn fisol o Dachwedd 1914 ymlaen yn cynnwys gwybodaeth am fenywod yn ogystal â dynion oedd yn gwasanaethu yn y rhyfel. Roedd Lizzie yn un o’r ‘Road Roamers’, yn ôl rhifyn Ebrill 1919. Ar y pryd roedd hi’n un o’r dros 1000 o fenywod a gyflogid gan y GWR yn borteriaid a chasglwyr tocynnau. Y ddelwedd a’r wybodaeth trwy garedigrwydd Archifau Morgannwg (DWESA6)
Ffynonellau: https://archifaumorgannwg.wordpress.com/
Cyfeirnod: WaW0109
Lizzie Veal, Gweithwraig ar y Rheilffyrdd
Roedd Lizzie Veal yn gweithio ar y Great Western Railway. Efallai ei bod yn borter neu yn glerc tocynnau.
Gertrude Morgan
Man geni: Pen-y-bont ar Ogwr?
Gwasanaeth: Tocynwraig , GWR
Nodiadau: Roedd Gertrude yn docynwraig yng ngorsaf reilffordd Pen-y-bont ar Ogwr, ond ymosodwyd arni gan Lewis Davies, gan ei chicio y neu chlun. Roedd a glowr arall wedi cieiso teithio heb docyn. Yn ôl y nad roedd llawer gormod o’r fath hwliganiaeth hyn ym MHen-y-bont a dirwywyd Davies £2.
Cyfeirnod: WaW0458
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y ffrwgwd yng Ngorsaf Reilffordd Pen-y-bont. Glamorgan Gazette 13 Medi 1918
Beatrice [B] Picton Turbervill (Picton Warlow)
Man geni: Fownhope, Swydd Henffordd
Gwasanaeth: Gweithwraig dros Ddirwest a Lles, warden hostel gweithwragedd ffatrïoedd arfau rhyfel, H M Factories, before/cyn 1916 - 1918
Marwolaeth: 1958, Achos anhysbys
Cofeb: Priordy Ewenny, Ewenny, Bro Morgannwg
Nodiadau: Roedd Beatrice yn efeilles i Edith Turbervill [qv]. Yn ferch ifanc cadwodd ei chyfenw gwreiddiol Picton-Warlow; newidiodd ei thad yr enw pan etifeddodd Briordy Ewenni yn 1891. Cyn y Rhyfel roedd yn frwd dros hyrwyddo achos Dirwest a hi oedd Cadeirydd cangen Caerdydd o Gymdeithas Ddirwest Menywod Prydain. Yn 1916 penodwyd hi yn bennaeth un o hosteli gweithwragedd y ffatrïoedd arfau rhyfel yn Woolwich. Flwyddyn yn ddiweddarach symudodd i Coventry yn Warden yr Housing Colony for Women Munitions Workers, sefydliad mawr â staff o 200, â rhai gweithwyr ifanc anystywallt iawn. ‘Roedd y gweithwyr Gwyddelig- Cymreig … yn taflu bwyd a tsieina ac eitemau o ddodrefn bwrdd at y gweinyddesau, at ei gilydd, a thrwy’r ffenestri’. Fodd bynnag llwyddodd y Gymraes Miss Picton Turbervill a’i chydweithwraig y Wyddeles, Miss MacNaughton i gael trefn ar bethau. Ar ddiwedd y Rhyfel bu ar daith ddarlithio yn UDA, yn siarad am Waith Lles ym Mhrydain. Am sawl blwyddyn wedi’r rhyfel bu’n ymwneud â gwaith Dr Barnardos.
Ffynonellau: Monthly Labor Review Volume 7 Issue 6 [US]
Cyfeirnod: WaW0443
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am Gyfarfod Blynyddol cangen Caerdydd o Gymdeithas Ddirwest Menywod Prydain gyda Beatrice Picton Warlow yn y gadair. Evening Express 18 Ionawr 1901.
Monthly Labor Review
Adroddiad ar waith Beatrice Picton Turbervill (a’i chydweithwraig Miss MacNaughton) a ymddangosodd yn y cylchgrawn Americanaidd Monthly Labor Review.
Mabel Sybil (May) Leslie (Burr)
Man geni: Woodlesford, Leeds
Gwasanaeth: Gwyddonydd, Cemegwraig, HM Factory Penrhyndeudraeth, 1915 - 1918
Marwolaeth: 1937/07/03, Cancer / canser
Nodiadau: Notes [Cy] Ganwyd May Leslie yn 1887, yn ferch i lowr. Roedd gan ei thad ddiddordeb mawr mewn addysg a hunan-les ar ei gyfer ei hun a’i blant. Enillodd May ysgoloriaeth i’r Ysgol uwchradd ac i Brifysgol Leeds lle enillodd radd ddosbarth cyntaf mewn Cemeg yn 1908, ac yna cafodd ysgoloriaeth dair blynedd i astudio gyda Marie Curie ym Mharis. Yn 1914 cafodd swydd darlithydd cynorthwyol yng Ngholeg Prifysgol Bangor ac yn 1915 galwyd arni i ddechrau gweithio yn Ffatri Ffrwydron Litherland. Dyrchafwyd hi yn Gemegydd a Gofal Labordy safle anarferol iawn i fenyw ac yna symudwyd hi i’r un rol yn Ffatri H M Penrhyndeurdraeth, yn gweithio gyda ffrwydron. Daeth y swydd hon i ben ar ddiwedd y rhyfel a dychwelodd i fywyd academaidd yn Lloegr.rnrn
Ffynonellau: https://newwoodlesford.xyz/schools/may-sybil-leslie/ Devotion to Their Science: Pioneer Women of Radioactivity, Rayner-Canham Marelene and Geoffrey
Cyfeirnod: WaW0438
Mary Edith (Minnie) Jones
Man geni: Llanfrothen
Gwasanaeth: Arolygwraig Menywod , HM Factory Penrhyndeudraeth, 1916? - 1918
Marwolaeth: 1964, Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Minnie Jones yn chwaer i Bessie Jone [qv]. Cafodd ei phenodi yn Arolygwraig Menywod yn ffatri Arfau Rhyfel Penrhyndeudraeth, yn 1916 mae’n debyg pan ailagorodd ar ol ffrwydrad a chenedlaetholi. Yn Medi 1918 dangosodd Mrs Lloyd George o gwmpas y gweithfeydd pan ddaeth hi i agor YWCA newydd yn gysylltiedig a’r ffatri. Pan orffennwyd cynhyrchu ffrwydron yn Rhagfyr 1918 cyflwynwyd powlen arian i Minnie gan fenywod ffatri HM fel arwydd o’u hedmygedd ohoni a gwerthfawrogiad o’r holl garedigrwydd. Minnie oedd yn derbyn llythyrau Bessie Jones o Ffrainc. Yn ddiweddarach daeth yn Ynad Heddwch.
Cyfeirnod: WaW0441
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am ymweliad Mrs Lloyd George â Ffatri HM Penrhyndeudraeth. North Wales Chronicle 13 Medi 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am gyflwyno powlen arian i ‘Miss ME Jones, Supervisor’ North Wales Chronicle 13 Rhagfyr 1918
Violet Williams
Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Roedd Violet Williams, a Muriel Richards [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i ddinoethi dwy fenyw dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw dweud ffortiwn gyntaf, Eleanor Rees, wrth Violet fod dyn tywyll yn ei charu, a’i fod wedi ysgrifennu llawer o lythyron ati ond nad oedd hi wedi eu derbyn. Pan ofynnwyd iddi a oedd wedi ysgrifennu at ddyn, atebodd Violet ‘Ydw – dwi wedi ysgrifennu at fy mrawd sawl gwaith.’ Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi yr un bore. Dwedodd wrth Violet fod ‘dyn tywyll .. mewn swydd dda yn y Llywodraeth’ eisiau ei phriodi, ac y byddent yn cael deuddeg o blant yn cynnwys dwy set o efeilliaid! Cododd Mrs Evans 1/- am y sesiwn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a’u dirwyo 5/- yr un.
Cyfeirnod: WaW0446
Adroddiad papur newydd
Rhan o adroddiad y llys am achos llys dwy fenyw dweud ffortiwn; Roedd Violet Williams yn un o ddau dyst yr heddu. Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.
Sergeant [later Inspector] Guthrie
Gwasanaeth: Plismones, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Dechreuodd Sarsiant Guthrie weithio ym Mhen-bre yn Ebrill 1917. Roedd wedi bod yn gweithio i’r heddlu am beth amser. Yn ôl Gabrielle West [qv] ‘Mae Sarsiant Guthrie yn gwneud y lle hwn yn anghyfannedd. Mae hi’n berson rhyfedd iawn: gwallt wedi ei dorri’n grop fel dyn; corff byrdew a dim gwasg fel dyn, traed mawr fel dyn; a math o lais tenor fel dyn. Yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf, nid oedd merched yn fodlon cael eu harchwilio ganddi: roeddent yn dweud ei bod yn ddyn-dditectif, nid yn blismones o gwbl … Beth bynnag, mae hi’n helbulus ac ychydig yn ansad.’
Ffynonellau: ed Avalon Richards Menus Munitions and Keeping the Peace: The Home Front Diaries of Gabrielle West 1914 -1917. Pen & Sword 2016.
Cyfeirnod: WaW0444
Ministry of Munitions Women’s Police Service
Plismonesau mewn ffatri arfau rhyfel (nid Pen-bre) Efallai mai Sarsiant Guthrie sydd yn y rhes gefn, yn ail o’r dde.
Muriel Richards
Gwasanaeth: Plismones, nyrs gynt, Ministry of Munitions Women’s Police Service
Nodiadau: Roedd Muriel Richards, a Violet Williams [qv], yn rhan o ymgyrch ar 28ain Rhagfyr 1918 i iddinoethi dwy wraig dweud ffortiwn yn Nhanerdy, Abergwili. Dwedodd y fenyw gyntaf, Eleanor Rees, wrth Muriel y byddai’n priodi dyn ifanc hardd, ac y byddai ei theulu’n gwrthwynebu hynny. Talodd 6c. am y sesiwn. Mary Evans oedd yr ail fenyw dweud ffortiwn yr ymwelodd y ddwy blismones â hi ar yr un bore. Dwedodd wrth Muriel y byddai’n cwrdd â dyn tywyll iawn; byddent yn priodi ac yn cael wyth o blant. Cododd Mary Evans 1/- am hyn. Cafwyd y ddwy fenyw dweud ffortiwn yn euog a chawsant ddirwy o 5/-.
Cyfeirnod: WaW0445
Adroddiad papur newydd
Darn o adroddiad llys am achos llys y ddwy fenyw dweud ffortiwn. Roedd Muriel Richards yn un o ddau dyst yr heddlu Carmarthen Journal 10 Ionawr 1919.