Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl carfan
Mair Jenkins
Man geni: Abertawe
Gwasanaeth: Plentyn
Nodiadau: Ffotograff adeg pen-blwydd efallai o Mair, 7 neu 8 oed. Ganwyd hi ar 18fed Ebrill 1908, ac mae’n gwisgo ‘gwisg nyrs’ newydd sbon.
Cyfeirnod: WaW0125
C Lloyd
Man geni: Tonpentre
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Cofeb: Capel M C Jerusalem , Tonpentre, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Miss C Lloyd y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentre
Cyfeirnod: WaW0157
Restr Anrhydedd
Enw Miss C Lloyd, Restr Anrhydedd Capel Methodistiaid Calfinaidd Jerusalem, Tonpentrernrn
Mary Ellen Hopkins (Roderick)
Man geni: Aberteifi, 1886
Gwasanaeth: Arthrawes
Nodiadau: Hyfforddodd Mary yn athrawes yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe. Roedd yn byw yn Llanelli ac yn dysgu ym Mhorth tywyn tan iddi briodi John Aneurin Roderick yn 1916. Mae ei halbwm lofnodion fel myfyrwraig wedi goroesi, ac mae’n ddrych o’i ffrindiau.
Cyfeirnod: WaW0130
Elizabeth Humphreys
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Roedd tri mab Elizabeth Humphreys, Charles, George ac Owen, yn filwyr. Dim ond George oroesodd y Rhyfel. Gydag Elizabeth, yn hytrach na’i gŵr, y byddai Swyddfa’r Rhyfel yn cyfathrebu, a’i henw hi oedd ar ewyllysiau maes y gad ei mab.
Cyfeirnod: WaW0135
Elizabeth a George Humphreys
Elizabeth Humphreys gyda’i mab, y Gyrrwr George Humphreys (yr unig un o’i thri mab i oroesi’r rhyfel). 1915 neu 1916.
Llythyr swyddogol i Elizabeth Humphreys
Llythyr o Swyddfa’r Rhyfel at Elizabeth Humphreys yn cydnabod mai hi oedd ‘unig etifedd’ ei diweddar fab Charles
Ewyllys maes y gad G Humphreys (cefn)
Cefn ewyllys George Humphreys, yn dangos ei lofnod a’r dyddiad 1/8/15
Ewyllys maes y gad G Humphreys
Ewyllys gan George Humphreys yn gadael ei holl arian I’w fam Elizabeth Humphreys
Edith Phillips (Humphreys)
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Cariad
Nodiadau: Roedd Edith yn ffrindiau gyda’r teulu Humphreys (gweler Elizabeth Humphreys). Byddai Owen a George Humphreys yn ysgrifennu ati’n gyson, a rhoddodd Owen rosari a ddarganfu ar faes y gad iddi. Lladdwyd Owen yn Nhachwedd 1916. Priododd Edith George yn 1923.
Cyfeirnod: WaW0136
Edith (née Phillips) a George Humphreys
Ffotograff priodas o Edith (née Phillips) a George Humphreys gydag aelodau’r teulu. Mae hi’n eistedd ar y dde, gyda George yn sefyll y tu ôl iddi. 1923
Cerdyn post o faes y gad
Cerdyn post o faes y gad a anfonwyd at Edith Phillips gan Owen Humphreys, Medi 8fed 1916.
Augusta Devisch (née Dekien)
Man geni: Gwlad Belg
Gwasanaeth: Ffoadur, gwraig
Marwolaeth: 2il Chwefror 1916, ‘long and lingering illness’/ ’salwch hir a throfaus’
Nodiadau: Roedd Augusta, a aned tua 1895, ffoadur o Wlad Belg yn byw gyda’i gŵr Edward, dau lys-blentyn ac aelodau eraill y teulu yn Adeiladau Siloa, Aberdâr. Addolai’r gymuned yng Nghapel Siloa a ganiatái i’r Catholigion Belgaidd ddefnyddio’r adeilad.
Ffynonellau: Aberdare leader 12th February 1916
Cyfeirnod: WaW0137
Mary Anne James
Man geni: Llanelli?
Gwasanaeth: Mam
Nodiadau: Llythyr gan Mary Anne James (1876-1960) o Lanelli at ei mab Idwal yn nodi ei galar o golli ei mab Brynmor, gyrrwr gyda’r Peirianwyr Brenhinol ac a fu farw ar 16eg Mawrth 1917. Yn drasig lladdwyd Idwal yntau ar 4ydd Gorffennaf 1917 yn Ypres.
Cyfeirnod: WaW0145
Elizabeth Edmunds
Gwasanaeth: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre
Nodiadau: Prif Arolygydd Lles Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol Pen-bre (Ffatri Arfau Rhyfel). Enillodd yr MBE yn Ionawr 1919.
Cyfeirnod: WaW0139
Elizabeth Edmunds
Elizabeth Edmunds, Elizabeth Edmunds, prif Arolygydd Lles y Menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre
Etheldreda Morris
Man geni: Penbryn
Gwasanaeth: Prif Arolygydd Lles menywod, Ffatri Bowdwr Genedlaethol, Pen-bre
Nodiadau: Enillodd Etheldreda, merch y bardd Cymreig, Lewis Morris, yr MBE am ei gwaith ym Mhen-bre, mewn llythyr a arwyddwyd gan Winston Churchill a oedd yn Weinidog Arfau Rhyfel 1917-1919.
Cyfeirnod: WaW0147
Elzabeth Francis (Hopkin)
Man geni: Coity, Penybont-ar-Ogwr
Gwasanaeth: Merch fferm
Nodiadau: Ganed Elizabeth yn 1898 ac roedd hi’n ail ferch fermwr a chigydd. Roedd ganddi nifer o frodyr a chwiorydd iau. Gadawodd hunangofiant a ysgrifennwyd yn 1981.‘… Cadwem forwyn bob amser, hynny yw nes i mi adael yr ysgol yn 14 oed. Roedd fy mam yn falch i’m cael gartref gan ein bod wedi cael anhawster cadw morynion am ein bod mor anghysbell.‘ Symudodd y teulu i Langrallo yn 1914, lle bu hi’n helpu gyda gwaith tŷ ac yn y llaethdy. Galwyd ei brawd hŷn i’r fyddin yn 1916. Dywed eu bod arfer anfon parseli o fwyd, sigarennau yr arferent eu gwnïo i lieiniau a.y.b. ato. Goroesodd y rhyfel yn ddi-anaf. Priododd Elizabeth yrrwr injan, Cadwaladr Ivor Hopkin, yn 1925.
Cyfeirnod: WaW0131