Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Gertrude Madley
Man geni: Llanelli, 1892
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, September 1916 - May 1920
Nodiadau: Roedd Gertrude Madley yn ferch i rolerwr yn y gwaith tun, a gweithiai yn y gwaith hwnnw cyn hyfforddi’n nyrs yn Abertawe yn 1913. Ymunodd â Gwasanaeth (wrth gefn) Nyrsio Milwrol Ymerodrol y Frenhines Alexandra yn nyrs staff ym mis Medi 1916. Yn ddim ond tair ar hugain oed roedd ymhlith y nyrsys ieuengaf i wasanaethu gyda’r Adfyddin yn ystod y Rhyfel Mawr. Gwasanaethodd ym Malta i ddechrau ac yna yn Ffrainc, 1918 – 1920.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2014/09/from-small-acorns-mighty-oaks-grow.html
Cyfeirnod: WaW0098
Alice Meldrum
Man geni: Trefor, Llangollen, 1880
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, 1914 - 1920
Nodiadau: Goroesodd Alice Meldrum pan suddodd Llong Ysbyty HMHS Anglia ar 17eg Tachwedd 1915. Roedd y llong yn cario dynion clwyfedig o Boulogne i Folkestone pan drawodd ffrwydryn. Yn ei hadroddiad disgrifia Alice sut y carion nhw gymaint â phosibl i fyny ar y dec, a sut y taflodd y rhai oedd yn gallu eu hunain i’r môr. Gostyngwyd eraill i fad achub, ond yn anffodus dim ond un bad y llwyddwyd i’w ostwng gan fod y llong yn suddo mor gyflym. Cadwodd y cleifion eu pennau’n rhyfeddol, meddai. Doedd dim panig o gwbl, a phan gofir eu bod yn dioddef o aelodau wedi’u torri, clwyfau difrifol a thrychiadau ym mhob achos bron, mae’n destament i’w gwir ysbryd, eu gwroldeb a’u dewrder, oherwydd mae’n rhaid eu bod yn dioddef poenau arteithiol. Pan oedd y criw yn hollol fodlon nad oedd yn bosibl o gwbl i gael rhagor o gleifion allan, oherwydd erbyn hyn roedd trwyn y llong wedi mynd dan y d?r, a dim ond y starn uwchben y d?r, gyda’r propelorau yn troi’n gyflym tu hwnt ac yn ein dallu ag ewyn, yna aethant i lawr ar y llyw a neidio i’r môr. Achubwyd tri chant o’r clwyfedig a’r criw gan longau’r llynges a llongau eraill a oedd yn yr ardal. Disgrifia Alice ochr ddoniol y sefyllfa hefyd, oherwydd bydden nhw wedi edrych yn rhyfedd iawn yn y dilladach gwahanol a gawsent gan swyddogion a dynion y llongau distryw, a wnaeth bopeth y gallent i ofalu amdanynt. Pwysleisia nad yw 40 munud yn y d?r yn Nhachwedd y math o ymdrochi y byddai llawer yn dewis ei wneud. Ar ôl pryd da o fwyd ar y Trên Ambiwlans, cyn pen dim roeddent ar eu ffordd i Lundain. Enillodd Alice Meldrum y Groes Goch Frenhinol ac ysgrifennodd adroddiad byr am ei phrofiadau. Treuliodd weddill y Rhyfel yn gweithio mewn ysbytai maes yn Ffrainc.
Ffynonellau: http://greatwarnurses.blogspot.co.uk/2009/11/sinking-of-hospital-ship-anglia.html
Cyfeirnod: WaW0101
Margaret Dorothy Roberts
Man geni: Dolgellau
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNS Reserve / Wrth gefn, 29/09/1915 - 31/12/1917
Marwolaeth: 1917-12-31, SS Osmanieh, Drowning
Cofeb: Cofeb y Nyrsys, Llanelwy, Sir y Fflint
Nodiadau: 47 0ed. Suddwyd HMS Osmanieh gan ffrwydryn Almaenig ger Alexandria, yr Aifft. Mae ei bedd yng Nghladdfa Goffáu'r Rhyfel Hadra Alexandria, Yr Aifft
Ffynonellau: http://www.flintshirewarmemorials.com/memorials/st-asaph-memorial/st-asaph-cathedral-welsh-nurses-ww1/roberts-margaret-dorothy/; http://emhs.org.au/person/roberts/margaret_dorothy
Cyfeirnod: WaW0051
Mary R Jones
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNS reserve / Wrth gefn yn y QAIMNS
Nodiadau: Gwelir enw Mary yn rhif 21 ar Restr Anrhydedd y rhai a wasaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain. Mae’n rhaid ei bod yn nyrs wedi ei hyfforddi yn gweithio yn Llundain, ond nid oes unrhyw wybodaeth arall amdani.
Cyfeirnod: WaW0199
Rhestr Anrhydedd
Rhestr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Enw Mary Jones ar Restr Anrhydedd
Enw Mary R Jones ar Restr Anrhydedd y rhai fu’n gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Capel Cymraeg Kings Cross, Llundain
Margaret Ann (Peggy) Lyons
Man geni: Tregaron
Gwasanaeth: Nyrs staff, QAIMNSR, 1915 - 1919
Nodiadau: Ganwyd Peggy Lyons yn Nhregaron yn 1875. Hyfforddodd yn Ysbyty Caerfyrddin ac yn 1900 symudodd i Lundain lle bu’n gweithio mewn dau ysbyty, gyda chleifion preifat. Ymgeisiodd i ymuno â’r QAIMNS yn Ionawr 1915, a gwasanaethodd mewn ysbyty milwrol Prydeinig am 18 mis. Ym Mehefin 1916 cafodd ei hanfon trwy Bombay i Fesopotamia lle y bu nes iddi gael ei hanfon adre yn wael ac yn dioddef o falaria ym Medi 1919. Ar ôl derbyn triniaeth cafodd ei dadfyddino gyda geirda ardderchog ar 29ain Medi 1919. Efallai iddi symud wedyn i weithio yn Ne’r Affrig. Enillodd Peggy y Groes Goch Frenhinol ym Mehefin 1916. Gweithiai ei chwaer Kate Phyllis Davies [gweler] yn chwaer yn ysbyty Croes Goch Aberystwyth.
Ffynonellau: National Archives WO 399_5063
Cyfeirnod: WaW0280
Adroddiad papur newydd a llun
Ffotograff ac adroddiad am Peggy Lyons yn derbyn y Groes Goch Frenhinol. Cambrian News 23ain Mehefin 1916.
Adroddiad papur newydd
Rhan gyntaf llythyr Peggy Lyons adre o Fesopotamia, ac a gyhoeddwyd yn y Cambrian News 24ain Awst, 1917.
Gladys Paynter-Williamson
Man geni: Margam
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914/08/05 - 1919/ 08/24
Marwolaeth: 1936, Carcinoma
Nodiadau: Hyfforddodd Gladys yn nyrs yn Ysbyty’r Santes Fair, Paddington. Roedd ei thad yn ficer Margam. Fel nyrs wrth gefn cafodd ei galw i fyny yn Awst 1914. Ar y dechrau gwasanaethai mewn ysbtytai rhyfel yn Lloegr, ond yn 1917 cafodd ei hanfon i ffrainc (Etaples) ac ar ôl y Cadoediad i Bonn yn yr Almane. Enillodd y Groes Goch Frenhinol yn Chwefror 1917. Ymddengys ei bod yn berson unig, a bu’n rhaid iddi ofyn am gymorth ariannol pan ddatblygodd hi gancr yn 1934. Ar ei marwolaeth cofnodir ‘Nid yw’n ymddangos fod gan Miss Paynter-Williamson berthnasau yr oedd yn cadw mewn cysylltiad â nhw.’
Cyfeirnod: WaW0401
Adroddiad papur newydd
Adroddiad ar wobrwyo Gladys Paynter-Williamson â’r GRoes Goch Frenhinol. Cambria Daily Leader 11eg Ebrill 1917.
Adroddiad Meddygol
Llythyr meddyg yn dweud bod Gladys Paynter-Williamson yn ffit i wasanaethu tramor. 27ain Gorfennaf 1917.
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917
Esther Isaac
Man geni: Aberpennar
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1914 - 1920
Nodiadau: Ganwyd Esther yn 1884 a hyfforddodd yn Ysbyty Cyffredinol a Llygaid Abertawe. Ymunodd â nyrsys wrth gefn y QA yn 1914, ac yn 1915 anfonwyd hi i Ysbyty Milwrol Caergrawnt, pryd yr enillodd y Groes Goch Frenhinol. Ym mis Mawrth 1917 anfonwyd hi i Bombay am 15 mis, yna ei throsglwyddo i Ysbyty Neilltuo Baghdad, lle cafodd ei dyrchafu’n Chwaer. Ar ôl y rhyfel gwasanaethodd am sawl blwyddyn yn Fetron yn Ysbyty Llwynypïa. Parhaodd Esther ar restr wrth gefn y QAIMNS tan 1937
Cyfeirnod: WaW0485
Esther Isaac
Llun papur newydd o Esther Isaac yn gwisgo ei Chroes Goch Frenhinol. Aberdare Leader 24 Mehefin 1916.
Ffurflen y Fyddin B103
‘Ffurflen Ddamweiniau’ yn rhestru gwasanaeth Esther Isaac gartref a thramor
Rhestr Anrhydedd
Enw ‘Nurse Esther Isaac India’ ar restr anrhydedd Capel yr Annibynwyr, Stryd Henrietta, Abertawe.
Caroline Maud Edwards
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Prif Nyrs, QARNNS
Marwolaeth: 1915/12/30, Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Cofeb Forol Chatham, Chatham, Caint
Nodiadau: Roedd y Chwaer Edwards yn gwasanaethu ar HMHS Drina, ond ar ymweliad â HMS Natal gydag eraill i weld ffilm Nadolig. Bu farw gydag o leiaf 400 o bobl eraill mewn ffrwydrad diesboniad.
Ffynonellau: http://www.northern-times.co.uk/Opinion/Stones-Throw/The-little-known-tragedy-of-HMS-Natal-07112012.htm
Cyfeirnod: WaW0091
Mildred Lloyd Hughes
Man geni: Llanbedr Pont Steffan
Gwasanaeth: Nyrs, QARNNS
Marwolaeth: 1962, Cilgwri , Achos anhysbys
Nodiadau: Roedd Mildred Hughes yn nyrs broffesiynol, a anwyd yn 1879. Roedd hi’n chwaer gyda’r QARNNS yn 1911, ac ar ddechrau’r Rhyfel roedd yn Chwaer Arolygydd yn Ysbyty Morol Brenhinol, Gibraltar, a hynny ers 1912. Yn 1916 daeth yn Brif Chwaer (h.y. Metron) yn Ysbyty Morol Plymouth, ac oddi yno ysgrifennodd lythyr at rieni’r VAD Maggie Evans ar farwolaeth Maggie [qv]. Arhosodd yn Plymouth nes iddi gael ei phenodi yn bennaeth y QARNNS yn 1929. Ymddeolodd yn 1934. Derbyniodd y Groes Goch Frenhinol yn 1916, ac ail wobr yn 1919.
Ffynonellau: http://1914-1918.invisionzone.com/forums/index.php?/topic/158399-mildred-lloyd-hughes-qarnns/
Cyfeirnod: WaW0252
Datganiad
Y Brenin George V yn cyflwyno bar i’r Groes Goch Frenhinol rnBritish Journal of Nursing 6ed Rhagfyr 1919rn