Pori'r casgliad
Trefnwyd yn ôl enw
Lily Stock
Man geni: Pont-y-pŵl
Gwasanaeth: Nyrs, VAD, November 1917 – August 1919
Nodiadau: Gwasanaethodd Lily yn VAD mewn ysbytai ym Mryste a Colchester. Cafodd ei thalu a chododd y tâl o £12 y flwyddyn i £20 y flwyddyn. Gwelir ei henw ar Gofrestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown – ddwywaith efallai, enwir Nyrs Stock a Lily Stock. Mae dwy set o gardiau Croes Goch, un yn enw Beatrice Lily Stock ac un yn Lily yn unig. Fel arall mae’r manylion yr un fath.
Cyfeirnod: WaW0416
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown
Rhestr Anrhydedd Eglwys y Bedyddwyr Griffithstown gydag enwau Nyrs Stock a Lily Stock. Diolch i Gethin Matthews. rn
May Stratford
Man geni: Casnewydd
Gwasanaeth: Gweinyddes, WRAF, February 1918 – September 19
Nodiadau: Ganwyd May Stratford yn 1898 ac ymunodd â’r WRAF yn 1918. Ymddengys iddi wasanaethu, yn weinyddes, mewn sawl canolfan i’r RAF yn ne ddwyrain Lloegr. Bu farw yn 1982.
Cyfeirnod: WaW0191
May Stratford
May Stratford yn ei gwisg WRAF. Yn y llun hefyd mae darn arian wedi ei ysgythru â’i henw a ‘WRAF’
Mary Sutherland
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Coedwigwraig , WLA, 1916 -17
Marwolaeth: 1955, Wellington, Seland Newydd, Achos anhysbys
Nodiadau: Mary Sutherland oedd un o’r menywod cyntaf ym Mhrydain i ennill gradd mewn Coedwigaeth. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol gogledd Cymru Bangor o 1912-1916. Ar ôl graddio (yn yr un flwyddyn â Mary Dilys Glynne a Violet Jackson qv) gweithiodd yn adran goedwigaeth Byddin Dir y Menywod, ac o 1917 yn swyddog arbrofi cynorthwyol y Comisiwn Coedwigaeth. Wedi i’r Comisiwn Coedwigaeth grebachu yn 1922 symudodd i Seland Newydd lle gweithiodd yng Ngwasanaeth Coedwigaeth y Wladwriaeth a oedd newydd ei sefydlu.
Ffynonellau: Dictionary of New Zealand Biography, 1998.
Cyfeirnod: WaW0314
Adroddiad paper newydd
Adroddiad am raddedigion o Fangor gan gynnwys Mary Sutherland, Violet Gale Jackson a Mary Glynne. North Wales Chronicle 7fed Gorffennaf 1916.
Emily Charlotte Talbot
Man geni: Llundain
Gwasanaeth: Etifeddes, dyngarwraig
Marwolaeth: 1918/09/21, Llundain, Achos anhysbys
Nodiadau: Ganed Emily, ‘Miss Talbot’ fel y’i gelwid bob amser, yn 1840. Etifeddodd ffortiwn gan ei thad y meistr tir, y diwydiannwr a’r gwleidydd Rhyddfrydol Christopher Rice Mansel Talbot. Treuliodd lawer o amser yng nghartref y teulu ym Margan, ac roedd yn rhoddi’n hael, yn aml yn ddi-enw, i lawer o elusennau, yn fynych yn seiliedig ar y Eglwys. Erbyn dechrau’r rhyfel roedd mewn iechyd gwael ac yn byw yn llundain gan fwyaf; ymhlith ei chyfraniad yn 1914-18 oedd darpari bythynnod wedi eu dodrefnu ar gyfer ffoaduriaid Belgaidd, troi Castell Penrhys yn Ysbyty (a thalu am gostau ei redeg) a sedtlu cadair ar gyfer Meddygaeth Ataliol ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhoddodd arian hefyd at Neuaddau Eglwysig, hytiau YMCA a llyfrau i lyfrgell Carnegie newydd Porth Talbot. Yn Chwefror 1917 tanysgrifiodd £80,000 at Fenthyciadau’r Rhyfel, swm rhyfeddol i unigolyn prfat ei roi. Pan fu farw honnid mai hi oedd Arglwyddes Gyfoethocaf Prydain.
Cyfeirnod: WaW0411
Llun o Miss Talbot
Llun o Miss Talbot pan oedd hi’n iau. Roedd ei theulu yn arloeswyr ffotograffiaeth yng Nghymru.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lety Miss Talbot ar gyfer ffoaduriiad Belgaidd. South Wales Weekly Post 31 Hydref 1914.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rodd Miss Talbot o lyfrau Llyfrgell. South Wales Weekly Post 13 Mawrth 1915.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am rwaddol Midd Talbot o £30,000 i waddoli cadair meddygaeth ataliol yn Ysgol Feddygol Cymru. Cambria Daily Leader 16 Ionawr 1918.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad mewn papur newydd Awstralaidd ar bwrcasu Benthyciadau rhyfel gan Miss Talbot .
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am farwolaeth Miss Talbot. Rhydd yr erthygl hir adroddiad am ei haelioni. Cambria Daily leader 28 Chwefror 1918.
Annie Lillian Thomas (later McLoughlin)
Man geni: Cwm-iou
Gwasanaeth: Postmones, WAAC
Nodiadau: Ymunodd Annie Thomas â’r WAAC ym mis Mehefin 1918, yn 21 oed. Cyn hynny roedd wedi gweithio yn weinyddes yn Ysbyty Frenhinol Gwent. Cafodd ei hanfon i’r Ysbyty Milwrol Awstralaidd, Dartford. Erbyn iddi gael ei rhyddhau yng Ngorffennaf 1919 roedd wedi priodi, er na wyddys unrhyw beth am ei gŵr.
Ffynonellau: National Archives WO-398-153-8
Cyfeirnod: WaW0305
Ffurflen gofrestru WAAC
Ffurflen gofrestru Annie Thomas. Mae ei chyfenw a’i statws priodasol wedi cael eu newid. rn
Catherine Dorothy Thomas
Man geni: Crai Pont Senni c 1897
Gwasanaeth: Merch
Marwolaeth: 1918-11-28, Influenza / Y Ffliw
Nodiadau: Roedd Dorothy yr ail ieuengaf mewn teulu o wyth o blant. Bu ei mam farw yn 1912. Yn ôl yr hanes, meddai Catrin Edwards, trawyd y teulu gan y ffliw fawr ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Dorothy yn 21 oed ar y pryd a bu’n nyrsio’i theulu nes eu bod yn well, ond yna, yn 1918, daliodd hithau’r ffliw a bu farw ar Dachwedd 28ain.
Cyfeirnod: WaW0105
Catherine Dorothy Thomas c.1912
Catherine Dorothy ‘Dollis’ Thomas, tua 14 oed. Ymddengys ei bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw ei mam.
Celia Janet (yn sefyll) a Polly Thomas, c.1912
Celia Janet (‘Sis’) Thomas a’i chwaer hŷn Polly. Ymddengys eu bod yn gwisgo mwrning, felly efallai i’r llun gael ei dynnu yn 1912 pan fu farw eu mam.
Eleanor (or Sarah Jane) Thomas
Man geni: Cwmbwrla
Gwasanaeth: Gweithwraig mewn Ffatri Arfau Rhyfel
Marwolaeth: 1919-01-08, Pen-bre, Explosion/Ffrwydrad
Cofeb: Senotaff, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: 'Dangosodd y dystiolaeth i'r ffrwydrad ddigwydd pan oedd Gwenllian Williams yn drilio sgriw o siel. Roedd Eleanor Thomas yn cario siel i mewn pan ddigwyddodd y ffrwydrad.'
Ffynonellau: http://newspapers.library.wales/search?query=gwenllian&page=14; The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser
Cyfeirnod: WaW0059
Elizabeth (Lizzie) Thomas
Man geni: Blaendulais
Gwasanaeth: Nyrs, QAIMNSR, 1915 - 1920
Marwolaeth: 1921/09/27, Castell-nedd ?, Tuberculosis / Y dicléin
Cofeb: Blaendulais, Morgannwg
Nodiadau: Ganwyd Lizzie yn 1890 a mynychodd Ysgol Sir Castell nedd a hyfforddi yn nyrs yn Ysbyty Gyffredinol a Llygaid Abertawe. Gwrifoddolodd i ymuno â’r QAIMNS Wrth Gefn yn 1915, ac anfonwyd hi i Salonika trwy’r Aifft ym mis Tachwedd. Dywedir i’r llong filwyr yr oedd hi arni gael ei tharo â thorpido ac iddi dreulio sawl awr yn y dŵr. Dychwelodd adre ym mis Rhagfyr 1916, ac yn Ionawr 1917 cafodd dderbyniad gan y gymuned leol, gan gynnwys ei chyflwyno â medal a chanu cân eithriadol or-glodfawr iddi yn Gymraeg. Treuliodd weddill y Rhyfel, tan ei rhyddhau ym Hydref 1920 yn Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham. Gwobrwywyd hi â Medal y Groes Goch ym mis Ebrill 1919. Dychwelodd Lizzie adre i nyrsio yng Nghastell nedd, ond bu farw flwyddyn yn ddiweddarach o’r dicléin. Gwelir ei henw ar Gofeb Ryfel Blaendulais.
Ffynonellau: Jonathan Skidmore: Neath and Briton Ferry in the First World War
Cyfeirnod: WaW0477
Cerdd / cân
Y gân chwithig a berfformiwyd yn nerbyniad Nyrs Thomas ym mis Ionawr 1917. Y cyfansoddwr oedd Mr R.D.Harris a chanwyd hi gan y Mri D.T.Davies a John Hughes. Llais Llafur 6ed Ionawr 1917.
Ffurflen y Fyddin W.3538
Cofnod anfon Lizzie Thomas i Ysbyty Milwrol Fort Pitt, Chatham, 1af Medi 1917
Emily May Thomas (née Matthews)
Man geni: Caerfyddin
Marwolaeth: November /1918 / Tac, Caerfyddin, Influenza / y ffliw
Nodiadau: Addysgwyd Emily yn Ysgol Sir y Merched, Caerfyrddin a matricwleiddiodd yn ifanc, yn 16 oed. Daeth yn athrawes yn Ysgol (Eglwysig) Model, Caerfyrddin. Yn Chwefror 1918 priododd yr Is-gapten Richard Thomas o Gorfflu y Gynnau Periiant a oedd yn athro hefyd. Anafwyd ef ym mis Hydref 1918. Ym mis Tachwedd yn syth wedi iddo ddod adref o’r Ysbyty, daliodd Emily’r ffliw a bu farw.
Cyfeirnod: WaW0423
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am lwyddiant Emily Matthews yn yr arholiad rnCarmarthen Weekly Reporter 9 Medi 1910.
Adroddiad papur newydd
Adroddiad am briodas Emily Matthews a Richard Thomas rnCarmarthen Weekly Reporter 15 Chwefror 1918.
Eunice Thomas
Man geni: Abertawe ?
Cofeb: Capel Mynydd Bach, Abertawe, Morgannwg
Nodiadau: Ni wyddys unrhyw beth am Eunice Thomas y gwelir ei hen war Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Abertawe (60)
Cyfeirnod: WaW0162
Restr Anrhydedd
Cofnod o wasanaeth rhyfel Eunice Thomas ar Restr Anrhydedd Capel Mynydd Bach, Swansea