Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Phyllis May Hughes, Lady (née Edisbury )
Man geni: Sir Ddinbych ?
Gwasanaeth: Penswyddog, pwyllgorwraig , Munitions, 1914 - 1918
Nodiadau: Deuai’r Arglwyddes Hughes o deulu yng ngogledd Cymru a phriododd Syr Thomas Hughes, gwleidydd yng Nghaerdydd. Yn ystod y Rhyfel roedd yn aelod o bwyllgor Corfflu Argyfwng y Menywod, Cymdeithas y Milwyr, y Llongwyr a’u Teuluoedd, Cymdeithas Nyrsio Ardal a sawl corff arall. Roedd hefyd yn Benswyddog Cantîn Arfau Rhyfel, Grangetown, Caerydd ac enillodd yr OBE am hyn yn 1918.
Cyfeirnod: WaW0330
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiannau Phyllis Hughes ar ddiwedd adroddiad am ddyrchafu ei gŵr yn farchog. Glamorgan Gazette 7fed Ionawr 1916
Annie Richards
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, NEF Pembrey
Nodiadau: Roedd Annie yn dysgu sut i ddadgydosodi sieliau gan Mary Thomas [qv] pan ymgwympodd Mary a bu farw wedi hynny. Cyflwynodd dystiolaeth yn y cwest. Cyfeiriad Anne oedd The Girls Club, Heol Alexandra, Abertawe, hostel ar gyfer menywod oedd yn gweithio.
Cyfeirnod: WaW0300
Mary Elizabeth Thomas (née ?)
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel, NEF Pembrey, 1917 - 1918
Marwolaeth: 1918/12/16, Ffatri Bowdwr Pen-bre , Pulmonary oedema / Oedema ysgyfeiniol
Nodiadau: Roedd Mary, 33 oed, wedi bod yn gweithio ym Mhen-bre am tua blwyddyn. Ar 16eg Rhagfyr roedd wrthi’n dangos proses – sut i ddadgydosod sieliau, i gydweithwraig. Yn sydyn ymgwympodd a bu farw yn fuan wedyn. Yn ôl ei gŵr roedd wedi dioddef pennau tost difrifol ers 12 mis, er ei bod yn iach pan adawsai i fynd i’r gwaith y bore hwnnw.
Cyfeirnod: WaW0299
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am y cwest i farwolaeth Mary Thomas, Llanelly Star 21ain Rhagfyr 1918.
Mabel Elsie Davies
Man geni: Fforest fach
Gwasanaeth: NEF Pembrey
Nodiadau: Merch hynaf Eliza [qv] a Huw Davies oedd Mabel. Roedd hi’n bedair ar ddeg oed pan fu farw ei thad, a dechreuodd weithio ym Mhen-bre. Pan ddarganfuwyd ei hoedran cafodd ei symud i weithio i’r cantîn.
Ffynonellau: People’s Collection Wales
Cyfeirnod: WaW0322
Eliza Davies (née Belton)
Man geni: Norfolk
Gwasanaeth: Goruchwylwraig, Gwneud Arfau Rhyfel , NEF Pembrey
Nodiadau: Er ei bod yn wreiddiol o Norfolk, roedd Eliza yn gwasanaethu yn Llanfair-ym-Muallt pan gwrddodd â’i gŵr, Huw Davies a symudon nhw i Fforest Fach. By Huw farw yn 1916 a dechreuodd Eliza weithio ym Mhen-bre, a’i dyrchafu’n oruchwylwraig. Yn 1920 enillodd yr MoBE am ei dewrder a’i hunanbwyll yn tynnu ffiws yn llosgi o focs o gydrannau ac felly osgoi yr hyn a allasai fod yn ffrwydrad difrifol iawn. Roedd ei merch hynaf Mabel Elsie [qv] yn gweithio ym Mhen-bre hefyd.
Ffynonellau: Peoples Collection Wales
Cyfeirnod: WaW0321
Eliza Davies a'r teilu
Eliza Davies a’i theulu, llun a dynnwyd yn 1916 mae’n debyg pan oeddent yn dal i alaru colli Huw.
Lythyr
Llythyr yn gwahodd Eliza Davies i dderbyn ei gwobr MoBE 23ain Medi 1920. Mrs Dorothy Jones 2018
Catherine Fraser
Man geni: Anhysbys
Gwasanaeth: Meddyg, NEF Pembrey / Pen-bre, June 1918 -
Nodiadau: Penodwyd Dr Catherine Fraser a fu cyn hynny yn swyddog meddygol cynorthwyol yn Bradford, yn swyddog meddygol Ffatri Ffrwydron Genedlaethol, Pen-bre ym Mehefin 1918.
Cyfeirnod: WaW0361
Adroddiad papur newydd
Erthygl yn cyfeirio at benodi Dr Fraser i weithio yn Ffatri Ffrwydron Pen-bre.
May McIndoe
Man geni: anhysbys
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn ffatri gwneud arfau rhyfel, NEF Pembrey / Pen-bre
Nodiadau: Daethpwyd â May McIndoe, 53 oed, gerbron y llys yn Awst 1918 am fod â thin wedi ei selio o faco yn ei meddiant i’w roi i ddyn. Gwrthodwyd yr achos, gan iddi gael ei dal yn mynd ag ef i’r ystafell fwyta, lle câi nwyddau o’r fath eu gadael. Roedd hyn o fewn y rheolau ynglŷn â deunyddiau ymfflamychol yn y ffatri gwneud arfau rhyfel.
Cyfeirnod: WaW0381
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am yr achos a fethodd yn erbyn May McIndoe. Cambrian Daily Leader 22ain Awst 1918
Nellie Prosser
Man geni: Govilon
Gwasanaeth: Prif oruchwylwraig, gweithwraig mewn ffatri arfau rhyfel, NFF Rotherwas
Nodiadau: Cyhuddwyd Nellie Prosser yn hydref 1919 o gael gafael ar £15.10s mewn tâl diweithdra yn anonest pan oedd hi yn gweithio fel morwyn i Mrs Solly-Flood [qv], gwraig adnabyddus yn y gymdeithas leol. Roedd wedi ei rhoi ar y clwt, gyda’r holl weithwyr eraill yn ffatri lenwi sieliau Rotherwas ar ddiwedd y rhyfel, ond wedi hawlio yng Nghyfnewidfa Waith y Fenni ei bod yn disgwyl i’r ffatri ailagor. Yn ôl Rheithor Gofilon, a oedd yn adnabod y teulu yn dda, roedd Nellie wedi ei dyrchafu’n brif oruchwylwraig y ffatri er ei bod yn dioddef o wenwyn TNT a ffitiau o’r herwydd. Roedd hefyd yn un o chwiorydd hŷn May Prosser [qv]. Dirwywyd Nellie Prosser i dalu £25, neu dri mis o lafur caled.
Cyfeirnod: WaW0382
Adroddiad papur newydd
Adroddiad o Lys Heddlu’r Fenni o achos yn erbyn Nellie Prosser. Abergavenny Chronicle 3ydd Hydref 1919.
Agnes Hughes (Dennis)
Man geni: Abercynon ?
Gwasanaeth: Athrawes, actifydd , No Conscription Fellowship
Nodiadau: Daeth Agnes Hughes a’i theulu yn ffrindiau â Keir Hardie, AS y Blaid Lafur Annibynnol dros Ferthyr Tydfil. Priododd ei brawd Emrys, a ddaeth yn AS ei hun yn ddiweddarach, ferch Hardie. Roedd y teulu’n heddychwyr, ac roedd Agnes yn aelod o’r No Conscription Fellowship. Ar ôl i Emrys gael ei arestio am fod yn Wrthwynebydd Cydwybodol cyhoeddodd hi adroddiad am ei brofiadau ym mhapur newydd y Pioneer. Roedd hi’n aelod blaenllaw o gangen leol y NCF a oedd yn grŵp cymdeithasol yn ogystal ag yn un gwleidyddol. Yn ddiweddarach priododd Hedley Dennis.
Cyfeirnod: WaW0239
A M Davies
Man geni: Llanharan
Gwasanaeth: Nyrs, Not known / anhysbys, 1915 - 1918 ?
Nodiadau: Treuliodd Miss Davies, a oedd yn nyrs broffesiynol, 18 mis yn gynnar yn y rhyfel yn Ysbyty’r Arglwyddes Hadfield yn Wimereux, Ffrainc (yn ddiweddarach Ysbyty Rhif 5 y Groes Goch Brydeinig). Yna gweithiodd yn yr Ysbyty Gymreig yn Netley. Gwobrwywyd hi â’r Groes Goch Brydeinig yn Ionawr 1918.
Cyfeirnod: WaW0393
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am wobrwyo Nyrs A M Davies â’r Groes Goch Brydeinig. Glamorgan Gazette 18 Ionawr 1918